Cylchlythyr Haf 2023
Gefeillio Llanuwchllyn a'r Gaiman
Ym mis Hydref 2020 y cysylltodd Ricardo Evans hefo Cyngor Cymuned Llanuwchllyn gyntaf, gan ddweud bod Maer y Gaiman, Dario Evans, wedi cael y syniad o efeillio’r Gaiman a Llanuwchllyn. Syniad oedd yn gwneud synnwyr perffaith, wrth gwrs, o ystyried mai o Lanuwchllyn yr hanai Michael D Jones a’r holl gysylltiadau sydd wedi bod rhwng y Gaiman a Llanuwchllyn ar hyd y blynyddoedd.
Bu’r broses yn un faith ond o’r diwedd daeth pethau i fwcwl gydag ymweliad Ana Chiabrando Rees â’r Cyngor ar 2 Mai 2023 ac aed ati i lofnodi’r cytundeb yn ffurfiol. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael cryfhau’r berthynas â’r Gaiman dros y blynyddoedd nesaf gan obeithio y bydd yr ysgolion yn dod i gysylltiad â’i gilydd ac y bydd gwahanol gymdeithasau’r ddwy ardal yn cyd-weithio hefyd.
Beryl H Griffiths
Euros Roberts, ein Cadeirydd ac Ana. Mae gan Euros deulu yn y Wladfa - ar ochr ei dad (teulu Gower Road) a’i fam, (teulu Ddôl Fawr, Tir Halen)
Cofeb y Mimosa ger Doc Princes
Yn ddiweddar mae Cymdeithas Etifeddiaeth Cymry Glannau Mersi wedi adnewyddu'r geiriau ar Gofeb y Mimosa ger Doc Princes yn Lerpwl gan fod heli afon Merswy wedi eu difetha. Dadorchuddiwyd y gofeb yn wreiddiol gan Elan Jones yn 2015 i ddathlu 150 o flynyddoedd ers y fordaith.
Os hoffech fynd i weld y gofen dyma'r lleoliad: Cofeb y Mimosa
Diolch arbennig i’r rhai fu’n gyfrifol am drefnu’r gwaith - Rhiannon Liddell, E Brian Thomas a’r Dr D B Rees ac i Iolo Thomas, Gresford am rodd tuag at y costau.
Y Cyngor llawn ac Ana Chiabrando Rees
Ysgolion y Wladfa
Ysgol Gymraeg y Gaiman
Agor Ystafell Euros Jones
Eleni mae Ysgol Gymraeg y Gaiman yn dathlu 30 o flynyddoedd ers agor yr ysgol Dechreuodd fel Ysgol Feithrin ac yna tyfu o flwyddyn i flwyddyn i fod yn Ysgol Gynradd lawn
Rydym yn gweithio mewn adeilad heb ddigon o ystafelloedd i bawb, felly mae adran y babanod a thair oed yn ymgynnull mewn adeilad arall, ond y freuddwyd yw i bawb fod o dan yr un to! Felly dechreuon ni gasglu arian i’r pwrpas hwnnw
GydarhoddsylweddoleinffrindiauEurosacElunedJones,afu'ngweithioyneinplith,llwyddwydigwblhau unohonynnhw,ondmae’rddwyaralldalhebeugorffen.TraoeddElunedymaymmisEbrillgorffennwydy gwaitharuno’rystafelloedd,aphenderfynwydeigalwhiynYstafellEurosJones,ercofamdanoacamei garedigrwydd
Rydymynddiolchgariawnibawbsyddwedibodyncyfrannutuagatyfenter.Tairystafellychwanegola thoiledausyddynycynllun Daliweithioyw’ramcannesiniwireddu’rfreuddwydaphwyaŵyr, efallaibydd rhaidymestyniymatebgalwadygymunedamfwyoaddysgGymraeg–Sbaeneg
Bu’r wythnos ola’ yn Nyffryn Camwy yn arbennig iawn i mi. Teithiais o’r Andes wedi ffarwelio â phawb yno ar draws y paith ar y bws nos i fynychu seremoni agor dosbarth newydd –
Ystafell Euros Jones Bu’n achlysur hyfryd ar ddiwedd cyfnod o chwe mis anhygoel ym mhob rhan o’r Wladfa gyda chyfeillion annwyl iawn.
Roedd y Seremoni awyr agored ar ddiwrnod poeth ar ddechrau tymor yr Hydref yn dod ag atgofion hapus o’r cyfnod a dreuliodd Euros a minnau yn y Gaiman
Treuliodd y ddau ohonom dair blynedd hapus iawn yn y Wladfa. A dweud y gwir ar gychwyn ein cyfnod yn 2014 cymerodd Euros dipyn o amser i setlo, ond erbyn 2016 doedd e ddim am fynd adre! O fewn y mis neu ddau cynta’ yn 2014 bu Euros wrthi’n helpu coginio picie bach ar gyfer y Ffair Amaethyddol, a chydweithio’n gyson gyda Juan Davies i ddysgu myfyrwyr i adrodd. Roedd yn rhan o lawer o weithgareddau amrywiol erbyn diwedd y cyfnod, yn eu mysg bod yn Sion Corn yn y gwres tanbaid yng nghanol yr haf ym mis Rhagfyr Dyma’r atgofion oedd yn mynd trwy’r meddwl ar y bore yma
Does dim yn rhoi mwy o wefr i neb na chlywed y plant yn canu yn Gymraeg ar ddiwrnodau o’r fath mewn seremonïau tebyg Roeddwn yn falch o fod ymhlith y gynulleidfa luosog a ddaeth ynghyd, ffrindiau agos i ni’n dau Roedd presenoldeb Delyth MacDonald a’i theulu o Gymru yn ychwanegu at yr achlysur Dywedodd y Pennaeth Ariela Gibbon yn ei hanerchiad ‘Dyn ni bob amser yn cofio am y gytgan oedd Miss Tegai yn hoffiOs cydweithio a wnawn, llawenydd a gawn' .
Ymhyfrydwn fod cymaint o frwdfrydedd yn parhau i sicrhau llwyddiant Ysgol Gymraeg y Gaiman heddiw. Rhaid canmol yr ymdrech barhaol o gydweithio a’r gefnogaeth i’r addysg safonol iawn a ddarperir yn gyson. Roedd cymaint o rieni wedi ymuno ac fe ddwedodd hyn wrthyf yn ddigon clir bod awyrgylch hapus yn bodoli a phartneriaeth agos rhwng yr ysgol â’r cartre’. Bu’r tair mlynedd a dreuliodd y ddau ohonom ymhlith Cymry
Patagonia yn goron ar bob profiad yn ein bywydau. Diolch o galon.
Eluned ac Euros Jones gyda Luned Gonzalez yn 2014
Ariela Gibbon - Pennaeth yr ysgol
Mae Ysgol Gymraeg y Gaiman yn croesawu athrawon a gwirfoddolwyr o Gymru bob blwyddyn. Cysylltwch â ygyg1035@gmail.com
Ysgol yr Hendre, Trelew
Mae Ysgol yr Hendre, Trelew yn chwilio am athro/athrawes sydd wedi derbyn hyfforddiant ar gyfer addysgu mewn Ysgol Gynradd i weithio am 10 mis yn yr ysgol o Chwefror i Ragfyr 2024.
Mae’r ysgol yn cynnig gwersi trwy gyfrwng y Sbaeneg yn ogystal â thrwy gyfrwng y Gymraeg i blant rhwng 3 a 12 oed sydd ddim yn siarad Cymraeg gartref. Mae’r system addysg ym Mhatagonia yn wahanol iawn i’r drefn yng Nghymru, felly bydd gofyn i chi fod yn frwdfrydig, a hyblyg i weithio mewn amryw o sefyllfaoedd gwahanol. Bydd cyfle i chi hefyd hyfforddi’r plant ar gyfer gwahanol weithgareddau fel Eisteddfodau a nosweithiau llawen
Telir cyflog ar raddfa tâl athrawon y Wladfa, a darperir llety a thocyn awyren Am fwy o fanylion cysylltwch â’r ysgol a/neu anfonwch eich CV at: ysgolyrhendre@gmail.com Dyddiau cau i ymgeiswyr: 15 Medi 2023
Mae Ysgol y Cwm Trevelin yn ffynnu, ac angen unigolion brwdfrydig i ddod i'n helpu ni. Mae gan yr ysgol dros 150 o
Ysgol y Cwm, Trevelin
ddisgyblion rhwng 3 a 13 oed, a bydd ysgol uwchradd newydd yn agor yn 2024. Tybed a oes gennych chi rywbeth i'w gynnig i ni? Dewch i ymuno a thîm o athrawon arbennig mewn ysgol sy'n mynd o nerth i nerth, mewn cymuned unigryw ym mhen draw'r byd Mae'r ysgol yn fwrlwm o ganu, dawnsio, celf a chwaraeon, ac yn gyfuniad rhyfeddol o ddiwylliannau.
