1 minute read

Mynediad a Hygyrchedd

Bydd y technegydd ar ddyletswydd yn cwrdd â chi ac yn eich helpu i ymsefydlu yng nghefn y llwyfan, gan ddangos chi i'r ystafelloedd gwisgo a'r ystafell werdd ac yn eich cefnogi gydag unrhyw ymholiadau.

Bydd goruchwyliwr ar ddyletswydd ym Mlaen y Tŷ ar gael 2 awr cyn amser dechrau'r digwyddiad i'ch cynorthwyo gydag unrhyw ofynion Blaen y Tŷ.

Advertisement

Oriau agor craidd y swyddfa docynnau yw dydd Llun i ddydd Gwener 1pm–5pm. Mae hefyd yn agor yn hwyr ar ddyddiau digwyddiadau ac o leiaf 2 awr cyn amser dechrau digwyddiad ar y penwythnos. Rhif ffôn 01792 602060

Mae sawl lefel i'r adeilad ond mae ganddo fynediad drwyddi draw.

Mae'r ystafelloedd gwisgo, y cawodydd a'r toiledau i gyd yn hygyrch o ddrws y llwyfan ac maent ar yr un lefel â'r llwyfan.

Mae sawl lefel a grisiau yn y llwybr mewnol o gefn y llwyfan i flaen y tŷ.

Mae'r llwybr allanol o gwmpas yr adeilad yn gymharol hygyrch ac mae lifft yn y cyntedd i'r lefel is pe bai angen i aelodau'r cwmni gael mynediad i'r ystafell werdd a'r golchdy yn y lefel isaf, drwy ffordd heblaw grisiau.

Os oes gennych chi neu aelodau eich cwmni anghenion mynediad penodol, rhowch wybod i ni fel y gallwn helpu orau y gallwn ni.

This article is from: