
1 minute read
Iechyd a Diogelwch
Dylid cadw pob ardal gefn y llwyfan yn lân ac yn daclus.
Bydd drysau'r awditoriwm yn aros dan glo nes bod rheolwr Blaen y Tŷ sydd ar ddyletswydd yn rhoi caniatâd i'w hagor.
Advertisement
Rhaid cadw coridorau, mynedfeydd, llwybrau cerdded a grisiau'n glir bob amser.
Rhaid rhoi gwybod i staff Taliesin ar unwaith am unrhyw ddamwain neu achos brys.
Mae holl staff diogelwch y Brifysgol wedi'u hyfforddi ar gyfer cymorth cyntaf ac maent ar gael 24/7.
Ceir diffibriliwr yng nghyntedd Taliesin.
Dylid cadw allanfeydd a drysau tân ar gau ac yn glir bob amser.
Trwyddedau
Dylid anfon gwybodaeth PRS at Ganolfan Taliesin cyn diwrnod eich digwyddiad neu ei chyflwyno i'r goruchwyliwr
Blaen y Tŷ sydd ar ddyletswydd wrth gyrraedd.
Pan fo'n briodol, glynwch wrth Bolisi Diogelu Plant Cymru.