Cylchlythyr Cymdeithas Cymru-Ariannin Gwanwyn 2025

Page 1


Cylchlythyr Gwanwyn 2025

Hybu’r Gymraeg yn y Wladfa

Ynystod2025,diolchinawddCronfaMaria Pryderi, maeCymdeithasCymru-Arianninwedi noddi dau swyddog i gydlynu a threfnu gweithgareddauihybu’rGymraegynyWladfa. Nodyswyddogionywcanolbwyntioargreuac arwain ystod eang o weithgareddau sydd yn annog a chynorthwyo pobl i ddefnyddio’r Gymraegyneubywydaubobdydd. Swyddogion2025ywLoisWiliamoGaernarfon, aGruffyddMadoc-JonesoGaerdydd.

Graddiodd Lois o’r LSE mewn Anthropoleg Gymdeithasol, felly nid yw’n syndod bod ganddi ddiddordeb brwd mewn pobl a’u gwahanol ffyrdd o wneud synnwyr o’r byd Yn ei hamser hamdden, mae hi wrth ei bodd yn mynegi ei chreadigrwydd - boed hynny drwy gerddoriaeth, ymweld ag arddangosfeydd celf neu ysgrifennu’n greadigol. Mae hi wedi ennill sawl gwobr am ei gweithiau llenyddol a barddonol, gan gynnwys Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Maldwyn yn 2024

Lois: Bu’n fis Ionawr tra gwahanol i’r arfer eleni - nid Morus y gwynt nac Ifan y glaw, ond heulwen a gwres di-ffael y Wladfa fu’n fy nghyfarch bron bob bore yma yn Nyffryn Camwy. Yn llythrennol ers camu oddi ar yr awyren, rydw i wedi fy nhrwytho yn y diwylliant difyr sydd i’w ganfod yma: mi es yn syth bin o faes awyr Trelew i Gapel Bryn Crwn, lle’r oedd gwasanaeth Cymraeg yn cael ei gynnal Ar ôl cyfarfod sawl un o’r trigolion lleol yno, y stop nesaf oedd yr eiconig Dŷ Camwy!

A minnau mor ymwybodol o hanes y llety arbennig hwn, profiad cofiadwy iawn oedd camu dros y trothwy. Wedi gollwng fy nghesys yno, cyn pen dim roeddwn yn sefyll ar gopa bryn y Gaiman yn edmygu’r olygfa odidog oedd yn ymestyn at y gorwel pell, lle’r oedd yr haul yn prysur fachludo. Mewn dim o dro wedyn, roeddwn yng nghanol bwrlwm Fiesta de la Cereza (Gŵyl y Ceirios) wrth galon tref y Gaiman Ac felly, o fewn ychydig oriau i ’nhraed gyffwrdd â thir y Dyffryn, roeddwn wedi bod yn ddigon ffodus i gael mynychu gwasanaeth, gŵyl, a chyfarfod llu o drigolion hwyliog, a hyn oll cyn i mi ddadbacio’r un dilledynbu’n ddiwrnod cyntaf i’w gofio! Bu gweddill y mis hefyd yn llawn cynnwrf wrth i ni gyfarfod mwy a mwy o bobl a dechrau arni gyda’r gwaith Bûm yn cynnal sesiwn gemau i blant yn Ysgol Gymraeg y Gaiman, lle cawsom hwyl yn chwarae a sgwrsio drwy’r Gymraeg. Bûm hefyd yn cynnal sesiynau i blant cynradd ym Mhorth Madryn a chyfrannu at gwrs dysgu Cymraeg fel rhan o Wythnos Blasu’r Gymraeg yn Nhŷ Toschke, cyn cael ambell gyfweliad radio i drafod ein gwaith tra oeddem ni yno Buom yn cynorthwyo gyda pharatoadau Eisteddfod yr Urdd yn ogystal â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn y Dyffryn, cyn teithio i’r Andes am y tro cyntaf. Mae’r antur yn parhau felly, ac rydw i’n ysu am gael profi mwy!

