1 minute read

Gweithdrefn Dianc mewn Argyfwng

Next Article
Iechyd a Diogelwch

Iechyd a Diogelwch

Wrth gyrraedd, dylai cwmnïau sy'n ymweld ymgyfarwyddo â'r weithdrefn dianc rhag tân, y llwybrau ymadael a'r man ymgynnull. Mae'r wybodaeth ar gael ar yr hysbysfwrdd wrth ddrws y llwyfan, yn yr ystafelloedd gwisgo a'r ystafell werdd.

Dylai cwmnïau sy'n ymweld benodi eu Warden Tân eu hunain, a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod holl aelodau'r cwmni wedi gadael yr adeilad os bydd tân a'u bod wrth y man ymgynnull.

Advertisement

Os bydd argyfwng, bydd y larwm tân yn canu a chaiff arwyddion yr allanfeydd mewn argyfwng eu goleuo.

Dylai holl aelodau'r cwmni adael yr adeilad drwy'r allanfa dân agosaf a chwrdd ym man ymgynnull rhif 2: Y Rhodfa, ger y llyfrgell.

Yr allanfeydd tân y tu cefn i'r llwyfan yw:

Llawr gwaelod - Drws y Llwyfan.

Llawr Gwaelod Isaf – trowch i'r chwith allan o'r ystafell werdd, drwy'r drws ar ddiwedd y coridor, mae'r allanfa ar y chwith.

This article is from: