Cylchlythyr Cymdeithas Cymru-Ariannin Gaeaf 2023

Page 1

Cylchlythyr Gaeaf 2023

FelLlywyddbalchCymdeithasCymru-ArianninhoffwnddiolchibobunohonochamgefnogigwaithY Gymdeithas.Trysori’wrhannuyw’rGymraegathrwyfodynaelodauoGymdeithasCymru-Arianninrydym niigydyngwneudeinrhanynhynobeth,rwy’nteimloGyda’ngilyddrydymniwiryngwneudgwahaniaeth ifywydaueinffrindiauapherthnasauannwylynYWladfaa’rArianninbenbaladrheddiwMaecanghennau oGymdeithasCymru-ArianninwedieulleolimewnsawlardalyngNghymru.Ymunwchgydagunohonynti fwynhaucwmnïaethddaarhydyflwyddyn.

Hoffwnachubarycyflefanhynidaluteyrngedi’ndauLywyddAnrhydeddussyddwedieingadaeldrosy misoedddiwethafMaebwlchenfawrareuholauondmaeeugwaddolynmyndifodgydaniam flynyddoeddmaithiddodrwy’ngwybodYBnrElveyMcDonalda’rFnsElanJones–Gwladfawyrbalcha roddoddo’uhamsera’uhegniynddiflinodrosyGymraegynYWladfahydydiwedd.Coffadaiawn amdanynt.

Elvey Jones Macdonald (1941 – 2022)

Un o ‘blant y Paith’ oedd Elvey ac yn ddisgynnydd balch o’r arloeswyr mentrus a ymfudodd i sefydlu Gwladfa, a ‘byd newydd’ yn Neheudir yr Amerig. Treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd yn Nghymru.

Fe’i magwyd yn Nyffryn y Camwy ar aelwyd a oedd yn parchu ac yn mynnu diogelu gwerthoedd gorau Cymru Pan ddaeth i Gymru am y tro cyntaf yn 1965 nid oedd ganddo air o Saesneg, dim ond Cymraeg a Sbaeneg.

Dechreuodd ei yrfa yn gweithio mewn banc yn Nhrelew. Wedi symud i Gymru bu'n drefnydd cynorthwyol Eisteddfod Genedlaethol Cymru am bum mlynedd, yna fe'i penodwyd yn Bennaeth Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru

lle bu yn y swydd rhwng 1974 ac 1997 Ar hyd ei oes, bu'n hyrwyddo popeth oedd yn ymwneud â'r Wladfa

Bu’n trefnu teithiau ac yn tywys ymwelwyr o Gymru i Batagonia am flynyddoedd lawer.

Bu’n Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Cymru-Ariannin, yn aelod brwd o’r pwyllgor gwaith yn hyrwyddo buddiannau’r Wladfa ac yn ddolen gyswllt glos rhwng Cymru a’r Ariannin.

Coffa da amdano a diolch am gael ei adnabod Cydymdeimlwn gyda Delyth a’r plant – Camwy Meleri a

Geraint a’u teuluoedd yn eu hiraeth a chofiwn yn annwyl am Edith, ei chwaer a’r teulu yn y Gaiman.

Elan Jones (1928 – 2023)

Bu farw Elan Jones, Lerpwl ar 22 Ionawr 2023. Fe’i ganwyd yn Nhir Halen, yn un o wyth o blant – 4 bachgen a 4 merch. Roeddynt – fel Elvey MacDonald –yn ddisgynyddion o Edwin Cynrig Roberts. Ffermio oedd ei thad, ac roedd bywyd yn galed yno Cymraeg oedd iaith yr aelwyd, ond yn yr ysgol roedd y gwersi yn Sbaeneg.

Wedi gwneud cwrs nyrsio yn Buenos Aires daeth Elan i weithio i Ysbyty Môn ac Arfon, Bangor. Yno y cyfarfu â’i gŵr, Emrys, ac aethant i fyw i Lerpwl. Yn nechrau'r 1960au aethant i gadw tŷ capel Capel Park Road, Lerpwl gan symud yn hwyrach i gadw tŷ capel Bethel, Heathfield Road

Bu’n aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Cymru-Ariannin am flynyddoedd gan ddod yn Llywydd

Anrhydeddus y blynyddoedd diwethaf Hi gafodd y fraint o ddadorchuddio'r gofeb i’r Mimosa yn Lerpwl yn 2015. Estynnwn ein cydymdeimlad â Richard, (yn Hwlffordd), David, Sonia ac Alun. Ceris Gruffudd

CYMDEITHAS CYMRU-ARIANNIN
Menna M George - Llywydd Cymdeithas Cymru-Ariannin

Ysgolion

Ysgol yr Hendre, Trelew

Diolch am ein helpu!

Yn ystod y deuddeng mlynedd ddiwethaf cyfranodd

Pwyllgor Gefeillio Aberteifi-Trevelin £6000 tuag at Ysgol y Cwm Lluniodd y pwyllgor blac yn sôn am y gefeillio i’w roi i’r ysgol – mae’n cynnwys arfbais Aberteifi a nodyn yn y Gymraeg a’r Sbaeneg.

Fe gyflwynodd y Parch. Eirian Wyn Lewis y plac i’r ysgol yn ystod ei ymweliad ym mis Hydref yn ogystal â

chyflwyno £1000 Erbyn hyn mae bwriad sefydlu cymdeithas gefeillio yn Nhrevelin fydd yn cyfarfod yn rheolaidd.

Elin Roberts

Ennillydd Ysgoloriaeth

Cyngor Tref Ffestiniog

2017 a 2022

Ysgol Gymraeg y Gaiman

Rhoddwyd rhodd o £2,000 yr un i'r tair ysgol Gymraeg yn ystod 2022 gan Gymdeithas CymruAriannin. Defnyddwyd yr arian i brynu cyfrifiaduron newydd.

Ysgol y Cwm, Trevelin

Yn Hydref 2017 fe deithiais i Batagonia ar fy mhen fy hun yn 18 oed wedi i mi ennill ysgoloriaeth Cyngor Tref Ffestiniog. Dyma oedd y tro cyntaf i mi deithio y tu allan i Brydain ar fy mhen fy hun, y tro cyntaf i mi fynd i Dde America, a’r tro cyntaf i mi fynd i Batagonia. Fe wnaeth y profiad yma newid fy mywyd yn llwyr!

Roedd bod ym Mhatagonia yn gyfle i ddysgu mwy am hanes y Cymry, y Tehuelches, ac am hanes yr Ariannin wrth i glywed am Peronismo a hanes y madres de la plaza de mayo. Mi wnes i benderfynu fy mod i eisiau gwybod mwy ac o ganlyniad fe astudiais fy ngradd mewn gwleidyddiaeth America Ladin yng nghampws De America Sciences Po Paris ym Mhoitiers. Yno fe gynyddodd fy niddordeb yn yr ardal ac fe wnaeth y chwilfrydedd ym materion De America barhau wrth i mi ddewis arbenigo yn ystod fy ngradd meistr.

Roeddhafeleniynunarbennigiawn-cefaisgyfleiddychwelydiBatagonia. Roeddwnwedinewidcymaintynypummlyneddoeddwedipasioersfy nhrocyntafyno.Ytroyma,roeddwnynrhuglynySbaenegacyngallu cynnalgweithdaidrwy’riaith.Roeddhynyncaniatáuimiddeallmwyamy gymunedymMhatagonia,acynfyngalluogiiweldpamorbwysigac allweddolywhanesadiwylliantyCymryyno–i’rrhaisyddynrhugleu Cymraega’rrhaisyddddimetoyneisiarad

Hoffwn ddiolch yn fawr i Gyngor Tref Ffestiniog am fod wedi rhoi’r cyfle i mi fynd i Batagonia. Hefyd hoffwn ddiolch yn fawr i Gladys Thomas a Billy Hughes (mam a dad Patagonia) am fy mabwysiadu fel aelod o’u teulu yn ystod fy amser ym Mhatagonia, ac i Patricia Alejandra Lorenzo Harris a Chyngor Tref Rawson am eu croeso cynnes a’u hamser

Yn olaf hoffwn ddiolch i bawb wnes i gyfarfod yn ystod f’amser yno am sbarduno fy niddordeb yn Ne America. Diolch am agor fy meddwl ac am agor fy ngorwelion.

Clwb Cyfeillion

Beth am gefnogi’r gwaith o hyrwyddo'r

Gymraeg yn y Wladfa drwy ymuno â Chlwb

Cyfeillion Cymru-Ariannin?

Ennillwyr Ionawr 2023:

£100 (Rhif 126) Loreen Williams, Efail Isaf, Pontypridd

£ 75 (Rhif 119) Sian Jones, Tonteg, Pontypridd

£ 50 (Rhif 54) Mair Nutting Roberts, Lerpwl

£ 25 (Rhif 367) RH Wyn Williams, Abersoch

Daw incwm rheolaidd i’r Gymdeithas o’r Clwb sy’n ein galluogi i gefnogi mudiadau ac achosion Cymreig yn y Wladfa Y tâl ymuno yw £10 y flwyddyn ac mae gwobrau o £100, £75, £50 a £25 bedair gwaith y flwyddyn

Os hoffech ymuno, anfonwch ebost at eleriproberts@hotmail.com neu ffoniwch 07790513048

ddi hennau

Cangen Sir Gâr

Trefnwyd noson arbennig, yng Nghanolfan Hengwrt

Llandeilo, gan Eluned ac Isías ym mis Medi 2022, gyda Lois Jones Morris o Fenter Sîr Gâr yn ein croesawu i'r ganolfan Roedd gofyn i bawb ddod ag un eitem oedd yn arbennig i'r unigolyn oherwydd y cysylltiad â'r Wladfa. Cafwyd cyfle i rannu ein profiadau o'r Wladfa, a chyfle i glywed gan rai o drigolion y Wladfa ar sgrin, yn sôn am y gwahanol bethau o Gymru sy'n agos at eu calonnau a pham Cawsom fwynhau empanadas Popty Patagonia a lot fawr o hwyl. Diolch i Esyllt, Noe ac Elvira, ac i Wayne am helpu gyda'r arlwyo.

AethllawerorgangenfynyiDdathliadGwylyGlaniadynNefynllynedd-roeddtrefenydyddyn ardderchog,ycymdeithasua'rarlwyo'rraddflaenaf.Mae'nrhaidsônfanhynamTitoLewis,oGangenSîr Gâr,ynwreiddiolo'rWladfa,acynbywbellachymMlaenycoedgyda'rteulu,awnaethganufelrhano'r adloniant Diolchogalonamddiwrnodarbennigabuddiol

CroesocynnesibawbiDdathliadGŵylyGlaniadymmisGorffennaf2023iSîrGâr,ganmainifyddyn trefnu'rŴyleleni

Tristywcofnodimarwolaethtriaelodo'rgangenynyblynyddoedddiweddar-EurosJones,HazelCharles Evansacynddiweddariawn,SelwynHymphreys.Colledi'rgangenarôlpobunohonynt.

NosWenery10fedoFawrthbyddnosonyngnghwmniIwanWynReesynHengwrt,Llandeiloar dafodieithoeddyWladfa.Croesocynnesiaelodaunewyddi'rgangen - cysylltwchagElfedDavies: elfedpenffin@hotmail.com

07836739043

Sefydlwyd CPPAE yn 2008 er mwyn hyrwyddo a meithrin cyfeillgarwch a dealltwriaeth rhwng pobl Aberystwyth a'r cyffiniau, a phobl tref Esquel a'r ardal gyfagos.

Mae'r Gymdeithas yn annog ymweliadau gan unigolion, teuluoedd a grwpiau er mwyn cynorthwyo i ehangu cyd-ddealltwriaeth o weithgareddau y ddwy dref.

Mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook y Gymdeithas

Cymdeithas Partneriaeth Pobl Aberystwyth ac Esquel CPPAE

Pwyllgor Gefeillio Aberteifi-Trevelin

Bydd pwyllgor gefeillio yn lansio’r cynllun ‘Ffrindiau’r Gefeillio’ yn ystod y gwanwyn Cyfle yw hwn i bobl ymaelodi ac ymrwymo i gyfrannu'n ariannol i hybu'r berthynas rhwng Aberteifi a Threvelin I ddechrau ar y cyhoeddusrwydd i’r cynllun bydd bore coffi yn cael ei gynnal yn Neuadd y Dref, Aberteifi ar fore Sadwrn 18fed o Fawrth. Yna bydd croeso cynnes i bawb ymuno mewn noson gymdeithasol ar nos Wener 21ain Ebrill am 7 o’r gloch yn y Man a'r Lle yn Aberteifi yng nghwmni Isías ac Eluned Grandis, Llanddarog. Yn ystod y noson bydd cynllun ‘Ffrindiau’r Gefeillio’ yn cael ei lansio yn swyddogol

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymaelodi gysylltu ag eirianbrynhyfryd@aol.com

Cangen y De

Am y tro cyntaf ers talwm ym mis Tachwedd cawson ni gyfle i gynnal digwyddiad wyneb yn wyneb. Diolch i barotrwydd Ceris Gruffudd i deithio atom yng

Nghaerdydd. Cafwyd noson ddifyr dros ben yn ei gwmni, wrth iddo hel atgofion

ameigyfnodfelysgrifenyddyGymdeithasatheithioynyWladfa. Roeddhi’nhynodbrafgweldcyniferwedi mentroallanarnosonmorddiflasorantywydd,acmiroeddpresenoldebGwilyma’ifwcedgochyn ychwanegiadarbennigiawn! (Mae’rbwcedgochynrhano’ndigwyddiadauersydechrau-dyfaisGwilymi gasglucyfraniadauarddiweddbobdigwyddiad.)

DiolchiElliwaShirleyameincroesawuiGapelBethel,Rhiwbeinaacamybaneda’rlluniaethflasus. DiolchhefydiDafyddaMeria’umerchLowriamsicrhaubodyrholloffertechnegol–yngyfrifiadur,sgrîn, taflunyddacati–yneulleermwyniCerisarddangoseistorfafawroluniau.Rydynniwirynwerthfawrogol iawnogyfraniadpawbilwyddiantynoson

YmmisRhagfyrcawsomddarlithddifyriawnganyDrDafyddTudur.Felygŵyrniferohononni,maes arbenigolDrTudurydybywydagwaithMichaelDJones,acameinbodwedidathludauganmlwyddiantei eniyllynedd,roeddynbriodoliawninnifelCymdeithasnodicyfraniadpwysigMichaelDJonesisefydlu’r Wladfaynystodyflwyddyn Yngynharachyn2022,cafoddniferohonomycyfleifwynhaudarlithhynod ddiddorolDrTudurarfywydagwaithydynaelwirganraiyn‘DadyWladfa’ Wrthiflwyddynydathlu ddirwynibenfelly,yteimladoeddinnigynnigailgyfleiglywedyddarlithhon,adaethryw40ohononniat eingilyddynrhithiolymmisRhagfyrifwynhau’rwleddeiriolunwaithynrhagor.Rydymynmawrobeithioy gwêlyrhollwaithymchwilolaudyddmewncyfrolswmpusynydyfodolagos.

Ary6edoIonawrcawsomnosoniddathluNosYstwyll/LosReyesynyChapter.Roeddyrystafelldaneisang acroeddemigydfelunynddiolchgariEiryamdrefnunosonmorhyfrydareincyfer.Roeddysgwrs agoriadolyneinparatoi’neffeithiol,acyngosodycyd-destunynberffaithargyferyrhaglenemosiynolyma. Ynsicr,cawsonnigydeinswyno’nllwyrgyda’rrhaglen‘PonchoMamgu’.Roeddpawbynunfrydoleinbod wedidysgullaweracwedicaelagoriadllygadigaledibywydyrarloeswyrcynnar.Cafwydsesiwnholifywiog iawnyndilynydangosiadaroddoddychydigowybodaethgefndirgefndirolinniamycynhyrchiadeihun. DiolchynfawrEiryarranpawboeddynbresennol,adiolchhefydibawbaddaethadetholiado ddanteithionblasusadiodyddargyferynoson.Rydynnihefydynwerthfawrogoliawnogyfraniadpwysig DafyddaMeriamygwaithtuôli’rbar!RoeddhefydynwychgweldGwilymmewnhwyliaudaiawnynghydâ’i fwcedgochwerthfawr!Drwyddidrawfelly,nosonlwyddiannusiawn Bullawerosgwrsioachymdeithasuar ôlgwylio’rrhaglenamynegoddnifereudiddordebmewndodynaelodauo’rGymdeithasaciymunogydani yneingweithgareddauyngnghangenyDe.

Croesoiaelodaunewydd–cysylltwchâSandraDePolgwawryrandes@yahoo.co.uk

Cangen Clwyd

Fel arfer mae Dydd Gwener 13eg o'r mis yn ddiwrnod anlwcus, ond fis Ionawr ces i fraint

hynod - croesawu merch ifanc o'r Wladfa i aros gyda mi dros y Sul yn

Abergele Helen Mair Green oedd hi, a daeth drosodd i gael gwersi ar y delyn fawr bedal gan Elinor Bennett yng Nghanolfan Gerdd William

Mathias, a gweld tipyn o Ogledd Cymru.

Cafodd gyfle y noson gyntaf i fynychu cyfarfod o Gymdeithas Emrys ap Iwan yn festri Mynydd Seion a chyfarfod rhai oedd wedi ymweld â’r Wladfa.

Yna ddydd Sadwrn aethom i weld y gofeb yn Lerpwl lle y cychwynnodd y fintai gyntaf i'r Wladfa. Gan ei bod yn ymddiddori mewn cerddoriaeth roedd cofeb y Beatles yn ddiddorol, ac ar y ffordd yn ôl cawsom gipolwg ar dre'r Wyddgrug, cyn cyfarfod Richard a Jois Snelson yn Ninbych oedd wedi

croesawu ei theulu draw yn y gorffennol

Dydd Sul cafodd gyfle i ymarfer ar delyn bedal yn ardal Pandy Tudurnepell o'r lle bu ei thad Iolo Erik Green yn gweithio ar fferm yn y 1980au.

Yna cafodd deithio drwy Eryri i gartref Twm a Delyth Elias lle roedd yn aros. Gobeithiwn rannu’n hatgofion â changen Clwyd. Os hoffech wybodaeth pellach neu ymuno â'r gangen, cysylltwch

â Nesta Davies nestamarydavies@gmail.com 07870323790

Cangen

Môn ac Arfon

Does dim gweithgareddau wedi cael yn cynnal yn ddiweddar ond gobeithir trefnu rhywbeth cyn bo hir.

Os hoffech ymuno neu gysylltu, anfonwch ebost at Cathrin Williams

cathrin.williams@gmail.com

Gefeillio Nefyn - Porth Madryn

wedd Gorffennaf y llynedd (ger tonnau gwyllt y môr, Aberdaron), dyma benderfynu mynd draw i’r Wladfa gyfer yr Eisteddfod. Pan glywodd rhai yn y Wladfa am nhaith, mi drefnodd Silvina Garzonio Jones - Cadeirydd mdeithas Gymreig Porth Madryn - y byddai’n syniad ahodd Maer Madryn - Gustavo Sastre - draw i Dŷ shke i fy nghyfarfod ar 19 Hydref 2022. Yn ogystal, eth criw o swyddogion Cyngor Dinas Madryn draw i’m arfod er mwyn ail gynnau’r cysylltiad gyda Chyngor f Nefyn yn dilyn gefeillio’r ddau le yn 1998.

