3 minute read

Bet yn troedio Llwybr y Pererinion

Llongyfarchiadau mawr iawn i Bet Huws sy’n gweithio fel Swyddog Datblygu Iaith yn yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol am gwblhau taith gerdded ar hyd rhan o Lwybr y Pererinion yn ddiweddar.

Cafodd Bet gwmni Gareth Roberts o Fenter Fachwen ar y daith o Lanberis i Aberdaron er mwyn codi arian tuag at Hosbis Dewi Sant. Dewch i ni felly ddal fyny hefo Bet a chael darllen mwy am y daith:

Advertisement

“Nôl ym mis Chwefror wrth droedio Cwm Brwynog cefais syniad a fyddai’n plethu fy niddordeb mewn anturiaethau a gofal diwedd oes, sef cerdded Llwybr y Pererinion o Lanberis i Aberdaron yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Cymru Garedig (Dying Matters in Wales). Diolch i’r drefn, ’roedd yr antur hefyd yn apelio at fy ffrind a chydymaith droeon, Gareth Roberts, a dyma fynd ati i droi’r cysyniad yn realiti.

Penderfynwyd rhannu’r siwrnai’n bedwar cymal gan deithio o Lanberis i Benygroes ar y diwrnod cyntaf. Ymlaen â ni wedyn o Benygroes i Drefor cyn symud ymlaen i Dudweliog a chwblhau’r daith yn Aberdaron. Wrth ddychmygu’r bererindod nôl yng nghanol y gaeaf, ’roni wedi rhagweld dyddiau hirfelyn tesog, shorts, fest ac eli haul?!...felly, munud ola’ pnawn Sul piciais i siop Grib Goch yn y pentref i nôl esgidiau cerdded gwrth-ddŵr...a chap...a chôt wrth-ddŵr ysgafn. ’Dwi mor falch nes i hynny neu ni fuasai’n brofiad mor gyfforddus!!

Dyma gychwyn fore Llun heibio Capel Coch ac i fyny drosodd am Waunfawr gan ddilyn y llwybr drwy’r hen bentref tuag at yr afon. Wedi croesi’r bont, troi i fyny am Rosgadfan a gwyro i’r chwith oddi ar y lôn a chanfod ein hunain mewn coedwig fwsog cyn esgyn eto tuag at gyrion Moel Tryfan. Gyda dim ond y Mignaint a’r Mynydd Mawr o’n blaenau, ’roedd ‘na wir ymdeimlad o “Pererin wyf mewn anial dir” tan i ni gyrraedd Fron ac ymuno â Llwybr y Chwareli drwy Dorothea.

Yna cyd-gerdded â’r Llyfni heibio Talysarn i ganol Penygroes. Mae cymaint o gladdu a chloddio wedi digwydd i’n tirwedd, a chymaint o hanesion a lywiodd bywydau ein hynafiaid, ac felly ninnau, o’r herwydd.

Bet a Gareth wedi cyrraedd pen y daith

Gadael Penygroes fore Mawrth a dilyn llwybrau blodau gwylltion a phorthmyn heibio ffermydd a dolydd i Gapel Uchaf. Galw gyda theulu am banad yng Nghlynnog Fawr cyn ymweld ag Eglwys a ffynnon Beuno Sant, a chromlech Bachwen. Yna dilyn llwybr hudolus, llawn garlleg gwyllt cyn ymuno â’r lôn i Drefor....a gweld lle ’roeddan ni’n mynd drennydd: sef Bwlch yr Eifl.

’Roedd Bwlch yr Eifl fore Iau yn ddipyn o her ond ’roedd y golygfeydd o’r top yn werth pob ymdrech, a throsodd â ni wedyn am eglwys Pistyll, sydd bellach wedi’i llyncu gan unedau gwyliau. Mae’r defnydd o’r gair “datblygiad” yn y cyd-destun yma yn un sy’n fy nharo’n od a deud y lleia’?!? Yna ar hyd llwybrau gwartheg a defaid i Nefyn a Phorthdinllaen gan ddilyn yr arfordir a’i gildraethau smyglwyr i Dudweiliog. Langwnnadl gyda’r heulwen yn ein hannog.

Cawsom ginio hyfryd ar lan y môr traeth Penllech cyn mynd ‘mlaen heibio Porthor a chartref y brain: dwi’m yn meddwl i mi ddod ar draws cymaint ohonynt: cannoedd!!...a’r sŵn, er yn fyddarol, eto’n swynol. Yna, dilyn yr afon i Aberdaron dirion deg, a dathlu pen ein taith efo hufen iâ hyfryd Glasu.

Bu’n brofiad arbennig a gwerthfawr tu hwnt...gwir bererindod i mi fy hun ar ôl blwyddyn mor boncyrs! ’Roedd bywyd yn llythrennol mor ddistaw am bedwar diwrnod: dim ceir, dim sŵn heblaw cân yr adar, yr afon a thonnau, a’r ymdeimlad o hamddena...yn fy atgoffa o’m mhlentyndod.

’Roedd bod ynghanol natur yn ei ogoniant gwyllt a throedio hanes: hen adfeilion aelwydydd a gwaith hefyd yn fy atgoffa o’m gwreiddiau. Difyr oedd yr ymdeimlad a gefais i a Gareth wrth ddod ar draws y niferus fythynnod gwyliau ar ein taith: er yn hyfryd, ’roedd calon y cartref wedi diflannu, a’u gadael yn “oer”.

Cyfanswm o 47.8 milltir a chyfanswm o £1,250 i’r Hosbis hyd yn hyn. Diolch yn fawr i bawb am eu cefnogaeth a chyfraniadau hael.”

This article is from: