Cylchlythyr Cymdeithas Cymru-Ariannin Gwanwyn 2024

Page 1

Cylchlythyr Gwanwyn 2024

Ysgol Uwchradd Gymraeg-Sbaeneg Newydd i Drevelin

Mae hi bellach yn 8 mlynedd ers i Ysgol y Cwm yn Nhrevelin agor ei drysau i 30 o blant yr ardal ac erbyn heddiw mae dros 150 o ddisgyblion yn mynychu Fe raddiodd y garfan gyntaf o blant Blwyddyn 6 ym mis Rhagfyr 2022 ac mae nifer wedi dal ati gyda’u dosbarthiadau Cymraeg yng nghwmni Athrawes Nia. Eleni, bydd graddedigion 2023 yn cael cyfle i barhau gyda’u haddysg Gymraeg yn adran uwchradd newydd sbon Ysgol y Cwm Bydd y dosbarthiadau cyntaf yn cael eu cynnal ar y 4ydd o Fawrth Hon fydd yr ysgol uwchradd GymraegSbaeneg gyntaf yn ardal yn yr Andes.

Fel sy’n arferol mewn ysgolion eraill yn yr Ariannin, bydd yr ysgol uwchradd yn cael ei chynnal yn adeilad yr ysgol gynradd am y tro. Bydd y disgyblion uwchradd yn mynychu yn y prynhawn, ar ôl i ddosbarthiadau cynradd y bore ddod i ben Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn gobeithio y bydd adeilad ysgol uwchradd newydd sbon yn barod erbyn 2027 Mae’r gwaith o baratoi’r tir eisoes wedi’i wneud, a bydd sylfeini’r ysgol uwchradd yn cael eu gosod yn fuan Bydd yr ysgol yn cynnwys 6 ystafell ddosbarth, ystafell athrawon, ystafelloedd ymolchi yn ogystal â labordy a stiwdio radio fach.

Ar hyn o bryd mae’n edrych yn debyg y bydd tua 20 o ddisgyblion blwyddyn 7 yn cychwyn y flwyddyn Fel sydd eisoes yn digwydd yn Ysgol y Cwm, bydd y rhieni sy’n danfon eu plant yn talu ffi Bydd y ffioedd hyn yn talu'r rhan fwyaf o'r costau rhedeg - gan gynnwys cyflogau, costau cynnal a chadw ac ati. Llywodraeth Talaith Chubut fydd yn talu cyflog y pennaeth, yn ogystal â chyflog yr ysgrifennydd. Mae’r Llywodraethwyr wedi bod yn brysur iawn yn dewis y tîm addysgu, gydag ambell i wyneb cyfarwydd yn ymuno, ynghyd ag athrawon newydd Rydym hefyd yn edrych ymlaen at groesawu gwirfoddolwyr ac athrawon newydd o Gymru

Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith adeiladu yn cael ei ariannu’n breifat, ac rydym yn y broses o godi arian ar hyn o bryd. Y llynedd, trefnwyd taith arbennig i 8 o ymwelwyr draw i’r Wladfa gyda’r elw yn mynd tuag at yr ysgol uwchradd.

Eleni, bydd criw bach o Drevelin yn teithio draw i'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ym mis Awst, gyda’r bwriad o godi arian ar gyfer yr ymgyrch

Mae ymgyrch yr ysgol uwchradd hefyd wedi derbyn rhoddion gan aelodau Cymdeithas Cymru-Ariannin. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyfrannu mewn unrhyw ffordd gysylltu â'r ysgol drwy gwybodaeth@ysgolycwm.com

fydd
Dyma ble
yr ysgol!
Llun - Elliw Roberts

Taith Iaith Mudiad Meithrin

Vikki, Heather ac Erin

Ym mis Tachwedd 2022 bu Mudiad Meithrin yn llwyddiannus yn ymgeisio am grant Taith Iaith Llywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun oedd ymestyn ffiniau eu gwaith a darparu cyfleoedd dysgu i’r Mudiad ym Mhatagonia. Roedd Patagonia yn ddewis naturiol i’r Mudiad meddai Helen Williams, Pennaeth Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Mudiad Meithrin ‘Mae gennym bartneriaid yno yn barod – Cylchoedd Meithrin ac ysgolion Cymraeg sydd yn cyfranogi yng ngweithgareddau Mudiad Meithrin ac sy’n edrych atom am arweiniad ar nifer o bynciau amrywiol’.

Ym mis Medi 2023 teithiodd Heather Thomas o Feithrinfa Cywion Bach, Caerfyrddin, Erin Williams o Gylch Meithrin Bro Alun, Wrecsam a Vikki Thomas o Sir Gâr draw i’r Wladfa i dreulio pythefnos yn ymweld â Chylchoedd Meithrin ac ysgolion lleol

Vikki Un peth oedd yn sefyll allan i mi wrth ymweld â’r ysgolion oedd pa mor weithgar oedd y staff Doedd ganddyn nhw ddim mynediad at lawer o’r adnoddau rydyn ni’n ddigon ffodus i’w cael yng Nghymru ond roedd y staff yn greadigol i sicrhau bod plant yn cael cymryd rhan a phrofi gwahanol weithgareddau. Gwelsom blant yn cael gwersi Cymraeg, canu, dawnsio gwerin ac adrodd, a roeddent wrth eu bodd yn perfformio a gofyn cwestiynau i ni am Gymru! Roedd hi’n braf gweld yr ymdrech roedd y staff yn wneud i hybu’r iaith

Heather Roedd yn hollol wefreiddiol i glywed plant ym mhen draw’r byd yn canu yn y Gymraeg! Roedd balchder mawr wrth ddathlu Cymreictod ym mhob ysgol ac roedd athrawon yn gweithio’n galed iawn i atgyfnerthu’r neges hyn trwy ganu, dawnsio gwerin, adrodd ac actio trwy gyfrwng y Gymraeg Roedd pawb yn brysur yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod fawr ddiwedd y mis ac yn mwynhau’r ymarferion, yn ystod y gwersi ac ar ôl ysgol hefyd! Teimlaf fod yr ymdeimlad o berthyn yn bwysig iawn i’r Cymry ym Mhatagonia ac mae hyn yn bwydo’r diwylliant cyfoethog

Erin

Dyma un o fy hoff luniau a gymerwyd yn ysgol y Gaiman Roedd y plant yn cael cyfle i ddefnyddio eu dychymyg a chreadigrwydd wrth adeiladu ‘cestyll’ a ‘mynyddoedd’ ac adeiladu tyrau. Roedd y tiwbiau yn gallu cynnig oriau o hwyl i’r plant, ac i mi. Yn y llun gwelwch gwelwch Seño Judith yn hapus ac yn chwerthin yn ymateb fel y ferch i fy ystumiau i Roedd y berthynas rhwng yr athrawon a’r disgyblion yn hyfryd i’w weld, perthynas agos ac roedd yn amlwg bod yr athrawon yn mwynhau eu swyddi.

Cymal olaf y cynllun fydd croesawu athrawon o Batagonia i Gymru yn ystod mis Mai 2024 ac mae’r trefniadau ar y gweill ar gyfer yr ymweliad hwnnw. Y bwriad wedyn ydi cynnal y berthynas yma ac adeiladu ar y cysylltiadau er mwyn parhau i rannu arferion da a datblygiad y Gymraeg.

Ychydig o newyddion Esquel

Cynhaliwyd Cymanfa Ganu ar y 3ydd o Chwefror i ddathlu penblwydd Capel Seion, Esquel yn 120. Y Parchedig Lucas Gibbon o Drelew oedd yn llywio’r gymanfa, gyda Br. Arturo Lawndes o Drevelin yn cyfeilio, a Glenda Powell, Mónica Williams ac Irving Evans yn arwain y canu. CawsomnigynulleidfaddagydachyfeillionoBuenosAires,Maiténa’rUnol DaleithiauAmericaynymunoâ’rrhailleoloEsquelaThrevelin.Roeddcasgliad at Eisteddfod Trevelin. Gan ei bod hi’n dymor twristiaeth, mae llawer o ddiddordebmewnymweldâChapelSeion,fellymaearagorrhaidyddiaui ymwelwyr. YrachlysurnesafymmisChwefroroeddTeCymreigigodiariani

barhau efo´r gwaith adeiladu Roedd Canolfan Hazel Charles Evansynorlawnfelarfer

CafwydhefydorymdaithiddathlupenblwyddEsquelyn118 mlynedd yn ddiweddar Daeth cyfeillion o Gymdeithas GymraegBroHydref,Trevelinigymrydrhan,ganddangoseu cefnogaethi’rgwaithohybudiwylliantCymraegyrAndes.

Cristina Jones
‘Aeth Ysgol Syr Hugh i’r Wladfa…’

Elin Llwyd Brychan

Yn ddiweddar rwyf i, 34 disgybl arall, a 6 o athrawon, wedi bod yn ddigon ffodus i gael gweld byd y tu hwnt i Gymru, byd yr wyf cyn hyn ond wedi breuddwydio amdano Rwy’n sôn wrth gwrs am daith ysgol Syr Hugh i Batagonia. Ar ôl dwy flynedd o aros fe ddechreuodd yr antur am 4:30 bore dydd Mercher, y 25ain o Hydref a dychwelyd bythefnos yn ddiweddarach yn llawn hiraeth am beth yr oeddem wedi ei adael ar ôl, ond hefyd ag atgofion melys.

Roedd ein hamserlen yn llawn - roedd gweithgaredd wedi ei gynllunio ar gyfer pob eiliad o bob dydd Un o’r rhain oedd ymweld ag Ysgol Gymraeg y Gaiman. Profiad ofnadwy o emosiynol a wnaeth i bawb sylweddoli pa mor ffodus ydym ni Roedd yr ysgol yn y broses o ehangu ond oherwydd problemau ariannol roedd y broses yn un araf. Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi cynorthwyo’r ysgolion i gasglu arian at wella safon yr adnoddau drwy gynnal tri chyngerdd ar draws y Wladfa Braint oedd cael cyd-ganu gyda disgyblion ysgol y Gaiman, yr Hendre, Trevelin a Threlew yn y cyngherddau, a braf oedd cael gweld Elidyr Glyn ac Alis Glyn yn perfformio yn y cyngherddau a Noson Lawen yr Eisteddfod

Fe wnaethom ni hefyd ymweld ag ysgol uwchradd Coleg Camwy tra oeddem yno Doeddwn i ddim wedi disgwyl clywed gymaint o Gymraeg a gweld gymaint o’n traddodiadau ni yn yr ysgol uwchradd, a chefais yn wirioneddol fy syfrdanu gan allu’r disgyblion i gyfathrebu gyda ni Cafwyd croeso cynnes gan bawb a phleser oedd cael treulio’r prynhawn yn eu cwmni. Cawsom hefyd groeso gan nifer o unigolion a grwpiau megis Clwb y Ddraig Goch. Buom ni’n lwcus iawn o gael mynychu dau asado yno. Asado yr Eisteddfod, a oedd ddim wedi cael ei chynnal ers blynyddoedd, a hefyd asado gyda chriw’r timau rygbi a hoci. Cafwyd cyfle i ymweld â’r caeau chwaraeon a chwarae ambell i gêm hefyd Yn ogystal, fe wnaethom ni gael blas ar ddawnsio gwerin yn ystod yr asado ’steddfod

Profiad hynod gyffrous a newydd i mi oedd cael mynd i’r Gymanfa Ganu. Roedd y capel miloedd o filltiroedd i ffwrdd, yn union fel capel traddodiadol Cymreig, gan gynnwys y seddi caled, anghyfforddus. Roedd y lle dan ei sang gyda chymysgedd o Gymry, Archentwyr ac ymwelwyr yr Eisteddfod. Mae’n rhaid i mi ddweud mai disgwyl digwyddiad difrifol a sych yr oeddwn i felly allwch chi ddychmygu’r sioc a gefais pan welais yr angerdd oedd gan yr arweinwyr Roeddent yn chwifio’u breichiau gyda brwdfrydedd wrth arwain y canu Cefais wefr wrth glywed sŵn anhygoel y pedwar llais yn atseinio yn y muriau Wel am brofiad oedd cael darllen nodiant o’r llyfr emynau ac ar ben hynny canu’n ddwyieithog, Cymraeg a Sbaeneg!

Ar ôl treulio wythnos yn y Gaiman roedd hi’n bryd i ni ailddechrau ar ein taith er mwyn gweld rhan arall o’r Wladfa, sef Trevelin yng Nghwm Hyfryd sydd wrth droed mynyddoedd yr Andes. Roedd yr ardal hon yn hollol wahanol i’r Gaiman ac yn llawer tebycach i Gymru, ond cyn cyrraedd roedd yn rhaid i ni deithio naw awr dros y paith.

Cefais fy syfrdanu yn ystod y daith hon - roeddwn yn disgwyl taith ddiflas drwy anialdir gwastad. Ond na, roedd lliwiau prydferth coch ag oren i’w gweld o’n cwmpas, ac roedd mynyddoedd llychlyd, tywodlyd ond prydferth hefyd i’w gweld. Roeddwn wedi gwirioni â ffyrdd llydan syth y paith. Roedd yna rywbeth braf iawn am gael teithio drwy’r distawrwydd

Dim ond un gair sydd i ddisgrifio bwyd yr Ariannin, sef bendigedig! Cawsom sawl stêc drwchus iawn a llwyth o doesion a hufen ia Rhywbeth arall yr oeddwn yn hoff iawn ohono oedd y traddodiad o eistedd o amgylch y tân gan yfed mate. Mae bron pob Archentwr yn hoffi mate ac yn cario fflasg llawn dŵr i bob man gyda nhw er mwyn ail lenwi eu mates Traddodiad arall, mwy cyfarwydd i ni, oedd ymweld â thŷ te, Tŷ Gwyn Fe wnaeth pob un ohonom ni fwynhau’r profiad. Ar ôl yr holl asados, empanadas, pizzas a heb anghofio’r dulce de leche, gallaf ddweud na fydd yr un ohonom ni eisiau gweld bara na chig am amser hir iawn!

Mae’r daith hon wedi rhoi blas ar deithio i ni i gyd ac wedi ysgogi teimladau cryf ymysg y disgyblion tuag at ddychwelyd i’r Wladfa er mwyn dysgu yn yr ysgolion a chynorthwyo plant i gael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg Diolch enfawr i Mrs Sioned Glyn am drefnu’r cwbl ac am wireddu breuddwyd nifer ohonom

… “Pe bawn i yn artist mi dynnwn lun Rhyfeddod y machlud dros benrhyn Llŷn” (T. Rowland Hughes)

Rydw i´n tynnu lluniau yn fy amser rhydd – a dychmygu fy mod yn artist trwy gyfrwng y camera. Wrth gerdded ffyrdd niferus yr ardal hon gwelaf wahanol dirwedd yn y tymhorau sy ´ n dilyn ei gilydd, yr anifeiliad anwes, yr adar, y sgwarnogod, y defaid ac ŵyn.

Hefyd mae llawer o ymwelwyr o Gymru o gwmpas yn ystod yr haf sydd yn gyfle gwych i gadw cofnod o bob criw sydd yn ymweld â ni.

Rwy´n manteisio ar bob achlysur i gael lluniau o wahanol ddigwyddiadau, pobol yn canu, dawnsio ac adrodd ar y llwyfan, ac o bawb sydd yn bresennol fel bod hanes digwyddiadau Cymreig yn cael eu cadw mewn cof. Mae’n ffordd o gadw ac arddangos darn bach o’n hanes yma wrth droed yr Andes.

Rwyf yn hoff iawn o drafeilio llwybrau i fyny i´r mynyddoedd, o gwmpas llynnoedd ac afonydd. Ac wrth sôn am fynyddoedd, rhyfedd mor wahanol y teimla rhywun ar ben mynydd uchel a minnau mor fach. Mae uchder wrth ddringo mynydd yn rhoi cyfle i gael golwg hollol wahanol o ´ r tirwedd islaw. Rhaid codi allan o dywyllwch y coed i gael hyd y ffordd i gyrraedd creigiau ar y top gan deimlo´r cerrig yn llithro dan ein traed, ac weithiau, mae peryg o droi ’mhigwrn os nad yn canolbwyntio a cherdded yn ofalus, ofalus. Wedi cyrraedd man gwastad, cael llonyddwch i edrych o gwmpas. Mor braf ydi´r tawelwch yna fel bod awydd aros yna am byth!

“Dewch gyda mi i fyny Graig Goch i ni gael gweld Cwm Hyfryd yn ei ogoniant, a chael eistedd yno min nos a mwynhau holl rhyfeddod yr haul yn machlud a’r cymylau’n creu patrymau aflonydd dros y cwm.”

Mae hedfan a theithio yn syniad da i nabod a gweld y gwahaniaeth sydd rhwng byw mewn gwledydd eraill a ´ u trysori yn y cof. Cofio unwaith croesi’r môr i weld ffrindiau, ac wrth gwrs roedd cael lluniau o bawb a phopeth yn rhan o’r daith! A chael fy syfrdanu gan adeiladau ffurfiol, moethus ac urddasol. Trysoraf luniau yn y cof a dynnais ar lan y môr, pan oeddwn yn ifanc iawn, mewn pabell gyda ffrind ddaeth yn chwaer yng nghyfraith beth amser yn ddiweddarach, a chael amser i’w gofio yn cerdded ar y traeth a mwynhau dŵr y môr a chri’r gwylanod, nid yw hyn yn digwydd yn aml gan ein bod yn byw wrth droed mynyddoedd yr Andes. Deffro ganol nos a tho y babell i lawr ar ein hwynebau, roedd gwynt Patagonia wedi bod yn brysur yn ystod y nos!

Daeth yr artist ac arlunydd Kyffin Williams o Gymru i aros gyda ni ar ddiwedd y flwyddyn 1968 ac aethom i dreulio dydd cyntaf 1969 wrth Lyn Rosario. Dad yn coginio oen wrth y tân sef “asado” a ninnau gyda fy mrawd iau yn cerdded o gwmpas y llyn yn sgwrsio gyda´r ymwelydd, doedd o ddim yn siarad Cymraeg a ni ddim yn siarad llawer o Saesneg ond dw i’n cofio mwynhau yn ei gwmni. Cefais lythyr ganddo bron i hanner canrif yn ddiweddarach ac roedd o ´ n cofio am “yr eneth fach gwallt coch!”. Ers hynny, roedd yn anfon cerdyn Nadolig pob blwyddyn i fy rhieni, efo un o’i ddarluniau ar y clawr.

Dw i’n edmygu artistiaid o bob cyfrwng ac mae rhai arlunwyr yn hynod o dalentog, gyda llygaid craff. Daeth rhieni Mari Catrin Philips o Ddulyn, yma i aros gyda ni yn ddiweddar ac fe gawsom dri darlun wedi eu creu gan eu merch,

sydd newydd orffen cwrs coleg, ac maent yn arbennig o dda, yn lliwgar, modern ac yn denu sylw, mae ´ n braf cael ein cyflwyno i waith amrywiol o Gymru.

Mae bod yn artist y tu hwnt i etifeddiaeth, iaith a chenedl, ac yn ddehongliad personol iawn.

PE BAWN I YN ARTIST….
Ysgrif fuddugol cystadleuaeth Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023
Alwen Green

Y llun a drysoraf i yw un pan oeddwn yn cychwyn i ddathliad canmlwyddiant glaniad Y Mimosa yn 1965. ´Roeddwn yn wyth oed. Yn y llun y mae Erik fy mrawd, Dad a Mam.´Rydan ni o flaen ein cartre, Pennant, a Chwm Hyfryd yn gefndir. Ar ddechrau un o ddathliadau a wnaed ym mis Tachwedd 1965 i gofio can mlynedd Gŵyl y Glaniad, pan ddaeth fy hen Daid a hen Nain ar y Mimosa.

YdiwrnodhwnnwroeddaniynmyndigyngerddlleoeddOsian Ellis y telynor, ac eraill o ´ r Hen Wlad yn ein diddanu, dan arweiniadRBrynWilliams.

Tynnwyd y llun dan sylw gan John Roberts, trefnydd yr EisteddfodGenedaetholarypryd.Yroeddynarosefoniynein cartre ac roedd gweddill y Pererinion yn aros mewn cartrefi CymraegeraillynyCwm.

Maelluniauynsicrynddyddiaduri’rcof!

Pe bawn i yn artist byddwn yn ychwanegu mwy at fy nghasgliad o luniau sy ´ n cyfleu teimladau gwahanol, a ´ u rhannu mewn llyfr gyda´r byd.

Dawnswyr Gwanwyn

Sefydlwyd aelwyd dawnsio gwerin Dawnswyr Gwanwyn yng ngwanwyn 1985 yn ninas Trelew gan y ddiweddar Mrs May Williams de Hughes, a chanddi hi y daeth yr enw Cymraeg.

Prif amcan yr aelwyd yw gwarchod a hyrwyddo un o agweddau cyfoethog y diwylliant Cymreig yn nhalaith Chubut. Yn y gorffennol bu May Williams de Hughes a Graciela Colasante yn gyfarwyddwyr, ac ar hyn o bryd mae Rodolfo Villagra ac Astrid Rhys yn cydlynu’r gwaith. Yn 2025, bydd yr aelwyd yn dathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu

Mae’r aelwyd yn hyfforddi parti dawns i blant a pharti dawns i oedolion, ac maent yn cymryd rhan mewn digwyddiadau mewn ysgolion, dathliadau a digwyddiadau hanesyddol, gwyliau rhanbarthol, a hefyd yn eisteddfodau’r dalaith, yn y cystadlaethau yn ogystal â seremonïau agoriadol yr ŵyl

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Dawnswyr Gwanwyn wedi teithio o amgylch Chubut yn cymryd rhan mewn digwyddiadau yn ymwneud â diwylliannau Celtaidd eraill megis Encuentro Patagonia Céltica ac mewn dathliadau Gŵyl y Glaniad mewn trefi a dinasoedd eraill. Mae’r aelwyd wedi cyd-gynhyrchu a pherfformio sioeau cerdd a dawns gyda grwpiau cerddoriaeth werin fel Belynus Folk a Melkisedeck hefyd a’u perfformio ledled y dalaith

Ysgoloriaeth Michael D Jones

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon gyda’r bwriad o alluogi unigolyn sy’n byw yn Chubut ddod i dreulio amser yng Nghymru i wella ac i ddatblygu ei sgiliau mewn unrhyw faes ymarferol cydnabyddedig trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd ysgoloriaeth 2024 yn agor i geisiadau ar Fai 28ain a’r dyddiad cau ar yr 28ain o Orffennaf - Gŵyl y Glaniad.

Enillydd Ysgoloriaeth Michael D Jones 2023, yw Cinthia Zamarreño o Gaiman fydd yn ymweld â Chymru yn ystod mis Ebrill a Mai.

Ei bwriad yw ymweld â gweithgareddau fydd yn meithrin ei diddordeb mewn sioeau cerdd, er mwyn gallu hyfforddi plant a phobl ifanc ei chymuned yn y maes Edrychwn ymlaen i’w chroesawu i Gymru!

Cymdeithas Gymraeg Porth Madryn

Ddechrau Chwefror cynhaliwyd wythnos o ddiwylliant Cymreig gan Gymdeithas Gymraeg Porth Madryn yn adeilad hanesyddol Tŷ Toshke Roedd yr wythnos yn cynnig rhaglen eang o weithgareddau i drigolion lleol ac ymwelwyr er mwyn rhannu diwylliant Cymreig Chubut

Cafwyd sgyrsiau, dosbarthiadau iaith, teithiau hanesyddol o’r ardal, gwerthu teisennau traddodiadol, cystadleuaeth castell tywod, cyflwyniadau artistig, dawnsio gwerin a cherddoriaeth draddodiadol

Eduardo Marinho dw i Dw i’n dod yn wreiddiol o Borth Madryn Dw i wedi bod yn gweithio yn Amgueddfa’r Glanio ers 2016. Dw i wrth fy modd gyda fy swydd achos dw i’n hoffi cymdeithasu â phobl. Yn 2017 dechreuais astudio Cymraeg ar ben fy hun - daliodd yr iaith fy sylw o’r eiliad gyntaf Yn 2018 roeddwn i’n lwcus i ennill ysgoloriaeth gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i fynd i Gymru, ond oherwydd y pandemig nid oeddwn yn gallu teithio i’r wlad am rai blynyddoedd.

Roedd yr wythnos yn cyd-fynd â dathliadau blynyddol i gofio ymweliad Syr Thomas Love Duncombe Jones Parry (Barwn Madryn) ag arfordir y Bae Newydd yn 1863 Er anrhydedd i’w ymdrechion a syniadau gweledigaethol y Gwladfawyr Cymreig cyntaf ar gyfer sefydlu porthladd yn y Wladfa, a llinell rheilffordd i gysylltu’r arfordir â'r dyffryn, y galwyd y ddinas yn Porth Madryn Eleni, dadorchuddiwyd monolith er cof am Farwn Madryn gan y bwrdeistref ynghyd â Chymdeithas Gymraeg Porth Madryn

O’r diwedd, yn 2023 cyrhaeddais i Gymru yn ystod yr haf i fynychu cwrs Cymraeg dwys Prifysgol Aberystwyth Roedd y cwrs yn gyflawn iawn a mwynheais i’r profiad Ces i’r pleser hefyd o weld Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr arddangosfa , y creiriau a’r gwaith yno Wedi i’r cwrs ddod i ben es i’r Eisteddfod yn Moduan, a braint oedd cael mwynhau’r ŵyl a bod ym mhabell Cymdeithas Cymru-Ariannin. Diolch i bawb yng Nghymru oedd yn garedig iawn i fy helpu yn ystod y freuddwyd o daith hon ac am ddangos eich gwlad i mi Tan tro nesaf!

Patagonia - Gwerin Gwalia’n codi pac draw i’r Gymru newydd sbon

Llinos Howells sy’n rhoi ei hanes fel tiwtor Cymraeg yn y Dyffryn

Ychydig a wyddwn i wrth wrando ar gân fuddugol Cân i Gymru 2023 y buaswn innau ymhen ychydig fisoedd yn codi fy mhac ac yn teithio draw i’r Wladfa! Hwn fyddai fy nhrydydd ymweliad â’r wlad gan i mi ddod yma am y tro cyntaf gyda fy nhad nôl ym 1999 - roeddwn wedi dyheu am ddod yma ers pan oeddwn yn blentyn

Ffarweliais â’r haf yng Nghymru ganol Awst a chyrraedd y Gaiman gyda’r gaeaf o fy mlaen, ac o, mi roedd hi’n oer yma! Ond buan yr anghofiais am yr oerni gan mai cynnes iawn oedd y croeso yn aros amdanaf. Ymgartrefais yn fy llety newydd sef Tŷ Camwy, ar stryd

Michael D Jones, a theimlais yn gartrefol yn syth wrth gael fy nghyfarch ‘bore da, sut d’ach chi?’

Gwawriodd fy more cyntaf yn Ysgol Gymraeg y Gaiman. Ar ddechrau bob bore daw’r plant i gyd ynghyd i’r neuadd i godi’r faner gan ganu anthem genedlaethol yr Ariannin, ac yna ar ddiwedd y dydd ei gostwng a chanu Hen Wlad fy Nhadau. Mae’r faner yn symbol pwysig a pharchus iawn yma, ac yn cymryd rhan amlwg mewn amrywiaeth o seremonïau torfol gan gynnwys Eisteddfodau a chyngherddau Roeddw ynn rhannu fy amser rhwng tair ysgol - Ysgol Gymraeg y Gaiman, Coleg Camwy ac Ysgol yr Hendre yn Nhrelew. Hefyd roedd gen i ddosbarth o oedolion draw yn Nolavon, a chyfarfod wythnosol gyda siaradwyr lleol, sy’n rhugl yn yr iaith, ond yn frwdfrydig iawn i drafod y byd a’r betws trwy gyfrwng y Gymraeg!

Ac yna mae’r bywyd cymdeithasol - gwahoddiadau di-ri i dai ffrindiau am asado a’r drefn Archentaidd ydy bod pawb yn cyfrannu trwy ddod â bwyd a diod at y bwrdd. Nosweithiau hwyliog dros ben gydag ambell i gân a dawns!

Ychydig ddyddiau ar ôl cyrraedd ym mis Awst, roedd Eisteddfod Mimosa draw ym Mhorth Madryn. Cefais amser wrth fy modd dros y ddau ddiwrnod yn yr Eisteddfod - roedd y neuadd yn orlawn a’r cystadlu o safon uchel. Roedd yno awyrgylch hyfryd deuluol tan dri o’r gloch y bore, gwledd o ganu, dawnsio a chyflwyniadau dramatig Cafwyd Eisteddfod yr Ifanc ar ddechrau Medi ac unwaith eto roedd cystadlu brwd Bu rhagbrofion am ddau ddiwrnod cyn y diwrnod mawr, gyda rhwng 80 a 100 o blant o dair oed i fyny yn cystadlu

Bu mis Hydref yn brysur iawn wrth baratoi ar gyfer Eisteddfod y Wladfa. Daeth llu o ymwelwyr o Gymru, a bu nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol i’w croesawu. Derbyniwyd aelodau newydd i’r orsedd mewn seremoni urddasol wrth gerrig yr orsedd yn y Gaiman, a chafwyd eisteddfod lwyddiannus a’r neuadd dan ei sang drwy’r penwythnos. Roedd aelodau’r orsedd yn osgeiddig yn eu ponchos glas wrth orymdeithio i’r llwyfan mewn seremonïau clodwiw. Hyfryd oedd gweld y plantos yn y ddawns flodau ac yn cyflwyno anrhegion i enillwyr y prif gystadlaethau.