Bu’n gyfle i gyfnewid anrhegion a chael sgyrsiau difyr am Nefyn a Phorth Madryn, ac i mi esbonio fy mod yn aelod o Gyngor Tref Nefyn ers 3 blynedd Yn bresennol yno hefyd oedd y Dirprwy Faer - Noelia Corvalán

Carro - a gyflwynodd y llyfr "El Concejo Deliberante en la Identidad Madrynense". Roedd yn gyfle i'r Maer a'r Dirprwy Faer gael gweld yr holl waith gwych mae Cymdeithas Gymreig Porth Madryn wedi ei wneud dros y blynyddoedd i adnewyddu Tŷ Toshke. Rhys Llewelyn, Nefyn

Athrawon 2022

Roedd Thomas Samuel a Siân Morgans yn byw yn y Gaiman - Thomas yn dysgu disgyblion oed uwchradd yn Ngholeg Camwy a chynnal dosbarthiadau Cymraeg i oedolion, a Siân yn dysgu plant cynradd yn Ysgol Gymraeg y Gaiman ac Ysgol yr Hendre, Trelew, a rhoi gwersi Cymraeg yng Ngholeg Camwy. Roedd Rhiannon Ashley hefyd yn gweithio yn Ysgol yr Hendre, Trelew fel athrawes cerddoriaeth a dawnsio gwerin. Yn yr Andes bu Beth Owen yn athrawes Gymraeg yn Ysgol y Cwm, Trevelin Dyma rai o'i atgofion!

Atgofion Thomas Samuel

Rhiannon

Hoff le: Canŵio ar afon Camwy yn y Gaiman

Ysgrifennydd Siwan Lisa Evans

Hoff fwyd: Malbec Sureño Gwalia Lân, Gaiman

ysgrifennyddCymAr@gmail.com

Profiad gorau: Asado cymdeithasol yn Nhŷ

Thomas, Beth, Siân a Rhiannon

Thomas

Hoff le: Bod ar lan y môr ym Mhorth Madryn

Hoff fwyd: Malbec Sureño yn Gwalia Lân, Gaiman

Profiad gorau: Asado yn Nhŷ Camwy gyda

phobl o gymuned Gymraeg y Dyffryn

07813 501699

Camwy gyda Siân a Thomas yn coginio

Hoff ddigwyddiad: Noson Gwin a Cherddoriaeth a drefnwyd gan Menter Patagonia

Be wnewch chi gofio fwyaf: Beirniadu tan 3 o’r gloch y bore yn Eisteddfod Trevelin a cheisio aros ar ddihun!

Hoff ddigwyddiad: Noson Lawen Eisteddfod

Trelew

Be wnewch chi gofio fwyaf: Sgyrsiau

diddorol bob wythnos yn Siaradwyr Camwy

(grŵp sgwrsio wythnosol yn Nhŷ Camwy i siaradwyr rhugl)

Sian Morgans

Hoff le: Porth Madryn. Dw i’n ymddiddori’n fawr iawn mewn hanes ac mi oedd hi’n brofiad hollol wefreiddiol i sefyll yn syllu allan i’r bae yn dychmygu taith y Cymry draw. Yn ffodus iawn es i i Borth Madryn yn ystod fy wythnos gyntaf gyda theulu Gabro i weld y morfilod, yr amgueddfa a gwylio dawnsio gwerin yn Tŷ Toschkediwrnod melys iawn.

Hoff fwyd: Cwestiwn anodd achos cefais flas o fwydydd traddodiadol yr Ariannin - roedd popeth mor flasus!

Mi wnes i fwynhau empanadas o’r Siop Bara fel trît dydd Gwener.