Oes gennych chi brofiad gyda phlant meithrin? Neu efallai mai dysgu Cymraeg ail-iaith i arddegwyr yw'ch dawn chi? Os ydych chi'n frwd dros addysgu Cymraeg, ac yn barod am antur yn yr
Andes, cysylltwch â ni Anfonwch e-bost yn sôn am eich profiadau a pham bod gennych chi ddiddordeb at gwybodaeth@ysgolycwm.com
A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu a datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia? Ydych chi’n chwilio am her newydd a phrofiadau gwerth chweil yn 2024?
Mae tair swydd gan y Cyngor Prydeinig yn 2024 i athrawon neu diwtoriaid cymwys a phrofiadol i ddysgu naill ai plant neu oedolion. Bydd y dyletswyddau hefyd yn cynnwys trefnu gweithgareddau cymdeithasol ar ran Menter Iaith Patagonia Am fwy o fanylion ac am ffurflen gais, cysylltwch â iepwales@britishcouncil.org Y dyddiad cau yw 9 Hydref 2023
Mae dau diwtor Cymraeg newydd yn cyrraedd y Wladfa cyn bo hir.
Dyma ychydig o'u hanes!
Yn dysgu yn yr Andes bydd Tom Door o Aberpennar. Ar hyn o bryd mae’n athro cynradd, ond mae hefyd wedi cael profiad o ddysgu Cymraeg a Sbaeneg mewn ysgol uwchradd, felly bydd yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau Graddiodd mewn Celf, a hoffai gyfrannu at ddiwylliant celfyddydol yr ardal.
Mae’n siarad Sbaeneg ac yn gyfarwydd â’r Ariannin yn barod ond dyma fydd y tro cyntaf iddo ymweld â de’r wlad Roedd wedi bwriadu gwirfoddoli yn Ysgol y Cwm pan ddaeth y pandemig!
Mae gan Tom ddiddordeb mawr mewn pêl-droed, ac yn hoff o yfed mate a bwyta bwyd traddodiadol yr Ariannin, ond dydi o ddim yn hoffi jam llaeth!
Bydd Llinos Howells yn mynd yn diwtor i’r Dyffryn. Mae’n byw ym Merthyr Tudful ond yn wreiddiol o Ogledd Cymru Ymysg ei diddordebau mae darllen, cerdded, nofio a theithio, ac mae’n siarad Ffrangeg a Sbaeneg Mae’n athrawes gynradd brofiadol ac yn gyfarwydd â dulliau trochi iaith a defnyddio adnoddau digidol i ddysgu. Mae hi hefyd wedi hyfforddi llawer o blant i lefaru, actio a dawnsio gwerin ar gyfer Eisteddfodau.
Mae Llinos wedi ymweld â’r Wladfa ar ddau achlysur, a cafodd ei swyno gan hanesion y wlad ac ymdrechion y Cymry cynnar. Bydd treulio amser yno yn gwireddu breuddwyd!
Hoffech chi dreulio deg mis yn byw ac yn gweithio ym Mhatagonia? Dyma’ch cyfle!
Dod i adnabod Lleucu Haf - athrawes yn Ysgol Gymraeg y Gaiman eleni
Lleucu Haf ydw i, o Aberystwyth. Dw i’n mwynhau ieithoedd a chwrdd â phobl newydd. Mae gen i radd mewn ieithoedd, a dw i’n awyddus iawn i gael gafael dda ar y Sbaeneg dros y 10 mis bydda i’n eu treulio yma yn yr Ariannin gyda fy merch, Eleanor Dw i’n gweld y gwaith yn y Gaiman fel cyfle i mi ffocysu ar addysgu iaith (dramor) yn y sector cynradd, a gosod sylfeini addysgol yn is i lawr Mae’n fraint felly cael cyfle i ddysgu iaith i blant Bl 5 & 6 Ysgol Gymraeg y Gaiman bob prynhawn, ynghyd â gweithio yn nosbarth plant pedair oed bob bore o 8 tan 12. Dw i’n angerddol iawn dros ddysgu ieithoedd ac wedi fy nghyfareddu yn llwyr gyda’r gwaith sy’n cael ei wneud yma yn Ysgol Gymraeg y Gaiman Mae gan blant hynaf yr ysgol afael go dda ar y Gymraeg ac maen nhw’n frwdfrydig iawn yn dysgu ac yn defnyddio’r iaith. Mae pob un plentyn yn ymdrechu i ddefnyddio’r Gymraeg ac er nad yw’r mwyafrif yn siarad yn rhugl, mae’n bleser eu gweld yn defnyddio’r iaith orau ag y medran nhw ac yn cyfathrebu yn llwyddiannus Mae eu brwdfrydedd yn ysbrydoliaeth i mi Fy mreuddwyd tymor hir yw gweithio fel athrawes iaith yn ôl yng Nghymru ac ysbrydoli plant i fod eisiau dysgu ieithoedd rhyngwladol yn ogystal ag ymfalchïo yn y Gymraeg a Chymreictod
Mae cwrdd â rhieni eraill yr ysgol dros y pedwar mis diwethaf a dechrau meithrin perthynas gyda nhw wedi bod yn uchafbwynt i fy mhrofiad i fan hyn Mae'n braf cael siarad am Gymru ac am y Gymraeg gyda phobl sydd ond newydd ddechrau anfon eu plant i'r ysgol Gymraeg yma ac sydd yn awyddus i wybod mwy am ein gwlad a'n ddiwylliant
Dechreuais gyfnewid gwersi Cymraeg am ddosbarthiadau dawnsio Flamenco gydag un rhiant, ac mae'r wers Gymraeg 1-1 bellach wedi datblygu i mewn i ddosbarth nos wythnosol i rieni, staff ysgol a chymuned ehangach y Gaiman Mae cynnal dosbarth wythnosol i oedolion yn grêt i mi fel gweithgaredd gymdeithasol ac mae'n bosib bydd rhaid cynnal dau ddosbarth yr wythnos gan fod nifer sylweddol o oedolion yma yn Gaiman yn awyddus i ddysgu.
Dw i’n hynod ddiolchgar am y cyfle sydd wedi dod i fy rhan ac yn gyffrous iawn am yr antur sydd o’m blaen dros y 6 mis nesaf!
Dawnswyr Cwm Hyfryd
Dechreuodd y grŵp ar ôl i mi hyfforddi grŵp bach o blant, oedd yn mynd i Ysgol Gymraeg yr Andes yn
2008, i ddawnsio gwerin, ac mae’r grŵp wedi dal í fynd! Ers hynny dyn ni wedi cystadlu mewn Eisteddfodau, cyngherddau, actos, a phartïon priodas Mae´r grŵp yn mwynhau dawnsio!
Mae llawer o blant yn dod i’r ymarferion bob nos Lun, ac mae grŵp o oedolion yn ymarfer ddwy waith yr wythnos, a grŵp bach o blant yn dod i ymarfer clocsio. Eleni, buon ni’n cystadlu yn Eisteddfod Trevelin gyda grŵp oedolion, grŵp teuluodd a grŵp plant. yr wythnos diwetha buodd y plant yn dawnsio yn Eisteddfod Ysgol Puertas del sol, a dydd Sadwrn byddan ni´n cymryd rhan mewn cyngerdd
Dyn ni’n gobeithio dawnsio wedyn yn y ffair dros y gaeaf, ac yn y cyngerdd Gŵyl y Glaniad wrth gwrs
Yn mis Awst, am y tro cyntaf, byddwn ni’n teithio i Borth
Madryn i gystadlu yn Eisteddfod Mimosa. Mae rhai o’r plant yn mynd gyda´r mamau a dyn ni’n gobeithio dawnsio, adrodd, canu, cyd-adrodd a chael llawer o hwyl!
Jessica Jones - hyfforddwr Dawsnwyr Cwm Hyfryd
Holi Esyllt Nest Roberts de Lewis
Mae Esyllt yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Cymru-Ariannin ac eleni wedi ei dewis i fod yn Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
Mae'n gweithio fel athrawes Gymraeg, athrawes delyn, cyfieithydd a golygydd Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd a Chadair Eisteddfod y Wladfa ac mae’n mwynhau hyfforddi plant i lefaru a llenydda yn eisteddfodau’r
Wladfa a chynnal y diwylliant Cymraeg yno. Mae hefyd yn cyfrannu i gyhoeddiadau yng Nghymru yn sôn am y Wladfa, yr hanes a’r traddodiadau. Bydd yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni ar gychwyn Cymanfa Ganu’r Eisteddfod a gynhelir nos Sul 6 Awst yn y Pafiliwn Mawr, ar faes yr Eisteddfod.
Rho rywfaint o dy gefndir i ni, os gweli di'n dda.
Dwi’n dod yn wreiddiol o bentref bach Pencaenewydd yng
nghalon Eifionydd Mi symudon ni i’r Ffôr pan oeddwn yn 8 oed (i lawr y lôn ond roedd y torcalon fel pe bawn yn symud i gyfandir arall!)
Beth yw dy gysylltiad di â'r Wladfa?
Deuthum yma i weithio yn 2004 ac yma yr ydw i o hyd – ond mae gen i ŵr a dau o hogia bellach
Ti yw un o aelodau diweddaraf pwyllgor gwaith Cymdeithas
Cymru-Ariannin. Beth mae hyn yn ei olygu? Beth yw dy obeithion? Beth mae'r Gymdeithas yn ei olygu i ti?
Mae’r Gymdeithas yn allweddol i fywydau’r Gwlafawyr Cymraeg a Chymreig Mae hi’n ddolen hanfodol, yn asgwrn cefn gwerthfawr
iawn ac yn glust i wrando a datrys problemau
Mae hi’n cynnig cyfleoedd ac yn cynorthwyo Gwladfawyr i fynd i wlad eu cyndeidiau – mae hynny’n hanfodol er mwyn parhad yr iaith yn y Wladfa, yn fy marn i Mae’r aelodau yng Nghymru hefyd yn hanfodol pan fyddant yn teithio i’r Wladfa i gefnogi’r gwaith a wneir yma Gobeithiaf y bydd y berthynas yn parhau am flynyddoedd maith i ddod
Llongyfarchiadau ar fod yn Arweinydd newydd Cymru a'r Byd! Alli di esbonio beth yn union yw'r rôl, os gweli di'n dda? (oedd 'na broses arbennig? shwt glywest ti?)
Wyddwn i ddim byd am y peth nes i mi gael y gwahoddiad a’i dderbyn yn syth, wrth gwrs Mae’n fraint fawr i mi, yn enwedig gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol ym mro fy mebyd Yn ogystal â hyn, dwi mor falch o allu cynrychioli’r holl Gymry sy’n byw ym mhedwar ban byd sy’n dal i gynnal y Gymraeg a’r diwylliant ac ymhyfrydu yn eu Cymreictod Mae gennym ni yn y Wladfa gymdeithas leol gref a chefnogaeth y Cynllun Dysgu Cymraeg a Chymdeithas Cymru Ariannin wrth wneud hynny wrth gwrs ac mae’n fraint bod yn rhan o’r gymdeithas unigryw hon
Beth ma'r Eisteddfod Genedlaethol, ac eisteddfodau eraill, yn eu golygu i ti?
Heblaw am ddawnsio gwerin a chynganeddu, mae’n debyg fy mod wedi bod yn cymryd rhan mewn eisteddfodau (yn perfformio a sgwennu) ar hyd fy oes Cerdd dant, adrodd, canu gwerin, darllen ar yr olwg gyntaf, chwarae piano, partïon a chorau, sgwennu, arlunio, coginio, prawf modiwletyr mewn eisteddfodau bach lleol, eisteddfodau capel, yr Urdd a Chenedlaethol a holl eisteddfodau’r Wladfa, wrth gwrs O ran cymryd rhan, un pinacl personol oedd ennill y wobr gyntaf am wneud pwdin reis yn Eisteddfod Bethel y Gaiman, a chael y profiad hyfryd o ganu efo Côr yr Heli yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dwi hefyd wedi ennill Coron Eisteddfod yr Urdd a dwy o Gadeiriau Eisteddfod y Wladfa Erbyn hyn dwi wrth fy modd yn
hyfforddi plant y Wladfa i gymryd rhan yn y cystadlaethau adrodd a chanu’r delyn, ac ysgrifennu yn Gymraeg hefyd wrth gwrs Mae pob eisteddfod ledled y byd yn ddigwyddiadau mor waraidd a chyfoethog yn fy marn i a’u cyfraniad i fywydau pobl yn amhrisiadwy Hir y parhaed pob eisteddfod!
Ysgoloriaeth Patagonia - Blaenau Ffestiniog a Rawson
Pob blwyddyn mae Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog yn cynnig ysgoloriaeth o £2000 i alluogi person ifanc o’r ardal deithio i ymweld â Rawson, er mwyn cryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy dref sydd wedi gefeillio. Enillydd ysgoloriaeth eleni oedd Terry Tuffrey a dyma sydd ganddo i’w ddweud: Mae mynd i Batagonia wastad wedi bod yn freuddwyd i mi oherwydd bod y cysylltiad Cymreig yno yn gryf iawn a dwi’n ymddiddori mewn hanes. gobeithio cymryd rhan yn yr Eisteddfod yn llefaru neu’n canu, cadw’r iaith Gymraeg i fynd rhwng Blaenau Ffestiniog a Rawson, dysgu am sut mae ysgolion plant gydag anableddau yn gweithio, a hefyd am fyd natur Patagonia Hoffwn i ymweld â Rawson, a’r rhannau eraill o Batagonia lle mae pobl yn siarad Cymraeg, a dod i adnabod yr ardaloedd ychydig yn well. Rydw i yn edrych ymlaen at ymweld â phobl y Wladfa i ddysgu mwy am y lle, ond yn fwy byth, dwi’n edrych ymlaen i gael asado neu mate am y tro cyntaf!
I ennill yr ysgoloriaeth, yr unig beth roedd raid i mi ei wneud oedd ysgrifennu traethawd yn sôn am Patagonia a’r cysylltiad Cymreig, a dywedodd y beirniaid Tecwyn Vaughan Jones, ei fod wedi mwynhau darllen fy nghais am yr ysgoloriaeth, ac nad oedd o wedi gweld dim byd o’r fath o’r blaen Yn ystod fy ymweliad â Phatagonia, rwy’n
Ysgoloriaeth Michael D Jones
Gymdeithas Cymru-Ariannin yn arbennig i drigolion y Wladfa Bwriad yr ysgoloriaeth yw galluogi unigolyn sy’n byw yn Chubut ddod i dreulio amser yng Nghymru i wella ac i ddatblygu ei sgiliau mewn unrhyw faes ymarferol cydnabyddedig trwy gyfrwng y Gymraeg. Gobeithir bydd yr enillydd yn mynd nôl i’r dalaith gyda mwy o hyder i ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd, ac yn frwdfrydig i basio eu sgiliau ymlaen i eraill.
Mae'r ysgoloriaeth yn agor i geisiadau ar Fai 28ain a’r dyddiad cau yw Gŵyl y Glaniad – 28ain o Orffennaf.
Dyma air bach gan Santi Meza – enillydd YsgoloriaethMichaelDJones2022:
HeloSantisyddyma!
Dwiwedicymrydbroniflwyddynidrefnu'r daithiGymruigaelprofiadynycyfryngau. Dwi newydd raddio mewn cwrs cyflwynydd radioateleduoYsgol805ClydwynapAeron Jones,Trelew,adyna’rmaeswnesiroiary caisargyferyrysgoloriaeth
Dwi’nedrychymlaeniarsylwiadatblygufysgiliaumewngwahanolgwmnïauradioa theledu!
Erbynhyndwiweditreulio’rwythnosgyntafynNgogleddCymruyncaelprofiad hefoCwmniDaynffilmio’rrhaglendeledugerddorolNosonLawen-roeddennhw'n ffilmiotairrhaglenwahanol.Rŵandwi'nBBCRadioCymruyngnghanolCaerdydd acwedicaelgweldsutmaepethau’ngweithioarraglenShanCothi,Trystanac Emma,aDrosGiniohefoDewiLlwyd
Dwiwedicaelprofiadauanhygoel-bythgofiadwy! DiolchynfawriGymdeithas Cymru-Arianninamycyfle-syniadgwychigynnigysgoloriaethiddatblygusgiliauac ymarferdyGymraegmewnmaeswytti'nhoffieiwneud. MaepawbynCwmniDaa RadioCymruwedibodyngyfeillgariawnadwiwedigwneudffrindiauda!
