1 minute read

Diolch am bob dim Haf

Ers 29 o flynyddoedd mae Haf Thomas wedi bod yn wyneb cyfarwydd iawn i’r rhai ohonom sy’n gweithio yn y Pencadlys yn Nghaernarfon.

Cyn y cyfnod Covid bydd nifer ohonom yn cofio Haf yn ymweld a swyddfeydd yn danfon y post Byddai Haf yn cerdded mewn i’r ystafell yn wên o glust i glust, a’r wên honno yn cynyddu bob tro y byddai Westlife yn rhan o’r sgwrs.

Advertisement

Mae Haf wrth ei bodd efo cerddoriaeth ac roedd yn flaenllaw mewn trefniadau cyngherddau Nadolig yn yr hen gyntedd ar hyd y blynyddoedd.

Mae Haf bellach wedi darfod gweithio i Gyngor Gwynedd ac yn ddiweddar cafwyd noson i ddiolch iddi am ei blynyddoedd o wasanaeth i’r Cyngor. Haul oedd themâu’r noson am y rheswm syml fod yr haul yn dilyn Haf bob tro y mae hi’n cerdded mewn i’r ystafell. Bwyty’r Wâl yn Nghaernarfon oedd yn disgleirio wrth i Haf fwynhau noson gyda’i ffrindiau o’r Uned Gefnogol.

Er fod cyfnod Haf yn y Cyngor wedi dod i ben, ni fydd ganddi lawer o amser i roi ei thraed fyny. Yn 2014 cafodd Haf ei urddo i Orsedd yr Eisteddfod am ei gwaith diddiwedd yn casglu arian at achosion da ac mae hi’n edrych ymlaen i fynychu Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd yn mis Awst Mae Haf hefyd wrthi’n ysgrifennu ei hunangofiant, a dwi’n siŵr ein bod i gyd yn edrych ymlaen i’w ddarllen unwaith y bydd wedi ei gyhoeddi.

Ar ran y Cyngor, diolch o galon i chdi Haf am yr holl flynyddoedd o wasanaeth ac am ddod a gwen i’n wynebau bob tro Paid bod yn ddiarth!

This article is from: