
4 minute read
Holi Esyllt Nest Roberts de Lewis
Mae Esyllt yn aelod o bwyllgor Cymdeithas Cymru-Ariannin ac eleni wedi ei dewis i fod yn Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd
Mae'n gweithio fel athrawes Gymraeg, athrawes delyn, cyfieithydd a golygydd Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd a Chadair Eisteddfod y Wladfa ac mae’n mwynhau hyfforddi plant i lefaru a llenydda yn eisteddfodau’r
Wladfa a chynnal y diwylliant Cymraeg yno. Mae hefyd yn cyfrannu i gyhoeddiadau yng Nghymru yn sôn am y Wladfa, yr hanes a’r traddodiadau. Bydd yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni ar gychwyn Cymanfa Ganu’r Eisteddfod a gynhelir nos Sul 6 Awst yn y Pafiliwn Mawr, ar faes yr Eisteddfod.
Rho rywfaint o dy gefndir i ni, os gweli di'n dda.
Dwi’n dod yn wreiddiol o bentref bach Pencaenewydd yng nghalon Eifionydd Mi symudon ni i’r Ffôr pan oeddwn yn 8 oed (i lawr y lôn ond roedd y torcalon fel pe bawn yn symud i gyfandir arall!)
Beth yw dy gysylltiad di â'r Wladfa?
Deuthum yma i weithio yn 2004 ac yma yr ydw i o hyd – ond mae gen i ŵr a dau o hogia bellach
Ti yw un o aelodau diweddaraf pwyllgor gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin. Beth mae hyn yn ei olygu? Beth yw dy obeithion? Beth mae'r Gymdeithas yn ei olygu i ti?
Mae’r Gymdeithas yn allweddol i fywydau’r Gwlafawyr Cymraeg a Chymreig Mae hi’n ddolen hanfodol, yn asgwrn cefn gwerthfawr iawn ac yn glust i wrando a datrys problemau
Mae hi’n cynnig cyfleoedd ac yn cynorthwyo Gwladfawyr i fynd i wlad eu cyndeidiau – mae hynny’n hanfodol er mwyn parhad yr iaith yn y Wladfa, yn fy marn i Mae’r aelodau yng Nghymru hefyd yn hanfodol pan fyddant yn teithio i’r Wladfa i gefnogi’r gwaith a wneir yma Gobeithiaf y bydd y berthynas yn parhau am flynyddoedd maith i ddod
Llongyfarchiadau ar fod yn Arweinydd newydd Cymru a'r Byd! Alli di esbonio beth yn union yw'r rôl, os gweli di'n dda? (oedd 'na broses arbennig? shwt glywest ti?)
Wyddwn i ddim byd am y peth nes i mi gael y gwahoddiad a’i dderbyn yn syth, wrth gwrs Mae’n fraint fawr i mi, yn enwedig gan fod yr Eisteddfod Genedlaethol ym mro fy mebyd Yn ogystal â hyn, dwi mor falch o allu cynrychioli’r holl Gymry sy’n byw ym mhedwar ban byd sy’n dal i gynnal y Gymraeg a’r diwylliant ac ymhyfrydu yn eu Cymreictod Mae gennym ni yn y Wladfa gymdeithas leol gref a chefnogaeth y Cynllun Dysgu Cymraeg a Chymdeithas Cymru Ariannin wrth wneud hynny wrth gwrs ac mae’n fraint bod yn rhan o’r gymdeithas unigryw hon
Beth ma'r Eisteddfod Genedlaethol, ac eisteddfodau eraill, yn eu golygu i ti?
Heblaw am ddawnsio gwerin a chynganeddu, mae’n debyg fy mod wedi bod yn cymryd rhan mewn eisteddfodau (yn perfformio a sgwennu) ar hyd fy oes Cerdd dant, adrodd, canu gwerin, darllen ar yr olwg gyntaf, chwarae piano, partïon a chorau, sgwennu, arlunio, coginio, prawf modiwletyr mewn eisteddfodau bach lleol, eisteddfodau capel, yr Urdd a Chenedlaethol a holl eisteddfodau’r Wladfa, wrth gwrs O ran cymryd rhan, un pinacl personol oedd ennill y wobr gyntaf am wneud pwdin reis yn Eisteddfod Bethel y Gaiman, a chael y profiad hyfryd o ganu efo Côr yr Heli yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dwi hefyd wedi ennill Coron Eisteddfod yr Urdd a dwy o Gadeiriau Eisteddfod y Wladfa Erbyn hyn dwi wrth fy modd yn hyfforddi plant y Wladfa i gymryd rhan yn y cystadlaethau adrodd a chanu’r delyn, ac ysgrifennu yn Gymraeg hefyd wrth gwrs Mae pob eisteddfod ledled y byd yn ddigwyddiadau mor waraidd a chyfoethog yn fy marn i a’u cyfraniad i fywydau pobl yn amhrisiadwy Hir y parhaed pob eisteddfod!