
1 minute read
Cyfleusterau cefn llwyfan
Ystafelloedd Gwisgo
Ar lefel drws y llwyfan gefn y llwyfan, mae gennym 4 ystafell wisgo gynnes ac eang, fawr a bach, ac mae gan bob un ohonynt ddrychau â goleuadau, gofod i hongian dillad a gwisgoedd, byrddau smwddio, haearnau a basnau golchi dwylo. Mae ganddynt hefyd ffenestri uchel er mwyn cael golau naturiol a phreifatrwydd. Gellir darlledu'r sioe drwy gydol yr ystafelloedd gwisgo ac yn yr ystafell werdd.
Advertisement
Toiledau a chawodydd
Yn yr un coridor â'r ystafelloedd gwisgo mae toiledau i ymwelwyr sydd â chawodydd ynddynt.
Mae gan y rhain ddrychau a goleuadau da hefyd.
Yr Ystafell Werdd
Ar y llawr gwaelod isaf, gefn y llwyfan, mae gennym ystafell werdd sydd ar gael at ddefnydd cwmnïau sy'n ymweld.
Mae gennym gyflenwad bach o wahanol de a choffi a cheir tegell, oergell a microdon yn ogystal â llestri, cyllyll a ffyrc a gwydrau, a chyfleusterau golchi llestri.
Ceir bwrdd mawr a digon o gadeiriau a dwy soffa fawr gyfforddus.
Golchi dillad
Ar y llawr gwaelod isaf ceir golchdy/ystafell gyfleustodau sydd â pheiriannau golchi a sychu, rheiliau i hongian dillad, a chyfleusterau smwddio pe bai eu hangen.