Cylchlythyr Cymdeithas Cymru-Ariannin Haf 2024

Page 1


Cylchlythyr Haf 2024

Ysgoloriaeth Michael D Jones

Cinthia Zamarreño o Gaiman ennillodd ysgoloriaeth 2023

Yn ystod misoedd Ebrill a Mai, bues i a’r teulu (Héctor, Edith, Elin, Seren ac Alaw) yng

Nghymru yn treulio amser hyfryd gyda gwahanol ysgolion a chwmnïau yn y maes perfformio. Pan gyrhaeddon ni Lanrhystud, cawsom groeso mawr gan y teulu i gyd a’n ffrindiau Rhiannon Jones (fuodd yn dysgu yn Ysgolion Cymreig y Wladfa yn ddiweddar) a´i gŵr Emyr. Fe wnaethon ni logi car y wythnos honno, ac ar ôl hynny, wnaethon ni ddim stopio mynd o un lle i´r llall!

Pob Dydd Mercher a rhai Suliau, bues i yn gweld yr ymarferion cân actol, clocsio a dawnsio gwerin yn Adran Penrhyd, Llandybie gyda Jennifer Maloney Hyfryd oedd gallu helpu gyda´r plant bach! Pob nos Iau a phnawn Sul, aethon ni lawr i Gastell Newydd Emlyn i weld y gwaith mae Islwyn Evans yn wneud gydag Ysgol Gerdd Ceredigion. Roedden nhw’n paratoi rhaglen arbennig ar gyfer cystadleuaeth Côr Cymru, ac roedd bod yng Nghanolfan y Celfyddydau i weld y gystadleuaeth yn un o uchafbwyntiau’r daith yma. Diolch hefyd i Islwyn a’r côr am groesawu Elin, ac am roi’r cyfle iddi gymryd rhan.

Cafodd Elin, Seren ac Alaw ddosbarthiadau yn Ysgol Mefenydd, Llanrhystud bron pob dydd am saith wythnos, a mwynhau’n fawr iawn a gwneud lot o ffrindiau Ac fe gafodd Elin y fraint o gael gwersi telyn gyda´r delynores Meinir Heulyn yn Synod Inn Yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth, ces i´r cyfle i wrando ar ymarferion y gerddorfa a ´ r côr, a ´ r gwaith corfforol roedd Rachel Hull yn wneud gyda’r plant ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.

Unwaith eto, roeddwn wedi mwynhau pob munud. Diolch iddyn nhw am y croeso dros y ddau fis diwethaf, ac roedden nhw´n arbennig o hyfryd ar y llwyfan ym Meifod!

Gydathreiglydyddiau,roeddmwyobethauyncaeleuhychwanegui´ramserlen… AethonniiFangoriweldymarferionysioe“MorynionyGwaed”ganYsgol GlanaethwyynPontio.Roeddysioe'rnosonhonnoynanhygoel.DiolchCefin!

DiolchiFfiona’rhollactorionamycroesocynnesynymarferionCwmniTheatrArad Gochi’rsioe“CerdynpostoWladyRwla”.Rydwiwedidysgulotyneichcwmni,ac roeddyteuluwedimwynhau’rperfformiadynTheatrFelinFach.

DiolchiRhianDavies,GlainRhysaSionEmlynamycroesoynymarferionysioe agoriadolEisteddfodyrUrddganyrYsgolionUwchradd.Pleseroeddgweldybobl ifancynmwynhaucanuapherfformiocaneuonRhydianMeilir.

RoeddLleucuHaf,fuoddyngweithiogydaniynyrYsgolGymraegyllynedd,wedigwahoddymerchedifyndi ddawnsiogydahiacAlawGriffithsaDawnswyrSeithennynyngNghanolfanyCelfyddydauynAberystwyth,a wnesiddimcolli´rcyfleiymunoiddysguychydigoglocsioyneucwmni!

CawsomnifelteuluwahoddiadiganuyngnghyngerddYsgolGerddCeredigionynNeuaddCoedybryn,acyn LlandybiegydagAdranPenrhyd.HefydbuomyncanuynyGymanfaiYsgolionSulTal-y-Bont,acmewncwrdd ymMwlchllan.Bendithywrhannu´rffyddgydabrodyrachwioryddogymunedauCristnogoleraill. FewnaethomnigymrydrhanhefydmewnnosonarbennigdrefnwydynAmgueddfaCeredigionigofioam ElveyMacDonaldacEirionneddBaskerville.

I orffen y cyfnod prysur yma, buon ni yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod ar ddechrau’r wythnos Ar y dydd Llun cafodd y merched brofiad hyfryd o fod ar y llwyfan yn cyfeilio a chanu gydag adran Penrhyd. Dydd Mawrth oedd “Y DIWRNOD MAWR” i Alaw a Seren yn cystadlu ar y llefaru - diwrnod bythgofiadwy i’r holl deulu! Diolch i Llinos Howells am drefnu popeth ac am eu hyfforddi nhw Roedd Dydd Mercher yn ddiwrnod pwysig i bawb sydd yn rhan o Ysgol Gymraeg Y Gaiman Fe gystadlodd y parti llefaru dros y we o ochr arall y byd - mae technoleg yn anhygoel!

Cawsom ni amser hyfryd gyda ffrindiau ac aelodau Cymdeithas CymruAriannin yn Llanelli mewn sosial i groesawu´r merched oedd wedi dod i Gymru gydag ysgoloriaeth gan y Mudiad Meithrin, ac mewn diwrnod cymdeithasol arall ym Mwlch Nant yr Arian.

AdymaniynôlynbrysuriawnynyGaiman,hebsylweddolibodyramserwedihedfan!Dimondungairarôl gadaelCymruFach-DIOLCH!IbwyllgoryrYsgoloriaethamroi'rcyflemorarbennigymai´rteulucyfan. DIOLCHynarbennigiSiwanEvans,RhisiartArwelaCerisGriffithsamyrholldrefniadauacibawbsyddwedi agoreudrysauimi-GarethJamesaRachelHulloYsgolGymraegAberystwyth,IslwynEvansoYsgolGerdd Ceredigion,JenniferMaloneyoDdawnswyrPenrhyd,CefinRobertsoYsgolGlanaethwy,NiaWynEvansa FfionWynBowenoGwmniAradGoch,AlawGriffithsaLleucuoDdawnswyrSeithennyn;RhianDavies,Glain RhysaSionEmlyno´rcriwcynhyrchuSioeUwchraddynEisteddfodyrUrdd;aci´rmerched,ynarbennig AnwenJamesa´rhollathrawonynYsgolMefenydd.DIOLCHibobplentynapherso bydgydamwyogelfyndalynbosibl!

Ybwriadnawrywdefnyddio’rsgiliaudwiwedieudysguynymisoedddiwethafyn n sicrbyddllawerogyfleoeddohynymlaeniwneudhynny-dathl 40 l ddY mlynedderssefydluGaiman,dathlu10mlyneddo´rgrŵpdawns dyfodiadygwladfawyrCymreigyflwyddynnesaf! Hwylamytro

Helo! Elin ydw i Bues i yng Nghymru ym Mis Ebrill a Mai! Gwelais i lot o bethau newydd a dw i wedi mwynhau popeth! Bues i yn dawnsio gyda Alaw Griffiths a Jennifer Maloney, a bues i yn canu gyda Côr Ysgol Gerdd Ceredigion. Dw i wedi gwneud lot o ffrindiau newydd yn Ysgol Myfenydd hefyd. Dw i wedi chwarae lot gyda Eira, Sara Mai a Gwennan, fy nghyfneitherod, yn nhŷ Mamgu Delyth yn Llanrhystud Dwi i wedi cael amser hyfryd ac wedi mwynhau pob munud!

Seren ydw i, dw i'n 7 oed, a dw i yn byw yn y Gaiman

Y peth dw i wedi hoffi fwyaf o Gymru ydy mynd i Fferm Folly, a dw i wedi mwynhau gweld y sioe Frozen yn Llundain

Dw i wedi cael lot o amser neis yn chwarae gyda Gwennan, Eira a Sara Mai, a dw i wedi adrodd yn yr Eisteddfod yr Urdd. Dw i wedi dysgu lot o bethau yn Ysgol Myfenydd a wedi gwneud ffrindiau newydd

Dyma fi yn Aberystwyth, cyn y gystadleuaeth Cor Cymru

A d y b i wedi adrodd "Dw i eisiau" Dw i yn hapus achos dw i wedi bod yn Nghymru am y tro cyntaf, ac wedi chwarae gyda'r teulu a ffrindiau

Hazel Charles Evans – Ffrind

Ar ddechrau Gorffennaf 2021, wrth iddi golli ei brwydr yn erbyn cancr, mi gollodd Cymru, y Gymraeg a’r Wladfa un o’r cymwynaswyr mwyaf a fu erioed gyda marwolaeth Hazel Charles Evans.

Gynt o Y Bryn ger Llanelli, ond ers nifer o flynyddoedd cyn ei marwolaeth ei chartref oedd ‘Llais Yr Andes’, Llandybïe Man lle’r agorodd ei ddrysau yn llawen i ymwelwyr cyson o Batagonia Roedd rhan enfawr o galon Hazel yn ddios yn Y Wladfa, Patagonia. Ond pam?

Wedi ymweld â’r Wladfa cyn hynny, a dechrau ar ei charwriaeth bryd hynny â’r lle arbennig yma ochr arall y byd, seliwyd ei pherthynas yn iawn gyda’r Wladfa wrth gael ei phenodi fel un o’r tri athro cyntaf erioed i fynd i ddysgu Cymraeg i Batagonia ym 1997 o dan ‘Gynllun yr Iaith Gymraeg, Chubut’ Cafodd Hazel ei lleoli yn Yr Andes am ei dwy flynedd gyntaf o wasanaeth i’r Wladfa

Fel athrawes ail-iaith Gymraeg brofiadol mewn ysgol uwchradd yn Llanelli, yn ogystal ag yn ymgyrchwraig frwd dros yr iaith Gymraeg ers degawdau, roedd Hazel yn ymwybodol iawn o’r angen i wneud y Gymraeg yn ddeniadol ac yn berthnasol i fywydau pob dydd y rheiny oedd yn ceisio ei dysgu a’i meistroli

Bydd y rheiny fu’n ddigon ffodus i fod yn rhan o fywyd Hazel yma yng Nghymru a draw yn Y Wladfa yn gwybod pa mor angerddol ac egnïol roedd hi dros y Gymraeg a’n diwylliant ni Nid trwy ddefnyddio gwerslyfrau yn unig, a drilio iaith yn sych-academaidd oedd ffordd Hazel o ddwyn y maen i’r wal gyda dysgu’r Gymraeg. Roedd yn lledaenu ei chenadwri dros yr iaith wrth fwynhau ysgytlaeth ar fore Sadwrn gyda’r ieuenctid; wrth gyd-wylio fideos o ‘Noson Lawen’ neu ‘Cefn Gwlad’ neu ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’ yn Esquel a Threvelin wrth fwynhau pitsas neu empanadas a gwin neu faté; wrth bregethu yng nghapeli’r Andes yn rheolaidd; wrth fynd ar deithiau difyr yn yr ardal neu wrth swpera ar hyd ac ar led Yr Andes a’r Wladfa yn ehangach.

Roedd ei bys ar bỳls ‘y pethe’ yn yr Andes yn sicr ac er mor gadarnhaol oedd hi am bob dim Cymreig yno doedd hi ddim yn fodlon gorffwys ar ei rhwyfau. Teimlodd i’r byw bod diffyg lleoliad penodedig yn Esquel i’r gymuned Gymraeg yno Dyna roi her iddi hi ei hun i wneud rhywbeth am y sefyllfa a thrwy ei llafur diflino o 1999 hyd yn oed tan y dydd heddiw, aeth ati i newid y sefyllfa yma

Tybed faint sy’n cofio ei chrwsâd ‘Brics i Batagonia’ mewn eisteddfodau a chymdeithasau ar hyd a lled Cymru? Nid terfyn y dasg honno oedd agor y ganolfan a adeiladwyd gyda gwerthiant y briciau - ‘Canolfan Hazel Charles Evans’ yn Esquel, o na! Nid y cerrig a’r adeilad oedd y nod ond y

cariad at yr iaith a’r ewyllys i barhau â’i defnydd yn fythol oedd bwriad Hazel wrth sefydlu’r cartref yma i’r Gymraeg yn Esquel

Un o’r cyflawniadau roedd Hazel yn eu rhestru’n falch oedd mai hi oedd athrawes Gymraeg gyntaf dau o’r Andes a enillodd wobr ‘Dysgwr y Flwyddyn’ yma yng Nghymru – Sandra De Pol ac Isaías Grandis. Roedd yn grediniol yng ngwerth buddsoddi amser i arwain ac annog dysgwyr yr iaith. Mae Hazel a’i gwaddol ar waith o hyd yn y Wladfa – yn yr Andes trwy’r adnoddau ardderchog yng Nghanolfan Hazel Charles Evans a thrwy’r wobr flynyddol sefydlodd (ac sydd nawr yn cael ei rhoi er cof amdani) i ddysgwyr

oed cynradd sy’n rhoi’r ymdrech fwyaf i ddysgu Cymraeg mewn gwersi yng Nghanolfan Hazel Charles Evans, Esquel; Ysgol y Cwm, Trevelin; Ysgol yr Hendre, Trelew ac yn Ysgol Gymraeg y Gaiman. Diolch Hazel am eich ymroddiad dros y Gymraeg a thros Y Wladfa. Mae colled a hiraeth mawr ar eich ôl ond mae ffrwyth eich llafur dal i gael ei fedi. Ymlaen! Menna George

Trevelin 2024

Fy lle heddwch

A nawr, wrth edrych yn ôl - synna’n swyn yr haf ad ac ar fenter am

Ionawr roedd y saw

Yng ngardd fy mhlentyndod ro’n i’n cydio yn fy hafod, ac wrth fwynhau’r tawelwch, dyna oedd fy lle heddwch.

Ac er aeth blynyddoedd heibio nid ydy o’n hawdd anghofio holl anturiaethau bob gwyliau rhwng y teisennau a ´ r blodau.

Teisennau Nain a’i straeon hen feddyliau o’i harferion. Blodau Taid a’u persawr braf a’i falchder o’i gynhaeaf.

Hoffais weld ymwelwyr Nain yn swyno gan aroglau ei chegin, Carais glywed piano Taid a’i eiriau hudol yn fy enaid.

Daeth ystorom di-ben-draw a thynnu eu bywydau wrth fy llaw. Llifodd dagrau a throi’n law a’i adael fy myd yn ddistaw.

Gwna i guddio eto yn fy lle heddychlon bob tro mae fy mywyd yn greulon.

Gwna i gasglu yn ôl fy adfeilion a’u rhoi yn ei lle fy mreuddwydion.

Yma fydd o hyd lle heddwch, dyma le mae fy niolchgarwch Dyma’r lle dw i’n teimlo’n ddiogel dyma le y mae fy ngorwel.

Prifysgol y Drindod Dewi Sant

Cyngerdd

Roedd Theatr yr Halliwell dan ei sang gyda chyfeillion, canu a chefnogaeth nos Wener, Mawrth 22ain mewn cyngerdd i godi arian i ysgolion y Wladfa. Codwyd dros £2,000 a rennir rhwng y tair ysgol a gobeithiwn y bydd o gymorth gyda helpu’r ymdrechion clodwiw i barhau â’r Gymraeg a diwylliant Cymru ochr draw’r Iwerydd.

Ar ran yr ysgolion hyn, ac ar ran y pwyllgor a drefnodd y gyngerdd, diolch o waelod calon i Gruffydd Wyn, Joy Cornock, Mike Winter a Gwilym Bowen Rhys yn ogystal ag i Ysgol Llangynnwr, Ysgol y Dderwen, Ysgol Maes y Gwendraeth ac Ysgol Bro Myrddin am berfformiadau safonol a chofiadwy. Mawr yw ein diolch hefyd i Meinir Jones Parry am gyfeilio, i Meirion Jones am fod yn Llywydd y noson, i Tudur Dylan Jones am arwain, i’n noddwyr, yr holl wobrau raffl gwych ac i’r Brifysgol a Chanolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol am bob cefnogaeth.

Ana Chiabrando Rees

Ymweliad arbennig

Roedd hi’n hyfryd croesawu Angelica, Lowri, Jessica a Seren o Ysgol Gymraeg y Gaiman ac Ysgol y Cwm i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ganol mis Mehefin. Roedden nhw wrth eu boddau yn gweld yr Ystafell Drochi ar waith a sut mae Canolfan Gwasanaethau Cymraeg y Brifysgol (Rhagoriaith a Peniarth) yn ei defnyddio i ddysgu iaith. Cawsant hefyd flas ar y gweithdy rhyngweithiol trochol sy’n cyd-fynd â’r pecyn Dewch i Deithio a Dysgu Sbaeneg Patagonia. Braf oedd cael rhannu adnoddau Peniarth gyda nhw cyn mynd draw i’r Egin am daith ddiddorol o gwmpas yr adeilad gyda Gruff, un a fu’n canu yng nghyngerdd y Brifysgol i godi arian i ysgolion dwyieithog y Wladfa.

Gŵyl y Glaniad

Dros frig y blynyddoedd

Ac atgof yn hoffus; I gwmni y dyrfa bererin a blin

Wynebodd yr anial di-lwybr, bradwrus

Heb do a heb aelwyd yn oerni yr hin...

A’r môr o’r tu ôl

Gyda’u donnau brith gwynion

A’r peithdir digroeso

I’r pellter yn daen.

Ond gobaith blodeuog

Yn cynnal eu calon

Yng ngwyneb yr ofn

A’r dieithrwch o’u blaen;

Eu ffydd yn ymorffwys

Yn Nuw a’r dyfodol,

A hiraeth am ryddid

Yn tanio eu bron.

Hwy droesant yr anial

Yn wlad gyfareddol

A lle oedd ddiffeithwch

Yn wyrddlas a llon.

Esgynnodd alawon rhamantus y Cymro

Lle’r oedau distawrwydd

Pruddglwyfus lleddf gynt.

Ond acen ein heniaith

O foroedd arall fro

A ddysgodd farchogaeth

Ar ddannedd y gwynt,

Hwynt hwy a gysegrodd

Hen ddaear y Camwy:

Eu llafur, eu lludded

Eu dagrau a’u cân,

A hwy fu’n ei chadw

Er chwerwed eu gofid, Eu hamcan yn onest.

A’u henw yn lân.

Elvira Moseley

Cymdeithas

Cymru-Ariannin yn Eisteddfod Rhondda Cynon Tâf

Bydd croeso i chi ar stondin y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod eleni ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd. Eleni byddwn yn rhannu gofod gydag Undeb Cymru a'r Byd ar stondin rhif 206-207. Dewch draw i gyfarfod ffrindiau o Gymru ac o'r Wladfa!

ByddcyfarfodblynyddolCymdeithasCymruArianninymMhabellyCymdeithasauam 5.30pmarddyddIau,Awst8fed

Ar ddydd Sadwrn, Awst 10fed 2.30pm ym Maes D bydd Gwilym Roberts yn sgwrsio gyda Myrddin ap Dafydd, ac yn lansio ei hunangofiant ‘Dros Ysgwydd y Blynyddoedd’ (Gwasg Carreg Gwalch) Mae Gwilym yn aelod mynwesol o’r Gymdeithas ers blynyddoedd, ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol yn y maes dysgu Cymraeg.

Erthygl gan yr economegydd

Dr Edward Thomas Jones

Ynddiweddarcyhoeddwyderthyglyn BusinessNewsWalesarytestun ‘Gwersio'rAriannin’ Mae’rerthyglyn edrycharberfformiadeconomaiddyr Ariannin,acynystyriedpawersisyddi Gymru

DarllennwchyrerthyglynBusiness NewsWalesyma

Neumae’rfersiwnGymraegaSaesneg llawnwedieigyhoeddiareiflog personol:

DarllennwchyfersiwnGymraegyma / DarllennwchyfersiwnSaesnegyma

Newyddion o'r canghennau

Cangen y De

Fel y gwenoliaid, cyrhaeddodd nifer o Wladfawyr y Brifddinas yn ystod y Gwanwyn eleni

Ym mis Mai daeth Jessica Jones a’i merch Seren, Angélica Evans a’i merch Lowri, a Romina Herrera i ymweld â Chylchoedd ac ysgolion Meithrin ar draws

Cymru mewn partneriaeth â Mudiad Meithrin

Buodd rai ohonon ni’n lwcus i ymuno â’r teithwyr, ynghyd ag Ariela Gibbon ar ymweliad â Sain Ffagan Cawson ni ddiwrnod wrth ein boddau yn eu cwmni cyn iddynt ddechrau eu taith o gwmpas Cymru

Ar ddiwedd cyfnod Jessica, Romina, Ariela ac Angélica yng Nghymru, yn ystod mis Mehefin, trefnwyd picnic i ffarwelio â phawb wrth Gylch yr

Orsedd ym Mharc Biwt Caerdydd. Roedd y tywydd yn ffafriol, diolch i’r drefn, ac roedd yn gyfle gwych i nifer o gyfeillion, tiwtoriaid a chydnabod i gymdeithasu a chlywed nifer o straeon a phrofiadau diddorol am eu hantur fawr yng Nghymru.

Wedyn, ddechrau mis Gorffennaf, trefnodd Cangen y De bryd o fwyd i groesawu Meleri, Kiara a Santi o Goleg Camwy yn y Gaiman. Roedd y tri, â’u tywysydd Esyllt Roberts, wedi bod yn casglu arian ar gyfer y daith ers cyfnod maith, ac roeddynt yn amlwg wrth eu boddau yn cael gwireddu breuddwyd trwy ddod i Gymru.

Yn gwledda gyda nhw ar y nos Lun ym mwyty Giovanni’s ym Mae Caerdydd oedd Gwilym, Elliw ac Oswyn Richards, Manon Kiff, Sandra De Pol a Rhisiart Arwel. Cyrhaeddodd Ana Cantero Simms a’i gwynt yn rch y

Roedd Gwilym yn ei elfen yn sgwrsio gyda'r ieuenctid yn y bwyty

Cawsom noson arbennig iawn yn yr Atom yng Nghaerfyrddin ym mis Chwefror, pan ddaeth rhai ohonom at ein gilydd i gwrdd â’r ferch ifanc, Megan Haf Samuel o’r Tymbl, oedd yn ystyried mynd am gyfnod fel athrawes i Batagonia Cafwyd amser hyfryd iawn yn sgwrsio’n gynnes dros baned, gan ei hannog yn unfrydol i gymryd y cam o fynd i’r Wladfa. Roedd hi’n amlwg yn berson perffaith i’r sialens ac ymhen dyddiau daeth y newydd ei bod yn mentro Mae hi bellach yn plethu i mewn i’r gymdeithas ac yn gweithio yn Ysgol Gymraeg y Gaiman, ac edrychwn ymlaen at glywed ei hanesion ar ôl iddi ddod nôl!

Ddiwedd mis Mai, cafwyd noson fendigedig yn nhre’r Sosban wedi’i threfnu gan Isaías, Mike ac Eluned. Daeth nifer dda ohonom ynghyd i groesawu Jessica, Seren, Angélica, Lowri a Romina o’r Wladfa oedd ar daith gyfnewid gyda’r Mudiad Ysgolion Meithrin Hyfryd dros ben hefyd oedd mwynhau cwmni Hector, Cinthia a’u merched Elin Mair, Seren Wen ac Alaw Haf yn ogystal ag Ariela wnaeth ymuno, a braf oedd cyfarfod â theulu Megan Haf sydd yn y Gaiman.

Elfed Davies: elfedpenffin@hotmail.com

Cangen Clwyd

Os hoffech gysylltu gyda'r gangen cysylltwch â Nesta Davies nestamarydavies@gmail.com

Cangen

Môn ac Arfon

Daeth nifer da o aelodau’r gangen ynghyd i Eglwys Emaus, Bangor i fwynhau cwmni dau o’r siaradwyrGwenda Parry (gynt o Moelfre) a Glory Roberts o Waunfawr (gynt o’r Wladfa) Disgrifiodd Gwenda hanes ei hymweliad diweddar â’r Wladfa gan gynnwys seremoni syml i wasgaru ychydig o lwch ei mam, Margaret Parry. Disgrifiodd Glory sefyllfa wleidyddol bresennol yr Ariannin dan arlywyddiaeth Javier Milei Ar ôl blynyddoedd o ddioddef argyfyngau economaidd mae’r Archentwyr yn gobeithio bydd y rhod yn troi

Meleri, Gwilym, Kiara, Santiago ac Esyllt

Cymdeithas Gefeillio

Aberystwyth - Esquel

Dathlu cysylltiad gyda’r Ariannin

Ar nos Fercher, Mai 15fed, cafwyd noson arbennig yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth, i ddathlu 15 mlynedd o efeillio rhwng

Aberystwyth ac Esquel. Roedd y noson yn arbennig i gofio dau oedd wedi cyfrannu at weithgaredd gefeillio a dathlu cysylltiad rhwng Cymru a’r Ariannin, sef Elvey MacDonald a Eirionnedd Baskerville

Darllenodd Stephen Tooth, Cadeirydd y Gymdeithas, deyrnged a baratôdd gwr Eirionnedd, Derek Baskerville i’w chofio. Morus Gruffudd, mab-yng-nghyfraith Elvey, ddarparodd deyrnged am gyfraniad Elvey. Bu cyfraniad gan Stephen am ddaearyddiaeth Patagonia a Roger Mills am lyfr, gydag eraill yn rhannu atgofion am Elvey ac Eirionnedd

I ddiweddu’r noson, roedd cyfraniad cerddorol arbennig gan Hector Ariel (nai Elvey), ei wraig Cynthia, a’r plant oedd wedi dod draw i Gymru o’r Ariannin dros gyfnod Eisteddfod yr Urdd Roedd chwaer Elvey, Edith hefyd yn cyflwyno’r caneuon Cafwyd wedyn gyfraniad cerddorol gan Rhisiart Arwel o ganeuon o’r Ariannin ar y gitâr. Diolch i Gymdeithas Partneriaeth Pobl Aberystwyth a Esquel (AEPPA) am drefnu, i Amgueddfa Ceredigion am y lleoliad a’r lluniaeth, ac i Gyngor Tref

Aberystwyth am ariannu

Pwyllgor Gefeillio

Aberteifi - Trevelin

Trefnwyd bore coffi llwyddiannus yn Neuadd y Dref, Aberteifi ym mis

Mehefin Cafodd Jessica a Seren o Ysgol y Cwm, Trevelin groeso cynnes gan bawb Diolch i bawb am gefnogi

Eirian Wyn Lewis: eirianbrynhyfryd@aol.com

Ydych chi'n mynd i ymweld â'r Wladfa eleni, ac yn dymuno rhoi anrhegion neu adnoddau i'r ysgolion neu'r gymuned?

Mae ysgolion a'r cymunedau yn y Wladfa yn werthfawrogol iawn o garedigrwydd Cymry sy'n ymweld â nhw yn cyfrannu at yr adnoddau sydd ar gael, ond yn aml mae beth sydd ei angen yn wahanol i'r hyn fuasen ni'n ei dybio. Mae gan Gymdeithas Cymru-Ariannin restr o adnoddau mae'r gymuned yn awyddus i'w derbyncysylltwch â'r ysgrifennydd i gael manylion Yn yr un modd, gan nad yw postio nwyddau i'r Ariannin yn rhwydd iawn, os oes ganddo chi le yn eich ces i gario rhywbeth draw, byddwn yn gwybod am bethau sy'n aros i gael eu cludo i bobl benodol Hefyd, mae cynllun Patagonia Instrument Project yn elusen yng Nghymru sy'n darparu offerynnau cerddorol ar gyfer grwpiau ieuenctid ac ysgolion ym Mhatagonia, a bydden nhw yn falch iawn o gael rhywun i gludo offerynnau draw.

Beth am gefnogi’r gwaith o hyrwyddo'r Gymraeg yn y Wladfa drwy ymuno â Chlwb Cyfeillion Cymru-Ariannin? Daw incwm rheolaidd i’r Gymdeithas o’r Clwb sy’n ein galluogi i gefnogi mudiadau ac achosion Cymreig yn y Wladfa Y tâl ymuno yw £10 y flwyddyn ac mae gwobrau o £100, £75, £50 a £25 bedair gwaith y flwyddyn Os hoffech ymuno, anfonwch ebost at eleriproberts@hotmail.com neu ffoniwch 07790513048 Clwb Cyfeillion

Mererid Boswell

Dechreuodd Rhian Lloyd ei gwaith fel swyddog datblygu iaith yn Nhrevelin ym mis Ebrill. Mae hi’n wreiddiol o Langefni ac yn dal i fyw a gweithio ar Ynys Môn. Fedrai’m coelio ‘mod i bron i 100 diwrnod i mewn i fy antur fawr Patagonia yn barod - mae’r amser wedi hedfan! Er gymaint yr oeddwn wedi edrych ymlaen at y profiad yma - roedd y realiti o ffarwelio â fy mhartner, fy nheulu bach a’m ffrindiau gorau am 9 mis yn anodd iawn i ni gyd. Ond, diolch i dechnoleg, mae cadw mewn cysylltiad dyddiol wedi bod yn hawdd ac wedi helpu lleihau’r hiraeth A dweud y gwir, mae hi’n anodd credu ar adegau fy mod dros 7,000 o filltiroedd i ffwrdd!

Ond, dyma fi – yn gweithio fel athrawes yn Ysgol y Cwm, Trevelin ac yn diwtor Cymraeg i oedolion yn Esquel. Mae hi’n wirioneddol brydferth yma ac mae Trevelin ac Esquel yn hyfryd - y ddaearyddiaeth, y bobl a’r plantos a’r holl ddiwylliannau amrywiol sy’n gwneud yr ardal yn un mor arbennig Ers cyrraedd yma, ‘rwyf wedi cyfarfod llu o bobl arbennig o gyfeillgar, caredig a chymwynasgar ac ‘rwyf wrth fy modd yng nghwmni fy ffrindiau newydd sbon, sy’n llawn hwyl a chefnogaeth Mae dod i adnabod pobl leol tu allan i’r Gymuned Gymraeg hefyd wedi bod yn brofiad hynod o braf ac yn gymorth mawr i mi o ran gwella fy Sbaeneg. Bellach, gallaf gyfarch a dilyn sgwrs syml - ond tybiaf y bydd yr ap cyfieithu yn parhau i fod yn hanfodol am sbel eto!

Rwy’nmwynhaufyswyddynfawriawn-maeteuluYsgolyCwmwedibodyn groesawgar o’r cychwyn. Rwy’n hynod o falch o gael y profiad arbennig o gefnogiachryfhau’rddarpariaethdysguCymraegynChubut,acmae’rtîmbach oathrawonCymraegymayncydweithio’nddygniddatblygusgiliau’rdysgwyr.

MaecreudolennirhwngYsgolyCwmasawlysgolymMônwedibodynbrofiad cyffrousagwerthfawrtuhwnti’rhollblantastaffsyddwedicyfrannu.Diolch mawriBenaethiaidacathrawonysgolionHenblas,YGraigaRhosybolameu

parodrwydd i gydweithio, ac mae diolch arbennig i Ysgol Pencarnisiog, lle rwy’n Bennaethadref.MaedosbarthBlwyddyn6ymaynYsgolyCwmwedibodwrtheu boddau yn ysgrifennu llythyrau i ddysgwyr Ysgol Penc er mwyn gwneud ffrindiau newydd Drwylwc,roeddSeren,uno'mdysgwyrymaynmyndardaithiGymrufel rhan o brosiect gan y Mudiad Meithrin Roedd hi wedi gallu danfon y llythyrau’n bersonol-amarbennig!Roeddwnwrthfymoddynedrycharluniauohoniyncaelei chroesawuganfynghydweithwyraphlantosPenc!‘Rwy’nmawrobeithioybyddhyn yngychwynarbartneriaethhirllwyddiannusrhwngyddwyysgol.

MaehiwirynfraintcaelbodynrhanodîmytiwtoriaidCymraegyngNghanolfanEsquel.Maecynnalgwersii oedolion yn brofiad newydd sbon i mi - ond yn dilyn arweiniad proffesiynol gan fy nghydweithwyr rwyf bellach yn mwynhau cynnal sesiynau yn annibynnol Mae’r dysgwyr yn gyfeillgar a chlên ac rwy’n wirioneddoledmygu'rbrwdfrydedd,ymroddiadacymdrechsyddganddynttuagatddysguiaitheuNeiniau a’uTeidiau.

Rwyf wrth fy modd yn byw yma ac yn mwynhau bywyd llawn tu allan i’r ystafell ddosbarth - mae Trevelin yng Nghwm Hyfryd yn lleoliad perffaith i fyw o ran ei chyfleusterau hamdden, iechyd a ffitrwydd. Byddaf yn crwydro’r dalaith yn aml, yn cerdded, reidio beic, rhedeg, mynd i’r gym a nofio ac mae beic Tŷ Capel wedi bod yn hanfodol i mi o ran crwydro’r dref! Mae nifer o fwytai, tafarndai a chaffis hyfryd yma a sawl amgueddfa a chanolfan celfyddydol difyr i dreulio prynhawn ynddynt er mwyn dysgu mwy am hanes a diwylliant lleol Rwyf wrth fy modd yn mynychu digwyddiadau Cymreig cymdeithasol er mwyn cael sgwrsio a dod i adnabod aelodau’r gymuned, a braint oedd bod ar lwyfan Eisteddfod Trevelin yn aelod o ddawnswyr Cwm Hyfryd!