WelaichiynstondinCymdeithasCymru-Arianninynysteddfod!
Fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant geni Michael D Jones yn 2022, sefydlwyd ysgoloriaeth flynyddol gan
Clwb Cyfeillion
Beth am gefnogi’r gwaith o hyrwyddo'r Gymraeg yn y Wladfa drwy ymuno â Chlwb
Cyfeillion Cymru-Ariannin?
Ennillwyr Mai 2023:
£100 (Rhif 340) Jois Nelson, Dinbych
£ 75 (Rhif 266) Lywena Ashton, Trelawnyd, Rhyl
£ 50 (Rhif 206) Menna George, Pencader
£ 25 (Rhif 126) Loreen Williams, Pontypridd
Daw incwm rheolaidd i’r Gymdeithas o’r Clwb sy’n ein galluogi i gefnogi mudiadau ac achosion Cymreig yn y Wladfa Y tâl ymuno yw £10 y flwyddyn ac mae gwobrau o £100, £75, £50 a £25 bedair gwaith y flwyddyn Os hoffech ymuno, anfonwch ebost at eleriproberts@hotmail.com neu ffoniwch 07790513048
Newyddion o'r canghennau
Cangen Sir Gâr
Cafwyd noson wych ar y 18fed o Fai yn yr Atom yng Nghaerfyrddin yng nghwmni Eluned Jones.
Rhannodd ei phrofiadau pan ‘roedd allan ym
Mhatagonia, o un pen i’r llall ‘Roedd mor dwymgalon ei thraddodi nes eich bob yn teimlo eich bod gyda hi.
‘Roedd Caffi’r Atom wedi paratoi lluniaeth ar ein cyfer, blasus dros ben. Diolch i Eluned Grandis am y paratoi.
Gyda Gŵyl y Glaniad yn ein hardal ni yn Sîr Gâr eleni, Sadwrn, Gorffennaf 29ain, daeth criw ohonom ynghyd i Neuadd Llanarthne nos Wener, Mai 16eg, i gael golwg manwl o’r lle. Neuadd hyfryd a chyfleusterau A*. Teimlwn yn hyderus i groesawu Cymru gyfan atom i’r ŵyl yn Llanarthne.
Dewch bawb i ddyffryn Tywi, I ddathlu Gŵyl y Glaniad eleni.
Bydd croeso yma i bawb a ddêl
Am fwyd, dawns a chymdeithasu.
Pwyllgor Gefeillio Aberteifi-Trevelin
Cafwyd Bore Coffi a stondin gacennau lwyddiannus iawn yn Neuadd y Dref, Aberteifi
dros £500 Cynhelir Bore Coffi arall bore Sadwrn 16 Medi yn NeuaddyDrefAberteifio9yboretanganoldydd Byddcroesocynnesibawbymunogydani
bore Sadwrn, 18 Mawrth a gwnaethpwyd elw
Byddamrywo'rfroynmyndardaithi'rWladfaymmisHydrefargyferyrEisteddfodynNhrelewacyntreuliotair wythnos yn crwydro'r Ariannin a Tsili. Arweinydd y daith fydd y Parchedig Eirian Wyn Lewis, Mynachlog-ddu a fyddynmyndi'rWladfaamytrydyddtroarddeg!
Gallunrhywunsyddâdiddordebmewnymaelodigysylltuageirianbrynhyfryd@aol.com
Mae aelodau’r Gangen wedi bod yn brysur y tro yma ac ynghlwm â digwyddiadau yn y brifddinas. Felly, ni chynhaliwyd digwyddiadau gan y Gangen.
