
2 minute read
Cynaliadwyedd
Mae Canolfan Celfyddydau Taliesin yn cyfrannu’n rhagweithiol at ymdrech heriol Prifysgol Abertawe i ddatblygu cynaliadwy.
Rydym yn annog ac yn cefnogi cwmnïau sy’n ymweld i ‘fynd yn wyrdd’ yn ystod eich amser gyda ni a chydweithio i leihau effaith amgylcheddol ein gweithgareddau a’n digwyddiadau.
Advertisement
Gallwn ddarparu’r wybodaeth a’r arweiniad diweddaraf ar deithio ac arlwyo cynaliadwy, gwaredu gwastraff ac ailgylchu.
I ddarganfod mwy am stori cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe a sut y gallwch chi ein helpu ni i'w hadeiladu, ewch i: https://www.swansea.ac.uk/cy/cynaliadwyedd/
Bwyd a Diod
Mae gan y Brifysgol wahanol siopau sy'n gwerthu bwyd a diodydd yn ystod y dydd ac mae'n cynnal ap archebu bwyd o'r enw Uni Food Hub a fydd yn rhoi i chi'r oriau agor diweddaraf, dewisiadau o fwydlen a'r opsiwn i archebu o'r ap ac yna fynd i'r siop i gasglu.
Mae'r oriau cau ar gyfer y cyfleusterau hyn yn amrywio ond bydd llawer yn cau rhwng 4pm ac 8pm felly mae'n rhaid symud oddi ar y campws er mwyn cael bwyd.
Mae nifer o fwytai, archfarchnadoedd a siopau tecawê yn yr ardaloedd cyfagos yn Sgeti, Brynmill, ac Uplands. Gellir gyrru
Yn Nhŷ Fulton mae Greggs, Tortilla sy'n siop burritos a tacos, Root sy'n siop i lysieuwyr/feganiaid a siop i'r rhan fwyaf o ardaloedd fel y Mwmbwls, y Marina a chanol y dref ymhen 15 munud (os bydd y traffig yn caniatáu!).
Costcutter/Co-op sy'n gwerthu amrywiaeth o frechdanau, byrbrydau a phrydau parod i'r ficro-don, yn ogystal â chyflenwadau cartref, tybaco etc.
Hefyd, mae siopau Costa a Starbucks ar agor yn ystod y dydd a bydd aelod o staff yn hapus i'ch cyfeirio atyn nhw yn ôl yr angen.
Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch yn ystod eich ymweliad, siaradwch â'r goruchwyliwr Blaen y Tŷ sydd ar ddyletswydd a fydd yn gallu eich helpu.
Pan fo'n bosib, mae'n well gwneud hyn cyn belled ymlaen llaw â phosibl er mwyn i chi osgoi eisiau bwyd yn syth cyn y perfformiad.
Ar gyrion y campws, mae dau le y gallwch gerdded yno'n hawdd:
The Pub on the Pond (11.30am - canol nos)
The Brynmill Coffee House (8:30-4.00) Teras Langland, Abertawe, SA2 0BB
Rheolau'r Tŷ
Dylai'r cwmni sy'n ymweld a pherfformwyr gyrraedd a gadael drwy Ddrws y Llwyfan.
Mae mynediad o gefn y llwyfan i Flaen y Tŷ yn gyfyngedig.
Dim Alcohol ar unrhyw adeg, yn unrhyw le cefn y llwyfan.
Ceir parthau dynodedig y tu allan i ysmygu neu fêpio.
Dylid bwyta ac yfed yn yr ystafelloedd gwisgo neu'r ystafell werdd.
Bydd y llwyfan a'r ardaloedd cefn y llwyfan yn cau 30 munud ar ôl i'r perfformiad ddod i ben, oni bai fod gadael yn hwyrach wedi'i gytuno ymlaen llaw.
WIFI
Mae Prifysgol Abertawe'n darparu rhwydwaith Wi-Fi ar draws ei champysau, i'w ddefnyddio gan fyfyrwyr a staff, yn ogystal â rhwydwaith ymwelwyr ar gyfer gwesteion a chynadleddau.
Cysylltwch â 'SwanseaUni-Visitors' a dilynwch y prociau a fydd yn gofyn i chi deipio eich cyfeiriad e-bost a chytuno ar amodau a thelerau. Ar ôl derbyn hyn, dylech gael eich cysylltu â'r Rhyngrwyd.
Os oes gennych broblemau neu os oes angen cymorth pellach arnoch, gofynnwch i aelod o'r tîm a ddylai allu eich cynorthwyo ymhellach.