Astudiodd Gruffydd Hanes ym

Mhrifysgol Aberystwyth, ac ers

graddio, mae Gruffydd wedi

gweithio gyda Menter Brycheiniog

a Maesyfed fel Swyddog Datblygu, a thros y 18 mis diwethaf, mae wedi bod yn Swyddog Ieuenctid gyda Menter Caerdydd ac yn rhan o’r tîm sy’n gyfrifol am drefnu amrywiaeth o weithgareddau a Gwŷl Tafwyl. Tu allan i’r gwaith, mae Gruffydd yn dyfarnu rygbi gydag Undeb Rygbi Cymru ac yn ystod y flwyddyn diwethaf, mae wedi cwrdd â ffrindiau newydd trwy ymuno â Chôr Taflais yng Nghaerdydd

Gruff: Wel, ble alla i gychwyn siarad am y cyfnod dwi newydd brofi yn y Dyffryn! I fynd o’r dechrau, daeth diwrnod y glaniad ym Mhatagonia i mi ar y 10fed o Ionawr. Fel profiad pob Cymro a Chymraes yn cyrraedd y maes awyr bach yn Nhrelew am y tro cyntaf, teimlais i ryfeddod mewn gweld golygfeydd estron – wrth edrych allan ar dirwedd wasgaredig trwy ffenest yr awyren, yr arwydd ‘Croeso i Drelew’ wrth gamu allan o’r awyren a’r deinosoriaid yn y maes awyr! Ond yn fwy anghredadwy, cefais i groeso arbennig gan y geiriau ‘Menter Caerdydd’ (sefydliad fy nghyn-weithle) ar faner y Ddraig Goch oedd yn chwifio gan Gl d Th El d J dd th i fy nghasglu

48 awr yn ddiweddarach, cefais amser i orffwys yn Nhŷ Camwy a chyfle i gofio un o’r penwythnosau mwyaf prysur yn fy mywyd! Gan ddiolch i Eluned (y tywysydd o fri), bu’n fraint yn ystod y diwrnodau cyntaf i gyfarfod â sawl unigolyn allweddol o gymuned y Gaiman a fu’n groesawgar dros ben ac yn awchus i glywed mwy am fy hanes Ymhlith y cyfarfodydd yma, cefais wahoddiadau i barti pen-blwydd, gwasanaeth yng Nghapel Bethel, cyfleoedd i gyd-chwarae pêldroed, nofio ym Mryn Crwn a chael swper yn Gwalia Lân - rhaid canmol y stêc Malbec blasus sydd ganddyn nhw!

Ers i Lois ymuno â’r antur, rydym ni dau wedi mwynhau dod i adnabod yr ardaloedd bendigedig sydd i'w gweld o amgylch y Dyffryn. Yn dilyn ein llwyddiant diweddar i gynnal sesiynau hwyliog gyda phlant, edrychwn ymlaen at gydweithio pellach gyda staff a disgyblion yr ysgolion Mae ein rhestr o gysylltiadau yn y Wladfa dal i dyfu, felly rydym ni’n agored i ddysgu mwy am ddiddordebau a’r dymuniadau sydd gan oedolion a phobl ifanc sy’n ddysgwyr Cymraeg I ddarganfod mwy am ein cynlluniau cyffrous eleni, dilynwch ein tudalen Facebook.

Buom yn cynnal sesiwn gemau i blant a rhieni Ysgol yr Hendre, Trelew a helpu gyda sesiynau croesawu disgyblion newydd i’r ysgol – cawsom hwyl a sbri yn chwarae ac yn sgwrsio yn Gymraeg!

Cawsom amser arbennig yn mynychu seremoni agoriadol Ysgol Gymraeg y Gaiman a pharatoi plant at gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, yn ogystal â chynnal sesiwn i fyfyrwyr yng Ngholeg Camwy!

Cafwyd noson braf o gymdeithasu yn sosial Gwawr y Gaiman! Roedd digonedd o fwyd da a sgwrsio yn Nhŷ Camwy tra bo Gruff yn dyfarnu gêm rygbi yng nghlwb Draig Goch.

Hazel Charles Evans Dysgwr y Flwyddyn

Bu cyfraniad cyson Hazel Charles Evans i hyrwyddo a datblygu’r berthynas sy’n bodoli rhwng y Wladfa a Chymru yn allweddol i gadw’r traddodiadau a’r iaith yn fyw hyd heddiw. Yn unol â’i dymuniad rydym yn parhau i wobrwyo a chlodfori disgyblion ar ddiwedd bob blwyddyn ysgol.

Roedd pedwar enillydd Gwobr Hazel Charles Evans am y flwyddyn ysgol 2024. Cyflwynwyd medal arbennig a gwobr ariannol o $50 ar ran Cymdeithas Cymru-Ariannin gan Eluned Jones i’r disgyblion am eu hymroddiad diflino a chyson i ddefnyddio'r Gymraeg. Llongyfarchiadau!

Cynllun yr Iaith Gymraeg

DennisRogers YsgolGymraegyGaiman

iagoMasip lfanEsquel

Mae dwy o’r un teulu – Anna ap Robert a'i nith Lleucu Hafyn rhannu mwy na dim ond angerdd dros addysgu'r Gymraeg

–maennhwarfinrhannuantur8,000milltiro’ucartrefiBatagonia!

Mae’rddwywedicychwynareugwaithfelswyddogiondatblyguiaithiGynllunyr IaithGymraegmewnysgolionynNyffrynCamwya’rAndes.

Bydd Lleucu, sy’n athrawes dosbarth derbyn yn Ysgol Rhydypennau, Aberystwyth,yndychwelydiBatagoniaarôltreulio2023yndysguynyGaiman.

Bydd hi a’i merch Eleanor yn mynd i leoliad gwahanol y tro yma – i’r Andes. Dywedodd Lleucu: ‘Mae cael y cyfle i wella fy Sbaeneg yn rheswm enfawr pam rydwieisiaumyndynôl,aciEleanorgynnaleisgiliauhefyd.Maegallurhoirhodd iaitharalli'chplentynynrhywbetharbennig-maehi’roedranperffaithargyfer yranturhon.’

Mae Anna, sydd hefyd o Aberystwyth, yn dod â phrofiad mewn theatr ac addysg Gymraeg i'r rôl. Ar ôl gweithio am 17 mlynedd fel swyddog ieuenctid mewn theatr gymunedol yn Theatr Felinfach, yna fel CynghoryddCymraegyngNgholegCeredigion,maehibellachyndysguCymraegioedolion.Cafoddeiderbyn ynaelodo'rOrseddynyrEisteddfodyllyneddameigwaithcymunedolynhyrwyddo'rGymraeg,acmae’n edrychymlaenatgaeleichadw'nbrysurgydagweithgareddaucymunedolynChubutadefnyddioeichefndir theatryneidysgu Dywedodd:"Rwy'ngobeithiodysguCymraegdrwyweithdaidawns a drama, cerddoriaeth a chanu, – rydw i eisiau rhannu fy angerdd am yr iaith a'r diwylliantCymraeggydaphoblPatagonia,ganddarparuprofiadpleseruso'riaith." Nidoeddyddeuawdmodrybanithynymwybodoleubodnhwwedigwneudcaisam swyddi tan ychydig cyn eu cyfweliadau llwyddiannus! Er y byddant yn teithio gyda'i gilydd,byddantwedi'ulleolitua350milltiroddiwrtheigilydd,gydagAnnayndysgu poblifancacoedolionynNyffrynCamwy,trabyddLleucuyndysgudisgyblioniauyn yr Andes. Mae'r cysylltiad teuluol yn mynd hyd yn oed yn ehangach gyda chwaer Anna,GwenithBlair,hefydwediteithioiBatagoniaiddysguCymraeg Y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, mae'r ddwy yn awyddus i ymgolli mewn bywyd lleol I Anna, mae hyn yn golygu archwilio'r rhanbarth a rhannu ei hangerdd am ddawns, cerddoriaeth a theatr Cymru, tra bod Lleucu yn edrych ymlaen at ailgysylltu â ffrindiau o'i harhosiad blaenorol a chyflwyno Eleanor i brofiadau newydd yn rhanbarth yr Andes. Dymuniadau gorau i’r ddwy wrth iddyn nhw ymgymryd â’r gwaith.

BrunellaMartino Mercante YsgolyrHendre,Trelew
SerenPetersenJones YsgolyCwm, Trevelin

ArielaGibbonydwi

Dwi´ndysguDawnsioGwerinyn YsgolGerddyGaiman.Dwi´n edrychymlaenigaelprofiad mewngrwpiaudawnsiogwerina chlocsiogwahanol

YnystodmisIonawraChwefror cefaisyfraintodeithioiGymrui arsylwigwahanolgrwpiau dawnsioachlocsioCymreig

Ysgoloriaeth Michael D Jones

CarolinaMartinezEvans ydwi

Dwi´n16oedadwi´n astudioyngNgholeg Camwy.Dwi´ndysgu CymraeggydagEsylltNest Robertsadwi´ndawnsioyn ygrŵppoblifancgydag ArielaynyrYsgolGerdd. Dwi´nedrychymlaeni

Maldwyn

AdranPenrhyd

Ymlaeni’r4eddwythnos! BuomynarsylwiachymrydrhanynymarferionAdranPenrhydgydaJennifer Maloney. DiolchJenniferamyrhollhelpbobamser.Maewedibodyn wriawnbodynbresennolmewnsawlyma cynnyddynygwahanolddawnsfeydda

Cyndiweddyrwythnoscawsomyfraint ofynychuymarferDanswyrTalog gydagEirlysaManselPhillips. Mae'r emosiwnadeimlemgydaCarolinapan gyrhaeddomymanymarferyn annisgrifiadwy-ersblynyddoedd rydymwedibodyndefnyddioeufideos iddysguynyWladfa.Croesawoddy criwnigydabreichiauagored.Diolch ambobcymorth!

Ynystodyrwythnosolaf wyrYsgafndroed irycriwganRhod nadoeddynyr honnoagorodd d i i

Diolchi’rhollffrindiausydd,felbob amser,ynagordrysaueucartrefiacyn rhoio’uhamsera’ucyfeillgarwchini.

ninamganiatáu imigaelprofiadmorhyfryd.Diolchynarbennigi LlinosHowells,oherwyddhebddihinifyddemwedi galluymweldâchymaintogrwpiaualleoedd

PontHenri

Tŷ Capel Bethel, Cwm Hyfryd

Nid tŷ teras, na thŷ dau lawr, neu un-o-ddau dŷ yw Tŷ’r Capel yng Nghwm Hyfryd, y Wladfa Math o dŷ sy’n perthyn i’r rhai a elwir yn fyngalo, megis tŷ un llawr Darlun arbennig iawn i mi, sydd wedi aros yn fy nghof ers dyddiau plentyndod yw’r hyn gallaf roi darlun i chwi mewn geiriau. Waliau o frics wedi’u gneud yn lleol sydd i’r capel, yn ogystal â rhai Tŷ’r Capel Sinc wedi cael cot o baent coch, yr un coch sydd ar do'r capel hefyd Ffenestri hir yw rhai’r capel, petryal, ond ddim mor hir yw ffenestri Tŷ Capel. Am i fyny, ac am i lawr oedd hanner y ffenestri yn agor ac yn cau.

Mae'r drws blaen, neu’r brif fynedfa i’r tŷ, yn edrych tua Mynydd Llwyd a rhaid cerdded drwy feranda cyn gallu troedio allan o’r tŷ. Feranda hir gyda llawr pren - bu yn lle urddasol i eistedd yn yr hwyr, ar ôl i’r haul prynhawn hafol, poeth fynd lawr Byddai sŵn dŵr y ffos fach oedd yn rhedeg rhwng y tŷ a’r capel yn gymorth i anghofio ei bod hi mor gynnes. Cofiaf bregethwr yn deud bod ‘murmur y nant yn gallu cyffroi’r dychymyg, yn ogystal â dylanwadu’r cwsg’

Roedd y feranda yn ardal gysgodol i gath ddigartref hefyd. Cofiaf y Parchedig Peregrin, oedd yn dod atom i gael cinio bob dydd ar wahân i ambell ddydd Sul, pan oedd e’n cael gwahoddiad i ginio gan aelod o’r capel Un tro ar ôl cinio, gofynnodd i mam os gallai fynd â’r hyn oedd ar ôl ar ‘i blât gyda fe? Siŵr iawn, medde Mam, a dodi hynny a rhagor mewn bowlen iddo, ac meddai wrthi: “chwel’, mae cath fach wedi ymgartrefu ar y feranda”. O hynny ymlaen, byddai “cinio i ddau” wrth sedd y Parchedig Peregrin yn ein cegin ni. Blynyddoedd wedyn, pan wnaethpwyd Tŷ’r Capel yn gartref dros dro i athrawon Cymraeg o Gymru, daeth un ohonynt o hyd i gi, a hwnnw angen lloches. Cafodd gartref ar y feranda.

Wedi mynd allan ac i’r chwith, mae wal yn gwynebu rhan o’r ardd, perth ein gardd ffrwythau ni, rhes fer o goed poplar wrth y ffens tua sied car y pregethwr. Ochr arall y ffens a thua’r ffordd i gyfeiriad yr Afon Percey, roedd tŷ bach y capel, a rhagor o goed poplar, yn ogystal ag helyg. Drws dau ran oedd drws y gegin, ac o flaen y drws roedd ffynnon ac arno bwmp i godi dŵr. Waeth bynnag bo gwres neu sychder yr hafau’r amser hynny, roedd yn y ffynnon ddŵr bob amser Byddai’r ffos fach yn sychu am sbel weithiau, ond roedd modd y pryd hynny i reoli’r dŵr oedd yn rhedeg trwy’r felin a’r pentre’. Roedd bwrdd a chadeiriau wrth ffenest y gegin, a stôf goed gyferbyn â’r ffenest Roedd simnai yn mynd i fyny yn syth allan trwy’r to, ac ar ei ffordd tua’r nenfwd yn taenu gwres o’i chwmpas. O’r gegin roedd drws yn mynd i’r lolfa – y stafell fwyaf yn y tŷ Un ffenest yn gwynebu’r capel a’r llall ar yr un wal a’r gegin Rhwng y ffenest a’r drws arall, mae lle tân mawr ar gornel. Trwy’r drws, ceir cyntedd byr, ac i’r chwith ceir stafell o weddol faint, a ffenest yn wynebu sied y car. I’r dde mae’r ystafell fawr a ganddi ddwy ffenest - un tua’r capel, a’r llall tua thalcen y tŷ Cyn mynd trwy’r drws ffrynt, i’r chwith mae ystafell arall o faint gweddol a ganddi le tân tipyn llai.

O flaen y tŷ, roedd pentwr o flodau yn tyfu o gwmpas rhosod bach pinc, eithaf maint. Cofiaf sôn wrth Mam bod y twmpath rhosod fel iâr fawr yn gwarchod ei chywion bach, oherwydd ym mhobman oddi tanno roedd blodau eira, a chlychau’r gog yn blodeuo pob gwanwyn Yn ystod y flwyddyn byddai briallu a mint i’w gweld o gwmpas y twmpath rhosod bach hefyd

Hanes Bywyd Rhyfeddol

un o Arloeswyr y Wladfa

DymagyfrolganWasgCarregGwalchamRichardJonesBerwynoDdyffrynCeiriog–Cymropybyr,dylanwadol,aanedym1837nawyddwniddimollamdanotanimi ymgartrefu ym Mhatagonia. Fel finna gynt felly, tybiaf mai prin yw’r Cymry sy’n gyfarwyddâhanes‘Berwyn’acmae’rawdurGrahamEdwardsynnodimai’rdiffyg ymwybyddiaethhwnnwa’isbardunoddefiddodâ’rgyfroliolaudydd,ganunioni’r cam a dod ag un o brif arloeswyr y Wladfa i’n sylw o’r diwedd Ond er bod y llifoleuadauwedi’uhaneluathyntahelyntbywydagwaithBerwyn,mae’rgyfrolyn taflugoleuniehangacharhanesyWladfaGymreigymMhatagoniaahynny,ynfymarn i,ywcryfderygyfrol Niddimondhanesundynagawn–llwyddoddyrawdurhefydi grynhoihanesdatblygiadymudiaddrosgyfnodcynnareibodolaethynsgileiymchwil ifywydygwronoLyndyfrdwyafabwysiadoddyrenw‘Berwyn’yngynnaryneioes,er parchi’wfroenedigol.Oganlyniad,dymagyfrolddestlussy’nhaeddueilleymhlithy casgliadamrywiololyfrauagyhoeddwyderssefydlu’rWladfa160mlyneddynôl.

Ynbedairarddegoed,gwnaedRichardJones,ysgolorifancdisglairoDdyffrynCeiriog,ynddisgyblathroa’r flwyddynganlynolenilloddysgoloriaethifynychuathrofaynLlundain.Ohynnyymlaen,arhydeifywydbu Berwynyngwasanaethu’rGymraeg,eigydwladwyra’igyd-WladfäwyryngNghymruacymMhatagonia.Yn ogystalâ’iwaithfeladdysgwr,roeddhefydynhynafiaethyddallenor,newyddiadurwr,golygydd,melinydd, cyfrifydd,cofrestryddathrengholydd,swyddog‘maeldy’,llyfrwerthwr,ceidwadporthladd,prifstiwardllong, rheolwrswyddfadywydd,seryddwr,ysgrifennyddyCyngora’rPwyllgorGwladfaol,awdurAlmanacBerwyn, blaenorcapelallawermwy athadallysdadibymthegoblant! Mae’rgyfrolwedi’irhannu’nddwy,gydathrefneffeithioliddi Yngyntafceirunarddegobenodaucymensy’n cyflwynogwahanolagweddauarhanesyWladfa,aphrofiadneugyfraniadBerwynynganolbwyntiddynt. Mae’rysgrifennu’ngynnil,grefftusacynllawngwybodaeth. Maeailhannerygyfrolyncanolbwyntioarydyn eihun,mewnwythrhan.TestunllawenyddoeddgweldpennodamhanesgwraigBerwyn;ymchwilioddyr awdurigefndirElizabethPritchardyngNghymrucyniddihithaugamuaryMimosaacermaidigonniwlogyw’r wybodaethamdanibellach,dagweldbodeichyfraniadhithau felgwraigamamyncaeleianrhydeddu, ynogystalâgwybodaethameudisgynyddion.

Eisteddfod y Wladfa

Bydd Eisteddfod y Wladfa yng nghanolfan Dewi Sant, Trelew ar 13-19 Hydref, 2025 Rhestr testunau ar gael yma

Wrthgwrs,maecyfraniadBerwynifywydysefydliadwedicaelei werthfawrogiynyWladfaerioed(maestrydoedd,capel,llyfrgellac ysgolyndwyneienw)ondyngNghymru,aetheienwi’rcysgodion fel’tae GŵyrllaweramMichaelD Jones,LewisJones,JohnDaniel Evansa’igeffylMalacara,ElunedMorgan,LlwydapIwanaceraill ond ychydig a glywodd am Richard Jones, yr hogyn bach o Frynhyfryd, Glyndyfrdwy a ddaeth yn ŵr eithriadol ddawnus a gweithgaracynlladmeryddamlieithogarranyCymrycyntafym MhatagoniagerbronyllywodraethymMuenosAires.

Cyfrolwychsy’ntaluteyrngediunobrifarweinwyryWladfaym Mhatagonia ArranpoblyWladfa,‘Diolchogalon,Graham’

Esyllt Nest Roberts

Ydych chi'n mynd i ymweld â'r Wladfa eleni, ac yn dymuno rhoi anrhegion neu adnoddau i'r ysgolion neu'r gymuned?

Mae ysgolion a'r cymunedau yn Y Wladfa yn werthfawrogol iawn o garedigrwydd Cymry sy'n ymweld â nhw yn cyfrannu at yr adnoddau sydd ar gael, ond yn aml mae beth sydd ei angen yn wahanol i'r hyn fuasen ni'n ei dybio Mae gan Cymdeithas Cymru-Ariannin restr o adnoddau mae'r gymuned yn awyddus i'w derbyncysylltwch â'r ysgrifennydd i gael manylion Yn yr un modd, gan nad yw postio nwyddau i'r Ariannin yn rhwydd iawn, os oes ganddo chi le yn eich ces i gario rhywbeth draw, byddwn yn gwybod am bethau sy'n aros i gael eu cludo i bobl benodol. Hefyd. mae cynllun Patagonia Instrument Project yn elusen yng Nghymru sy'n darparu offerynnau cerddorol ar gyfer grwpiau ieuenctid ac ysgolion ym Mhatagonia, a bydden nhw yn falch iawn o gael rhywun i gludo offerynnau draw.

Mwy o wybodaeth

Cangen Sir Gâr

Eithaf tawel fu hi dros y misoedd diwethaf, ond mae'n dda gallu dweud bod cwpwl o weithgareddau wedi bod yn ystod y tymor.

Yn gyntaf, ym mis Chwefror bu Elfed a Lynda Davies yn rhoi cyflwyniad i Gangen Bargod Teifi o Ferched y Wawr yn festri Eglwys Penboyr, Llandysul ar eu hymweliadau a’r Wladfa yn 2015 a 2023.

Ar Fawrth 5ed bu Cangen Sîr Gâr yn cynnal noson yn yr Atom yng Nghaerfyrddin gyda Menna George yn sgwrsio am ei phrofiadau ym Mhatagonia, ac o addysgu yn yr Ysgol Gymraeg yn Llundain Cafwyd cyfle am glonc a phaned, empanadas, profi matè, a mwy!

Croeso cynnes i aelodau newydd i'r gangen - cysylltwch ag Elfed Davies: elfedpenffin@hotmail.com 07836739043

Cangen y De

Llongyfarchiadau i Gwilym Roberts, un o aelodau’r gangen, ar ddathlu ei benblwydd yn 90 oed yn ddiweddar

Mae cyfarchion gan ei ffrindiau yn y Wladfa i’w weld yma.

Os hoffech chi fynd i weithgareddau'r gangen cysylltwch â Sandra De Pol gwawryrandes@yahoo.co.uk

Cangen Clwyd

Os hoffech gysylltu gyda'r gangen cysylltwch â Nesta Davies nestamarydavies@gmail.com 07870323790

Cangen Môn ac Arfon

Os hoffech gysylltu anfonwch e- bost at Hywel Owen hywelsycharth@gmail.com

Cymdeithas Gyfeillio Aberystwyth-Esquel

Pwyllgor Gefeillio Aberteifi Trevelin

Clwb Cyfeillion

unsyddâdiddordebmewn ymaelodigysylltuageirianbrynhyfryd@aol.com Mae mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook y Gymdeithas

Beth am gefnogi’r gwaith o hyrwyddo'r Gymraeg yn y Wladfa drwy ymuno â Chlwb Cyfeillion Cymru-Ariannin?

Daw incwm rheolaidd i’r Gymdeithas o’r Clwb sy’n ein galluogi i gefnogi mudiadau ac achosion Cymreig yn y Wladfa. Y tâl ymuno yw £10 y flwyddyn ac mae gwobrau o £100, £75, £50 bedair gwaith y flwyddyn Os hoffech ymuno, anfonwch ebost at eleriproberts@hotmail.com neu ffoniwch 07790513048

Swyddogion 24-25

Llywydd Cadeirydd Is-gadeirydd

Menna George Lois Naulusala

Eluned Owena Grandis

Pwyllgor Gwaith 24-25

Glory Roberts

Parch. Eirian Lewis

Elvira Moseley

Nesta Davies

Marian Brosschot

Dwyryd Williams

Rhys Llewelyn

Llinos Howells

Eluned Jones

Elfed Davies

Sandre De Pol

Esyllt Roberts

Rhisiart Arwel

Hywel Owen

Gallwch ymaelodi drwy lenwi’r ffurflen ddigiol hon, neu cysylltwch â'r ysgrifennydd.

Gallwch wneud cyfraniad untro gyda Paypal:

Ysgrifennydd Siwan Lisa Evans ysgrifennyddCymAr@gmail.com

Trysorydd Huw Ellis trysoryddcca@gmail.com

07813 501699

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.