
4 minute read
Ysgoloriaeth Patagonia - Blaenau Ffestiniog a Rawson
Pob blwyddyn mae Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog yn cynnig ysgoloriaeth o £2000 i alluogi person ifanc o’r ardal deithio i ymweld â Rawson, er mwyn cryfhau’r cysylltiad rhwng y ddwy dref sydd wedi gefeillio. Enillydd ysgoloriaeth eleni oedd Terry Tuffrey a dyma sydd ganddo i’w ddweud:
Mae mynd i Batagonia wastad wedi bod yn freuddwyd i mi oherwydd bod y cysylltiad Cymreig yno yn gryf iawn a dwi’n ymddiddori mewn hanes.
I ennill yr ysgoloriaeth, yr unig beth roedd raid i mi ei wneud oedd ysgrifennu traethawd yn sôn am Patagonia a’r cysylltiad Cymreig, a dywedodd y beirniaid Tecwyn Vaughan Jones, ei fod wedi mwynhau darllen fy nghais am yr ysgoloriaeth, ac nad oedd o wedi gweld dim byd o’r fath o’r blaen.
Yn ystod fy ymweliad â Phatagonia, rwy’n gobeithio cymryd rhan yn yr Eisteddfod yn llefaru neu’n canu, cadw’r iaith Gymraeg i fynd rhwng Blaenau Ffestiniog a Rawson, dysgu am sut mae ysgolion plant gydag anableddau yn gweithio, a hefyd am fyd natur Patagonia Hoffwn i ymweld â Rawson, a’r rhannau eraill o Batagonia lle mae pobl yn siarad Cymraeg, a dod i adnabod yr ardaloedd ychydig yn well. Rydw i yn edrych ymlaen at ymweld â phobl y Wladfa i ddysgu mwy am y lle, ond yn fwy byth, dwi’n edrych ymlaen i gael asado neu mate am y tro cyntaf!
