Croeso i
Taliesin Gwybodaeth i gwmniau sy’n ymweld (o Mehefin 2024)
Ganolfan y Celfyddydau
Canolfan y Celfyddydau Taliesin
• Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu i Ganolfan y Celfyddydau Taliesin.
Prifysgol Abertawe sy'n berchen ac yn rheoli Canolfan y Celfyddydau Taliesin. Mae hi yng nghanol Campws Singleton
Prifysgol Abertawe, wedi'i hamgylchynu gan barc prydferth ac arfordir Bae Abertawe.
• Agorodd Canolfan y Celfyddydau Taliesin ei drysau ym 1984, ac mae wedi'i henwi ar ôl y bardd hynafol o Gymru, Taliesin. Mae ein rhaglennu’n cynnwys cymysgedd o berfformio cyfoes gan gynnwys dawns a theatr; cerddoriaeth; ffilm a darlledu. Rydym ni'n cyflwyno gwaith yn Gymraeg ac yn Saesneg, ochr yn ochr â rhaglen gref o ffilmiau rhyngwladol wedi'i chyflwyno mewn ieithoedd o bob cwr o'r byd.
• Rydym yn falch o fod yn leoliad dwyieithog.
• Y cyfeiriad llawn ar gyfer ein lleoliad yw: Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PZ
• Cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus: https://www.cymraeg.traveline.cymru/ (ar gyfer teithio i Abertawe)
https://www.swansea.ac.uk/cy/teithio/cludiant-cyhoeddus/ a https://www.firstbus.co.uk/south-west-wales/routes-and-maps/swansea-university (ar gyfer teithio i gampysau'r Brifysgol)
Manylion cyswllt
Er mwyn hwyluso eich hymweliad â ni, rydym wedi casglu ychydig o wybodaeth i'ch cefnogi.
Mae pob croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych gwestiynau. Isod ceir rhestr o gysylltiadau defnyddiol ar
gyfer eich ymweliad:
Uwch Dechnegydd: Andrew Knight – A.S.Knight@abertawe.ac.uk (01792 295492)
Rheolwr Marchnata: Nia Mills – N.S.Mills@abertawe.ac.uk (01792 602429)
Cydlynydd Blaen y Tŷ/y Swyddfa Docynnau: Deborah Drewson – D.D.Drewson@abertawe.ac.uk (01792 602060)
Cydlynydd Cyllid: Nancy Brown – N.E.Brown@abertawe.ac.uk (01792 295238)
Rhaglennu (rhaglen y lleoliad a hurio preifat): programming@taliesinartscentre.co.uk
[Nia Mills (01792 602429), Craig Morrow (01792 603783), Rhian Jones, Andrew Knight]
Rheolwr Lleoliad a Gweithrediadau: Rhian Jones – Rhian.Jones@abertawe.ac.uk (01792 604859)
Ar ôl i chi gyrraedd campws Singleton, bydd angen i chi yrru'n syth i fyny tuag at y prif adeilad sydd o'ch
blaen, sef Tŷ Fulton. O flaen Tŷ Fulton mae lawnt fawr werdd sydd yng nghanol cylchfan.
Wrth i chi nesáu at y gylchfan, parhewch i'r chwith ac ewch o gwmpas nes cyrraedd yr ail allanfa.
Cymerwch hon ac ewch ymlaen am ychydig a chymerwch y tro cyntaf ar y dde. Bydd y ffordd hon yn mynd â chi y tu ôl i Dŷ Fulton, ac ar y diwedd trowch i'r chwith gan ddilyn y ffordd i faes parcio.
Ewch yn syth ymlaen nes i chi gyrraedd maes
parcio mwy, ac fe welwch Ganolfan y Celfyddydau
Wrth ymyl y maes parcio, yn y gornel bellaf, mae man llwytho i Ganolfan y Celfyddydau Taliesin, ble mae'r ffordd wedi'i phaentio'n felyn. Fe welwch
Defnyddiwch y gloch wrth ddrws y llwyfan i gael mynediad i'r adeilad.