Cangen y De
Edrychwn ymlaen at weld pawb yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan. Cawn gyfle wedyn i fynd ati fel Cangen i lunio rhaglen Medi - Rhagfyr 2023. Os hoffech chi fynd i weithgareddau'r gangen cysylltwch â Sandra De Pol gwawryrandes@yahoo.co.uk
Cangen Clwyd
Os hoffech gysylltu anfonwch e- bost at Glory Roberts johntyhen@aol.com
Croeso cynnes i aelodau newydd i'r gangencysylltwch ag Elfed Davies: elfedpenffin@hotmail.com 07836739043
o
Cangen Môn ac
Os hoffech gysylltu gyda'r gangen cysylltwch â Nesta Davies nestamarydavies@gmail.com 07870323790
Arfon
Ydych chi'n mynd i ymweld â'r Wladfa eleni, ac yn dymuno rhoi anrhegion neu adnoddau i'r ysgolion neu'r gymuned?
Mae ysgolion a'r cymunedau yn Y Wladfa yn werthfawrogol iawn o garedigrwydd Cymry sy'n ymweld â nhw yn cyfrannu at yr adnoddau sydd ar gael, ond yn aml mae beth sydd ei angen yn wahanol i'r hyn fuasen ni'n ei dybio. Er enghraifft, wyddoch chi ei bod hi'n amhosib cael Blu-Tac yn yr Ariannin?
Mae gan Cymdeithas Cymru-Ariannin restr o adnoddau mae'r gymuned yn awyddus i'w derbyn - cysylltwch â'r ysgrifennydd i gael manylion Yn yr un modd, gan nad yw postio nwyddau i'r Ariannin yn rhwydd iawn, os oes ganddo chi le yn eich ces i gario rhywbeth draw, byddwn yn gwybod am bethau sy'n aros i gael eu cludo i bobl benodol.
Hefyd. mae cynllun Patagonia Instrument Project yn elusen yng Nghymru sy'n darparu offerynnau cerddorol ar gyfer grwpiau ieuenctid ac ysgolion ym Mhatagonia, a bydden nhw yn falch iawn o gael rhywun i gludo offerynnau draw
Cymdeithas Cymru-Ariannin yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd
Dydd Iau, Awst 10fed
Mae croeso i bawb ddod i stondin y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod eleni i gyfarfod ffrindiau a rhannu eu straeon. Bydd rhai o'n ffrindiau o'r Wladfa o gwmpas drwy'r wythnos a bydd cornel i'r plant a chyfle i chi drio mate!
Rhif y stondin ydi 126-127 - byddwn drws nesaf i Undeb Cymru a'r Byd. Os hoffech helpu ar y stondin cysylltwch â'r ysgrifennydd.
Swyddogion 22-23
Llywydd
Cadeirydd
Is-gadeirydd
Menna George
Lois Dafydd
Eluned Owena Grandis
Pwyllgor Gwaith 22-23
Glory Roberts
Parch. Eirian Lewis
Elvira Moseley
Nesta Davies
Ceris Gruffudd
Elliw Baines-Roberts
Dwyryd Williams
Eleri Roberts
Eluned Jones
Elfed Davies
Sandre De Pol
Cathrin Williams
Esyllt Roberts
Rhisiart Arwel
11.30am
1:30pm
ByddsgwrsganTwmEliasam ei brofiadauynyWladfa
CyfarfodblynyddolCymdeithasCymruArianninymMhabellyCymdeithasau.
Bydd croeso ar ôl y cyfarfod i bawb ddod i'r stondin i gymdeithasu!
Gweithgareddau ar stondin Undeb Cymru'r Byd
Dydd Sadwrn, Awst 5ed:
11am Cyflwyno medal Cymru a'r Byd i Esyllt
Dydd Llun Awst 7fed:
11am Bydd Ffion Denman yn cynnal gweithdy 'Gwnïo
Ffotograffau' - addas i blant 9 + oed
Dydd Mawrth, Awst 8fed:
11am Cyfarfod Blynyddol; 15:30 Sgwrs gyda Esyllt
Os hoffech ymaelodi â'r Gymdeithas, y gost ydi £15.00 i unigolyn (£10 i rai dan 25 oed) neu £25.00 i gwpl. Anogwn aelodau i dalu'n uniongyrchol drwy archeb banc flynyddol.
Cysylltwch â'r ysgrifennydd i gael ffurflen ymaelodi, neu ffurflen Archeb Banc.
Ysgrifennydd
ysgrifennyddCymAr@gmail.com 07813 501699
Siwan Lisa Evans
Trysorydd Richard Snelson richard.snelson@gmail.com