
3 minute read
Ysgol Gymraeg y Gaiman Agor Ystafell Euros Jones
Eleni mae Ysgol Gymraeg y Gaiman yn dathlu 30 o flynyddoedd ers agor yr ysgol Dechreuodd fel Ysgol Feithrin ac yna tyfu o flwyddyn i flwyddyn i fod yn Ysgol Gynradd lawn. Rydym yn gweithio mewn adeilad heb ddigon o ystafelloedd i bawb, felly mae adran y babanod a thair oed yn ymgynnull mewn adeilad arall, ond y freuddwyd yw i bawb fod o dan yr un to! Felly dechreuon ni gasglu arian i’r pwrpas hwnnw.
Gyda rhodd sylweddol einffrindiau Euros ac Eluned Jones, a fu'n gweithio yn ein plith, llwyddwyd i gwblhau un ohonyn nhw, ond mae’r ddwy arall dal heb eu gorffen. Tra oedd Eluned yma ym mis Ebrill gorffennwyd y gwaith ar uno’r ystafelloedd, a phenderfynwyd ei galw hi yn Ystafell Euros Jones, er cof amdano ac am ei garedigrwydd.
Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi bod yn cyfrannu tuag at y fenter. Tair ystafell ychwanegol a thoiledau sydd yn y cynllun. Dal i weithio yw’r amcan nes i ni wireddu’r freuddwyd a phwy a ŵyr, efallai bydd rhaid ymestyn i ymateb galwad y gymuned am fwy o addysg Gymraeg–Sbaeneg
Ariela Gibbon - Pennaeth yr ysgol

Bu’r wythnos ola’ yn Nyffryn Camwy yn arbennig iawn i mi. Teithiais o’r Andes wedi ffarwelio â phawb yno ar draws y paith ar y bws nos i fynychu seremoni agor dosbarth newydd – Ystafell Euros Jones Bu’n achlysur hyfryd ar ddiwedd cyfnod o chwe mis anhygoel ym mhob rhan o’r Wladfa gyda chyfeillion annwyl iawn. Roedd y Seremoni awyr agored ar ddiwrnod poeth ar ddechrau tymor yr Hydref yn dod ag atgofion hapus o’r cyfnod a dreuliodd Euros a minnau yn y Gaiman.
Treuliodd y ddau ohonom dair blynedd hapus iawn yn y Wladfa. A dweud y gwir ar gychwyn ein cyfnod yn 2014 cymerodd Euros dipyn o amser i setlo, ond erbyn 2016 doedd e ddim am fynd adre! O fewn y mis neu ddau cynta’ yn 2014 bu Euros wrthi’n helpu coginio picie bach ar gyfer y Ffair Amaethyddol, a chydweithio’n gyson gyda Juan Davies i ddysgu myfyrwyr i adrodd. Roedd yn rhan o lawer o weithgareddau amrywiol erbyn diwedd y cyfnod, yn eu mysg bod yn Sion Corn yn y gwres tanbaid yng nghanol yr haf ym mis Rhagfyr Dyma’r atgofion oedd yn mynd trwy’r meddwl ar y bore yma

Does dim yn rhoi mwy o wefr i neb na chlywed y plant yn canu yn Gymraeg ar ddiwrnodau o’r fath mewn seremonïau tebyg Roeddwn yn falch o fod ymhlith y gynulleidfa luosog a ddaeth ynghyd, ffrindiau agos i ni’n dau Roedd presenoldeb Delyth MacDonald a’i theulu o Gymru yn ychwanegu at yr achlysur Dywedodd y Pennaeth Ariela Gibbon yn ei hanerchiad ‘Dyn ni bob amser yn cofio am y gytgan oedd Miss Tegai yn hoffiOs cydweithio a wnawn, llawenydd a gawn' .
Ymhyfrydwn fod cymaint o frwdfrydedd yn parhau i sicrhau llwyddiant Ysgol Gymraeg y Gaiman heddiw. Rhaid canmol yr ymdrech barhaol o gydweithio a’r gefnogaeth i’r addysg safonol iawn a ddarperir yn gyson. Roedd cymaint o rieni wedi ymuno ac fe ddwedodd hyn wrthyf yn ddigon clir bod awyrgylch hapus yn bodoli a phartneriaeth agos rhwng yr ysgol â’r cartre’. Bu’r tair mlynedd a dreuliodd y ddau ohonom ymhlith Cymry Patagonia yn goron ar bob profiad yn ein bywydau. Diolch o galon.