Ar nodyn personol, cefais innau lwyddiant gyda pharti cyd-adrodd yr oeddwn i’n rh h l b gyntaf! Drannoeth yr eisteddfod cynhaliwyd cymanfa ganu yng nghapel Bethel, orlawn. Yno, 8,000 o filltiroedd o Gymru canwyd emyn fy nhad, ”Cofia’r Newynog,” emosiynol i mi a fy merch Rhiannon a oedd wedi dod draw ar ymweliad.

Dechreuodd dathliadau’r Nadolig yn gynnar ym mis Rhagfyr gyda Noson Lawen hwyliog gan blant yr ardal ac aelodau'r dosbarthiadau Cymraeg, a chafwyd gwledd gan yr Ysgol Gerdd mewn noson arall Bu gwasanaethau Nadolig mewn nifer o gapeli’r Dyffryn a Chwm Hyfryd - bûm yng nghapel Bethel ar dri achlysur gwahanol! Roedd mis Rhagfyr yn amser prysur yn yr ysgolion hefyd, gan fod angen hyfforddi’r plant ar gyfer cyngherddau Nadolig a’r seremonïau graddio ddiwedd y fllwyddyn ysgol.

Profiad personol i mi oedd ymweld â Tŷ Taid yn Nhrevelin - tŷ sydd rŵan yn amgueddfa yn olrhain hanes John Daniel Evans Pam profiad personol gofynnwch? Wel, os edrychwch ar glawr llyfr o gasgliad emynau a cherddi fy nhad, ‘Bara ein Bywyd,’ yn Nhŷ Taid y tynnwyd y llun ar y clawr pan ddaeth fy nhad a minnau ar ein hymweliad â’r Wladfa. Cefais y fraint eleni o gyflwyno copi o’r llyfr i wyres John Daniel Evans a rhoddodd gopi ar y silff ben tân. Rwyf wedi cael profiadau di-ri ac amhrisiadwy ers cyrraedd yma Dim ond ciplun sydd yn yr erthygl hon ac mae tymor prysur arall o fy mlaen siŵr o fod pan fydd yr ysgol yn ail agor ym mis Mawrth Os gewch chi gyfle, dewch draw i brofi'r haul a’r awyr las sydd yma trwy gydol y flwyddyn, hyd yn oed yn y gaeaf oer. “O bydded i’r heniaith barhau yma.”

Mae athrawes newydd wedi cyrraedd y Gaiman erbyn hyn er mwyn cychwyn ar ei gwaith yn Ysgol Gymraeg y Gaiman. Mae Megan Haf Samuel yn wreiddiol o’r Tymbl yn Sir Gâr. Graddiodd o’r Drindod yng Nghaerfyrddin ddwy flynedd yn ôl ac mae hi wedi dysgu mewn dwy ysgol ers hynny sef Ysgol Dewi Sant yn Llanelli ac Ysgol Tan y Lan yn Nhreforys. Meddai Megan ‘Dw i wrth fy modd yn addysgu disgyblion yng Nghymru a pha le gwell nag i ddod i Batagonia i mi addysgu (gobeithio!) disgyblion pen draw’r byd Dw i wrth fy modd yn cymdeithasu a mwynhau gyda phobl o bob oed a chymryd pob profiad y gallai Dw i’n aelod o glwb rygbi Y Tymbl ac wedi chwarae rygbi iddyn nhw ynghyd â bod yn gogydd, gwerthu raffl a bod yn gyfrifol am y cyfryngau cymdeithasol Dw i’n hoff iawn o deithio’r byd ac wedi gweld tipyn hyd yn hyn a gobeithio llawer mwy i ddod!’

Hefyd bydd Rhian Lloyd yn cychwyn ar ei gwaith yng Nghwm Hyfryd ar ôl y Pasg. Mae Rhian yn dod o Langefni yn wreiddiol ac yn dal i fyw ar yr ynys. Mae’n athrawes brofiadol iawn ac wedi dysgu am rai blynyddoedd yn Llangefni, ond bellach yn bennaeth yn Ysgol Pecarnisiog, Ynys Môn. Mae hi’n mwynhau cadw’n heini a chwaraeon o bob math ac yn edrych ymlaen i gael crwydro ym mynyddoedd yr Andes

Ydych chi'n mynd i ymweld â'r Wladfa eleni, ac yn dymuno rhoi anrhegion neu adnoddau i'r ysgolion neu'r gymuned?

Mae ysgolion a'r cymunedau yn Y Wladfa yn werthfawrogol iawn o garedigrwydd Cymry sy'n ymweld â nhw yn cyfrannu at yr adnoddau sydd ar gael, ond yn aml mae beth sydd ei angen yn wahanol i'r hyn fuasen ni'n ei dybio. Mae gan Gymdeithas Cymru-Ariannin restr o adnoddau mae'r gymuned yn awyddus i'w derbyncysylltwch â'r ysgrifennydd i gael manylion Yn yr un modd, gan nad yw postio nwyddau i'r Ariannin yn rhwydd iawn, os oes ganddo chi le yn eich ces i gario rhywbeth draw, byddwn yn gwybod am bethau sy'n aros i gael eu cludo i bobl benodol

Hefyd, mae cynllun Patagonia Instrument Project yn elusen yng Nghymru sy'n darparu offerynnau cerddorol ar gyfer grwpiau ieuenctid ac ysgolion ym Mhatagonia, a bydden nhw yn falch iawn o gael rhywun i gludo offerynnau draw

Newyddion o'r canghennau

Cangen Sir Gâr

Dewch i fwynhau cyngerdd i godi arian i Ysgolion y Wladfa.

Cewch glywed hanes y tair ysgol Gymraeg-Sbaeneg ym

Mhatagonia drwy gydol y noson a chyfle i godi arian tuag at eu prosiectau yn y Wladfa.

Bydd raffl gyda gwobrau gwych a lluniaeth ar gael ar y noson.

Tocynnau ar gael yma

Croeso cynnes i aelodau newydd i'r gangen - cysylltwch ag Elfed Davies: elfedpenffin@hotmail.com

07836739043

Newydd
Athrawon

Pwyllgor Gefeillio

Aberteifi-Trevelin

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymaelodi gysylltu ag eirianbrynhyfryd@aol.com

Ar Fai 15fed trefnir digwyddiad yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth.

Bydd mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook y Gymdeithas

Cangen Clwyd

Cymdeithas Gefeillio Aberystwyth-Esquel

Os hoffech gysylltu gyda'r gangen cysylltwch â Nesta Davies nestamarydavies@gmail.com 07870323790

Os hoffech chi fynd i weithgareddau'r gangen cysylltwch â Sandra De Pol gwawryrandes@yahoo.co.uk

Cangen Môn ac Arfon

Cangen y De

Os hoffech gysylltu anfonwch e- bost at Glory Roberts johntyhen@aol.com

A oes gennych ddiddordeb mewn dysgu a datblygu’r Gymraeg ym Mhatagonia? Ydych chi’n chwilio am her newydd yn 2024?

Mae swyddi gan y Cyngor Prydeinig yn 2024 i athrawon neu diwtoriaid cymwys i ddysgu naill ai plant neu oedolion. Bydd y dyletswyddau hefyd yn cynnwys trefnu gweithgareddau cymdeithasol ar ran Menter Iaith Patagonia Mae mwy o fanylion a ffurflen gais ar gael yma, neu cysylltwch â iepwales@britishcouncil.org Bydd bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol ar ôl ei gyflwyno.

Mae’r cylchgrawn Gwerddon wedi cyhoeddi rhifyn arbennig ar-lein am y Wladfa yn ddiweddar Diddorol nodi fod mwy o bobl wedi cyfrannu o'r Ariannin nag o Gymru, a dyma'r tro cyntaf hefyd i erthyglau Sbaeneg gael eu cyfieithu i'r Gymraeg yn hanes y cylchgrawn

Dyma ddolen at yr erthyglau yn unigol: Erthyglau | Gwerddon, neu cysylltwch â’r ysgrifennydd am gopi llawn.

Clwb Cyfeillion

Beth am gefnogi’r gwaith o hyrwyddo'r Gymraeg yn y Wladfa drwy ymuno â Chlwb Cyfeillion Cymru-Ariannin?

Daw incwm rheolaidd i’r Gymdeithas o’r Clwb sy’n ein galluogi i gefnogi mudiadau ac achosion Cymreig yn y Wladfa. Y tâl ymuno yw £10 y flwyddyn ac mae gwobrau o £100, £75, £50 a £25 bedair gwaith y flwyddyn. Os hoffech ymuno, anfonwch ebost at eleriproberts@hotmail.com neu ffoniwch

07790513048

Swyddogion 23-24

Llywydd Cadeirydd

Is-gadeirydd

Menna George

Lois Naulusala

Eluned Owena Grandis

Pwyllgor Gwaith 23-24

Glory Roberts

Parch Eirian Lewis

Elvira Moseley

Nesta Davies

Rhys Llywelyn

Dwyryd Williams

Eleri Roberts

Eluned Jones

Elfed Davies

Sandre De Pol

Esyllt Roberts

Rhisiart Arwel

Os hoffech ymaelodi â'r Gymdeithas, y gost ydi £15.00 i unigolyn (£10 i rai dan 25 oed) neu £25.00 i gwpl. Anogwn aelodau i dalu'n uniongyrchol drwy orchymyn banc blynyddol.

Gallwch ymaelodi drwy lenwi’r ffurflen yma, neu cysylltwch â'r ysgrifennydd am fwy o fanylion.

YsgrifennyddSiwanLisaEvans ysgrifennyddCymAr@gmail.com

TrysoryddRichardSnelson richard.snelson@gmail.com

07813501699

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.