Parcio & Dadlwytho
Mae'r gofod yn yr ardal â llinellau a'r bae golygfeydd yn brin, ac yn bennaf fe'i defnyddir ar gyfer llwytho a dadlwytho yn hytrach na pharcio.
Os oes gennych gerbyd mawr gyda set, offer neu offerynnau ayyb, cysylltwch ag Andrew Knight cyn cyrraedd i drefnu'r ffordd orau o ddefnyddio'r gofod hwn.
Mae system Adnabod Rhifau Ceir yn Awtomatig (ANPR) ar waith ar y campws. Mae cyfyngiadau amrywiol yn eu lle
(yn enwedig o 8am-4pm yn ystod yr wythnos) ac mewn rhai achosion efallai y codir tâl amdano. Am ragor o wybodaeth siaradwch ag aelod o dîm Canolfan y Celfyddydau Taliesin a fydd yn gallu cynghori ar sail eich gofynion penodol.
Os oes problemau, neu os oes gan aelod o'r cwmni anghenion hygyrchedd, siaradwch ag aelod o staff
pan fyddwch yn cyrraedd a byddant yn hapus i'ch helpu.
Rheolau'r Tŷ
Dylai'r cwmni sy'n ymweld a pherfformwyr gyrraedd a gadael drwy Ddrws y Llwyfan.
Mae mynediad o gefn y llwyfan i Flaen y Tŷ yn gyfyngedig.
Dim Alcohol ar unrhyw adeg, yn unrhyw le cefn y llwyfan.
Ceir parthau dynodedig y tu allan i ysmygu neu fêpio.
Dylid bwyta ac yfed yn yr ystafelloedd gwisgo neu’r Ystafell Werdd.
Bydd y llwyfan a'r ardaloedd cefn y llwyfan yn cau 30 munud ar ôl i'r perfformiad ddod i ben, oni bai fod
estyniad wedi'i gytuno ymlaen llaw.
WIFI
Mae Prifysgol Abertawe'n darparu rhwydwaith Wi-Fi ar draws ei champysau, i'w ddefnyddio gan fyfyrwyr a
staff, yn ogystal â rhwydwaith ymwelwyr ar gyfer gwesteion a chynadleddau.
Cysylltwch â 'SwanseaUni-Visitors' a dilynwch y prociau a fydd yn gofyn i chi deipio eich cyfeiriad e-bost a
chytuno ar amodau a thelerau. Ar ôl derbyn hyn, dylech gael eich cysylltu â'r Rhyngrwyd.
Os oes gennych broblemau neu os oes angen cymorth pellach arnoch, gofynnwch i aelod o'r tîm a ddylai allu eich cynorthwyo ymhellach.
Mynediad a Hygyrchedd
Bydd y Technegydd ar Ddyletswydd yn cwrdd â chi ac yn eich helpu i ymsefydlu yng nghefn y llwyfan, gan ddangos chi i'r ystafelloedd gwisgo a’r Ystafell Werdd ac eich cefnogi gydag unrhyw ymholiadau.
Bydd Goruchwyliwr ar Ddyletswydd Blaen y Tŷ ar gael 2 awr cyn amser dechrau'r digwyddiad i'ch cynorthwyo gydag unrhyw ofynion Blaen y Tŷ.
Oriau agor craidd y Swyddfa Docynnau yw dydd Llun i ddydd Gwener 1pm–5pm. Mae hefyd yn agor yn hwyr ar ddyddiau digwyddiadau ac o leiaf 2 awr cyn amser dechrau digwyddiad ar y penwythnos. Rhif ffôn 01792 602060
Mae sawl lefel i'r adeilad ond mae ganddo fynediad drwyddi draw.
Mae'r ystafelloedd gwisgo, y cawodydd a'r toiledau i gyd yn hygyrch o ddrws y llwyfan ac maent ar yr un lefel â'r llwyfan.
Mae sawl lefel a grisiau yn y llwybr mewnol o gefn y llwyfan i flaen y tŷ.
Mae'r llwybr allanol o gwmpas yr adeilad yn gymharol hygyrch ac mae lifft yn y cyntedd i'r lefel is pe bai angen i aelodau'r cwmni gael mynediad i’r Ystafell Werdd a'r golchdy yn y lefel isaf, drwy ffordd heblaw grisiau.
Os oes gennych chi neu aelodau eich cwmni anghenion mynediad penodol, rhowch wybod i ni fel y gallwn helpu orau y gallwn ni.
Iechyd a Diogelwch
Dylid cadw pob ardal gefn y llwyfan yn lân ac yn daclus.
Bydd drysau'r awditoriwm yn aros dan glo nes bod Goruchwyliwr ar Ddyletswydd Blaen y Tŷ yn rhoi caniatâd i'w hagor.
Rhaid cadw coridorau, mynedfeydd, llwybrau cerdded a grisiau'n glir bob amser.
Rhaid rhoi gwybod i staff Canolfan y Celfyddydau Taliesin ar unwaith am unrhyw ddamwain neu achos brys.
Mae holl staff diogelwch y Brifysgol wedi'u hyfforddi ar gyfer cymorth cyntaf ac maent ar gael 24/7.
Ceir diffibriliwr yng nghyntedd Canolfan y Celfyddydau Taliesin.
Dylid cadw allanfeydd a drysau tân ar gau ac yn glir bob amser.
Mae’r asesiad risg technegol a chefn llwyfan ar gael gefn llwyfan
Trwyddedau
Dylid anfon gwybodaeth PRS at Ganolfan y Celfyddydau Taliesin cyn diwrnod eich digwyddiad neu ei chyflwyno i'r goruchwyliwr Blaen y Tŷ sydd ar ddyletswydd wrth gyrraedd.
Pan fo'n briodol, glynwch wrth bolisïau diogelu plant: https://diogelu.cymru/cy/int-i/int-i-i1/i1-p1/
Gweithdrefn Dianc mewn Argyfwng
Wrth gyrraedd, dylai cwmnïau sy'n ymweld ymgyfarwyddo â'r weithdrefn dianc rhag tân, y llwybrau ymadael a'r man ymgynnull. Mae'r wybodaeth ar gael ar yr hysbysfwrdd wrth ddrws y llwyfan, yn yr ystafelloedd gwisgo a’r Ystafell Werdd.
Dylai cwmnïau sy'n ymweld fod â chofrestr o gast a chriwbenodi eu Warden Tân eu hunain, a fydd yn gyfrifol am sicrhau
bod holl aelodau'r cwmni wedi gadael yr adeilad os bydd tân a'u bod wrth y man ymgynnull.
Os bydd argyfwng, bydd y larwm tân yn canu a chaiff arwyddion yr allanfeydd mewn argyfwng eu goleuo.
Dylai holl aelodau'r cwmni adael yr adeilad drwy'r allanfa dân agosaf a chwrdd ym man ymgynnull rhif 2: Y Rhodfa, ger y llyfrgell.
Yr allanfeydd tân y tu cefn i'r llwyfan yw: Llawr gwaelod - Drws y Llwyfan.
Llawr Gwaelod Isaf – trowch i'r chwith allan o’r Ystafell Werdd, drwy'r drws ar ddiwedd y coridor, mae'r allanfa ar y chwith.
Cyfleusterau cefn llwyfan
Ystafelloedd Gwisgo
Ar lefel drws y llwyfan gefn y llwyfan, mae gennym 4 ystafell wisgo ac mae gan bob un ohonynt
ddrychau â goleuadau, gofod i hongian dillad a gwisgoedd, byrddau smwddio, haearnau a basnau
golchi dwylo. Mae ganddynt hefyd ffenestri uchel er mwyn cael golau naturiol a phreifatrwydd. Gellir darlledu'r sioe drwy gydol yr ystafelloedd gwisgo ac yn yr Ystafell Werdd.