Gyda gwyliau’r Gaeaf yn prysur agosáu, ‘rwy’n edrych ymlaen yn awyddus at ail hanner fy nghyfnod yma Nid anghofiaf fyth y croeso cynnes a gefais wrth i mi gyrraedd maes awyr Esquel am y tro cyntaf, y wên gyfeillgar, y cwtsh caredig a'r paned o de cysurus - ac rwy'n ymwybodol iawn y bydd yr amser trist i mi orfod ffarwelio yn dod o gwmpas yn llawer rhy fuan! Ac felly, ‘rwy’n bwriadu parhau i wneud y mwyaf o weddill fy amser yn yr Andes, wrth wneud y gorau o bob cyfle i gefnogi gwaith y tiwtoriaid Cymraeg a throchi fy hun yn y dreftadaeth gyfoethog yr wyf nawr yn rhan fach ohono am byth

Cyfle arbennig i weithio ym Mhatagonia yn

2025

Mae Cymdeithas Cymru-Ariannin yn chwilio am ddau berson profiadol, brwdfrydig ac ymroddgar i weithio yn y Wladfa Gymreig yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin am gyfnod hyd at 12 mis yn ystod 2025.

SwyddogDatblygu’rGymraeg(Menter):

Byddyswyddogymayncanolbwyntioargreuacarwainystodeangoweithgareddaucymdeithasol, yn ieithyddol, diwylliannol ac ymarferol ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion trwy gyfrwng y Gymraegyneucymunedauardrawsydalaith

SwyddogDatblygu’rCapeli:

Beth am gefnogi’r gwaith o hyrwyddo'r Gymraeg yn y Wladfa drwy ymuno â Chlwb Cyfeillion Cymru-Ariannin?

Bydd y swyddog yma yn gweithio’n bennaf gyda’r eglwysi a’r capeli ar draws y dalaith. Disgwylir i Swyddog Datblygu’r Capeli weithio’n agos gyda’r gweinidogion sydd eisoes yn gwasanaethu eu cymunedauynChubut

Darperirhediadaui’rAriannin,cydnabyddiaethariannolallety

Gofynnir i’r rhai sydd a diddordeb yn y gwaith cyffrous yma anfon am becyn gwybodaeth i’r cyfeiriadyma:michaeldjones1865@gmail.com

Ysgol Gymraeg y Gaiman

Mwy o fanylion: ygyg1035@gmail.com

Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu a datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia?

Ydych chi’n chwilio am her newydd yn 2025?

Mae swyddi gan y Cyngor Prydeinig i athrawon neu diwtoriaid cymwys i ddysgu naill ai plant neu oedolion. Bydd y dyletswyddau hefyd yn cynnwys trefnu gweithgareddau cymdeithasol ar ran Menter Iaith Patagonia

Mae mwy o fanylion a ffurflen gais ar gael yma, neu cysylltwch â iepwales@britishcouncil.org

Bydd bydd pob cais yn cael ei ystyried ar ôl ei gyflwyno

Mae’n debygol hefyd y bydd swyddi ar gael yn ystod 2025 yn Ysgol y Cwm, Trevelin ac yn Ysgol yr Hendre, Trelew

Mae’r ysgolion bob amser yn croesawu pobl sydd am wirfoddoli yn y dosbarthiadau i hyrwyddo’r Gymraegcysylltwch yn uniongyrchol â’r ysgolion drwy eu tudalennau ar Facebook i holi am gyfleon.

Swyddogion 23-24

Llywydd Cadeirydd Is-gadeirydd

Menna George Lois Naulusala

Eluned Owena Grandis

Pwyllgor Gwaith 23-24

Glory Roberts

Parch. Eirian Lewis

Elvira Moseley

Nesta Davies

Rhys Llywelyn

Dwyryd Williams

Eleri Roberts

Eluned Jones

Elfed Davies

Sandre De Pol

Esyllt Roberts

Rhisiart Arwel

Os hoffech ymaelodi â'r Gymdeithas, y gost yw £15.00 i unigolyn (£10 i rai dan 25 oed) neu £25.00 i gwpl. Anogwn aelodau i dalu'n uniongyrchol drwy orchymyn banc blynyddol. Gallwch ymaelodi drwy lenwi’r ffurflen yma, neu cysylltwch â'r ysgrifennydd am fwy o fanylion.

YsgrifennyddSiwanLisaEvans ysgrifennyddCymAr@gmail.com 07813501699 TrysoryddHuwEllis trysoryddcca@gmail.com

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.