Profiad gorau: Penwythnos Eisteddfod y Wladfa. Teithiodd fy ffrind gorau Elen draw ar gyfer yr Eisteddfod felly roedd yn brofiad sbesial iawn i rannu amser draw yn y Wladfa. Doeddwn i ddim wedi cystadlu yn yr

Eisteddfod ers tipyn o amser felly braint oedd gallu cystadlu gydag athrawon y Gaiman yn y gystadleuaeth cydadrodd. I orffen y penwythnos fe wnaethon ni ganu a dawnsio tan oriau man y bore yn y Noson Lawen, roedd hi'n noson llawn hwyl.

Hoff ddigwyddiad: Un o’r profiadau sy’n gwneud i mi wenu pob tro yw taith Beth a finnau o gwmpas Trevelin. Fe wnaethon ni fwcio i weld y rhaeadrau, amgueddfa, tulipanes a blasu gwin o fewn 2 awr. Cawsom yn wir ‘whistle stop tour’ o Drevelin a dysgu’r gair ‘muy rapido’ gan y gyrrwr tacsi a chael gwers blasu gwin

Nantyfall muy rapido!

Be wnewch chi gofio fwyaf: Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb am y croeso a’r holl gyfleoedd i rannu amser yn eu cwmni. Mi fyddai’n cofio’r holl gwmni arbennig a’u straeon difyr.

MaeLleucuHafoAberystwythbellachwedicyrraeddGaimanacwedicychwyn yneigwaithfelathrawesddosbarthiYsgolGymraegyGaimantanddiweddy flwyddyn Byddhi'ndysguDosbarth4oedmeithrinynyboreau,aBlwyddyn6 cynraddynypnawniau.ByddeimerchEleanorsy'n5oedyncaelanturhefyd wrthiddifyndi'rysgolfeldisgybl!

MaeLleucuwedibodyngweithiotanynddiweddarfelathrawesynYsgol GymraegAberystwyth. Nidyhiywaelodcyntafyteuluifyndallani'rWladfai ddysgu-bueimodryb-GwenithapRobert(Blairerbynhyn)-ynathrawesdan yCynllunyn2007 Pobhwyli'rddwy!

Wedi cyrraedd y Gaiman am gyfnod erbyn hyn hefyd mae Ffion Denman fydd yn cynnal cwrs ffotograffiaeth i ddisgyblion Ysgol Gymraeg y Gaiman, ac yn creu casgliad o ffotograffau o bobl y Wladfa Bydd yn creu arddangosfa o ffotograffau ei thad Haydn a dynnwyd yn 1992 ac yn tynnu lluniau newydd o'r un gymdeithas heddiw. Mae mwy o wybodaeth yma Y Wladfa Gymreig

Os hoffech ymaelodi â'r Gymdeithas, y gost ydi £15.00 i unigolyn (£10 i rai dan 25 oed) neu £25.00 i gwpl. Anogwn aelodau i dalu'n uniongyrchol drwy archeb banc flynyddol.

Cysylltwch â'r ysgrifennydd i gael ffurflen ymaelodi, neu ffurflen Archeb Banc.

Nesta Davies

Ceris Gruffudd

Roberts

Ysgrifennydd Siwan Lisa Evans ysgrifennyddCymAr@gmail.com 07813 501699 Trysorydd Richard Snelson richard.snelson@gmail.com Swyddogion 22-23 Menna George Lois Dafydd Eluned Owena Grandis Llywydd Cadeirydd Is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith 22-23
Glory Roberts Parch. Eirian Lewis Elvira Moseley
Eleri
Eluned
Elfed
Sandre
Elliw Baines-Roberts Dwyryd Williams
Jones
Davies
De Pol Cathrin Williams Esyllt Roberts Rhisiart Arwel
Lleucu ac Eleanor

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Cylchlythyr Cymdeithas Cymru-Ariannin Gaeaf 2023 by Siwan Evans - Issuu