Toiledau a chawodydd
Yn yr un coridor â'r ystafelloedd gwisgo mae toiledau i ymwelwyr sydd â chawodydd ynddynt.
Mae gan y rhain ddrychau a goleuadau da hefyd.
Yr Ystafell Werdd
Ar y llawr gwaelod isaf, gefn y llwyfan, mae gennym Ystafell Werdd sydd ar gael at ddefnydd cwmnïau sy'n ymweld.
Mae gennym gyflenwad bach o wahanol de a choffi a cheir tegell, oergell a microdon yn ogystal â
llestri, cyllyll a ffyrc a gwydrau, a chyfleusterau golchi llestri.
Ceir bwrdd mawr a digon o gadeiriau a dwy soffa fawr gyfforddus.
Golchi dillad
Ar y llawr gwaelod isaf ceir golchdy/ystafell gyfleustodau sydd â pheiriannau golchi a sychu, rheiliau i hongian dillad, a chyfleusterau smwddio pe bai eu hangen.
Cynaliadwyedd
Mae Canolfan Celfyddydau Taliesin yn cyfrannu’n rhagweithiol at ymdrech heriol Prifysgol Abertawe i ddatblygu cynaliadwy.
Rydym yn annog ac yn cefnogi cwmnïau sy’n ymweld i ‘fynd yn wyrdd’ yn ystod eich amser gyda ni a chydweithio i leihau effaith amgylcheddol ein gweithgareddau a’n digwyddiadau.
Gallwn ddarparu’r wybodaeth a’r arweiniad diweddaraf ar deithio ac arlwyo cynaliadwy, gwaredu gwastraff ac ailgylchu.
I ddarganfod mwy am stori cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe a sut y gallwch chi ein helpu ni i'w hadeiladu, ewch i: https://www.swansea.ac.uk/cy/cynaliadwyedd/
Bwyd a Diod
Mae gan y Brifysgol wahanol siopau sy'n gwerthu bwyd a diodydd yn ystod y dydd ac mae'n cynnal ap archebu bwyd o'r enw Uni Food
Hub
Mae gwybodaeth diweddaraf ar arlwyo ar y campws ar gael yma: https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/amdanom-ni/gwasanaet hau-arlwyo/lleoedd-i-fwyta-ar-y-campws/ Nodwch y bydd amseroedd agor yn amrywio tu allan i’r tymor academaidd.
Ar gyrion y campws, mae dau le y gallwch gerdded yno'n hawdd:
The Pub on the Pond (11.30am - canol nos) – SA2 8PY 01792 298023
The Brynmill Coffee House – Teras Langland, SA2 0BB
Mae nifer o fwytai, archfarchnadoedd a siopau tecawê yn yr ardaloedd cyfagos yn Sgeti, Brynmill, ac Uplands. Gellir gyrru i'r rhan fwyaf o ardaloedd fel y Mwmbwls, y Marina a chanol y dref ymhen 10 munud o yrru (os bydd y traffig yn caniatáu!).
Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch yn ystod eich ymweliad, siaradwch â’r Goruchwyliwr ar Ddyletswydd
Blaen y Tŷ a fydd yn gallu eich helpu.
Pan fo'n bosib, mae'n well gwneud hyn cyn belled ymlaen llaw â phosibl er mwyn i chi osgoi eisiau bwyd yn syth cyn y perfformiad.
Pe bai gennych amser rhydd i ddarganfod Abertawe a’r cyffuniau, ewch I’r dolenni isod neu holwch ein staff cyfeillgar a fydd yn rhannu eu hawgrymiadau ar eu hoff lefydd i ymweld â nhw.
https://traveltrade.visitwales.com/itineraries/by-duration/swansea-day-trip-ideas-for-FITs
https://www.croesobaeabertawe.com/gwybodaeth-ddefnyddiol/