
2 minute read
Gefeillio Llanuwchllyn a'r Gaiman
Ym mis Hydref 2020 y cysylltodd Ricardo Evans hefo Cyngor Cymuned Llanuwchllyn gyntaf, gan ddweud bod Maer y Gaiman, Dario Evans, wedi cael y syniad o efeillio’r Gaiman a Llanuwchllyn. Syniad oedd yn gwneud synnwyr perffaith, wrth gwrs, o ystyried mai o Lanuwchllyn yr hanai Michael D Jones a’r holl gysylltiadau sydd wedi bod rhwng y Gaiman a Llanuwchllyn ar hyd y blynyddoedd.

Bu’r broses yn un faith ond o’r diwedd daeth pethau i fwcwl gydag ymweliad Ana Chiabrando Rees â’r Cyngor ar 2 Mai 2023 ac aed ati i lofnodi’r cytundeb yn ffurfiol. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael cryfhau’r berthynas â’r Gaiman dros y blynyddoedd nesaf gan obeithio y bydd yr ysgolion yn dod i gysylltiad â’i gilydd ac y bydd gwahanol gymdeithasau’r ddwy ardal yn cyd-weithio hefyd.
Beryl H Griffiths