Gair Bach o Gyngor Rhifyn 1

Page 8

Llecynnau gwyrdd yn cynnig llesiant I’r rhai ohonoch sy’n byw yn ardal Caernarfon efallai i chi sylwi fod tu allan i ganolfan Byw’n Iach Arfon yn edrych ychydig yn wahanol yn ddiweddar. Mae datblygiad cyffrous yn mynd ymlaen yno wrth i fannau gwyrdd ar dir y ganolfan gael eu troi’n erddi cymunedol er budd y gymuned leol. Bwriad y prosiect yw galluogi unigolion o wahanol oedrannau, cefndiroedd ac anghenion l i ddod at ei gilydd er mwyn datblygu sgiliau newydd a chymdeithasu er budd eu hiechyd a lles. Mae’r criw sy’n gyfrifol am y prosiect yn chwilio am wirfoddolwyr felly os oes gennych ddiddordeb mewn garddio, mae croeso i chi ymuno. Am fwy o fanylion ar sut y gallwch wirfoddoli cysylltwch gyda Terry Williams ar 07813594777. Mae’r cais yma am wirfoddolwyr yn agored i unrhyw un felly cofiwch sôn wrth aelodau o’r teulu neu gyfeillion rydych yn meddwl fyddai gan yr amser a’r gallu i helpu.

Emma Quaeck, Stephanie Birt a Andrew Owen.

Dywedodd Terry Williams, Cydlynydd Cynllun Cyfeirio i Ymarfer: “Bydd y darn tir o flaen y ganolfan yn cael ei ddatblygu i fod yn ardd synhwyraidd yn cynnwys amrywiaeth o eitemau fydd yn addas i unigolion o bob oed ac anghenion iechyd corfforol a/neu meddyliol i’w mwynhau. Bwriedir plannu planhigion gydag aroglau arbennig sydd hefyd yn denu amrywiaeth o fywyd gwyllt i’r ardd. Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau gwahanol megis cerrig, pren, rwber a gwair er mwyn creu llwybrau synhwyraidd o amgylch yr ardd. Drwy osod eitemau cerddorol addas ar gyfer yr awyr agored o gwmpas yr ardd byddwn yn galluogi unigolion i gyfrannu ac ymateb i’w synhwyrau.” Yn ogystal â galluogi unigolion i arbrofi gyda’r gwahanol eitemau o fewn yr ardd mae sicrhau man tawel yr un mor bwysig felly mi fydd rhan o’r ardd yn cynnwys meinciau ar gyfer cymdeithasu neu wrth gwrs i fwynhau ychydig o dawelwch a’r byd natur mae’r ardd yn ei ddenu. Ychwanegodd Terry: “Rydym hefyd yn edrych at ddatblygu rhandiroedd o flaen y Ganolfan. Bydd hyn yn rhoi cyfle i unigolion o bob oed a gwahanol anghenion i dyfu cynnyrch eu hunain. Mae’r ganolfan yn gartref i Cegin Arfon sydd yn cael ei redeg gan Tîm Anableddau Dysgu Gwynedd. Mae’r gwasanaeth yn rhoi profiad gwaith i unigolion o’r gymuned sydd yn byw gydag anableddau. Y bwriad ydi defnyddio’r cynnyrch sy’yn cael ei dyfu yn yr ardd yn y caffi. Rydym yn gobeithio hefyd gallu cyfrannu ychydig o’r cynnyrch i’r banc bwyd lleol yn ogystal a phrosiect pryd a glud y Tîm Anableddau Dysgu.” “Fel tîm Cyfeirio i Ymarfer rydym yn disgwyl cynnydd sylweddol yn y nifer o bobl sy’n byw gyda cyflyrau iechyd meddwl yn cael eu cyfeirio i’n cynllun dros y misoedd nesaf, ac mae COVID-19 yn ffactor yn hyn. Bydd y prosiect hwn yn rhoi cyfleoedd i’r bobl hyn


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Gair Bach o Gyngor Rhifyn 1 by Cyfathrebu Mewnol - Issuu