
4 minute read
Cyngor yn 25
Cadw ein hanes yn fyw
Eleni mae Cyngor Gwynedd yn dathlu penblwydd arbennig iawn. Mae 25 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Cyngor gael ei sefydlu ar ei ffurf bresennol yn dilyn adrefnu Llywodraeth Leol. Mae dipyn wedi newid dros y blynyddoedd ac un aelod o staff sydd wedi bod yma ar hyd y daith ydi Nest Thomas. Mae Nest yn wyneb cyfarwydd fel Rheolwr Amgueddfeydd a’r Celfyddydau yn yr Adran Economi a Chymuned ac eleni bydd yn nodi 35 o flynyddoedd ers iddi ddechrau gweithio i’r Cyngor. Dyma felly gyfle i ni hel atgofion gyda Nest ac edrych ymlaen i’r dyfodol.
Advertisement

Edrych yn ôl
Yn 1986 cefais fy mhenodi fel Swyddog Amgueddfeydd dan hyfforddiant. Ar y pryd roeddwn yn gweithio fel archifydd yn Coventry ac roeddwn yn lwcus i gael dod ‘nôl i Gymru. Cychwynnais yn Hydref 1986 a chael fy lleoli yn yr Archifdy efo’r Gwasanaeth Amgueddfeydd ag Archifau. Mae’r Gwasanaeth wedi newid cryn dipyn ers i mi ddechrau efo’r Cyngor. Ychwanegwyd orielau celf i fy rôl ac erbyn 2010 fe’m penodwyd yn rheolwr ar y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau a oedd yn cynnwys y Celfyddydau Cymunedol a Pherfformio (theatrau).
Mae cryn dipyn wedi newid yn y ffordd ‘da ni’n gweithio dros y blynyddoedd. Dwi’n cofio troi fyny i fy ngwaith â’r “boss” ar y pryd, sef Bryn R Parry, yn dwyn fy sylw at beiriant yn ei swyddfa - y cyfrifiadur cyntaf yn yr Archifdy! Roedd wedi cael ei droi ymlaen ond doedd gynnon ni ddim syniad sut i’w ddefnyddio ac roedd pawb yn rhythu arno. Roedd gan bawb arall typewriters a tippex. Roedd oes yr e-bost (a mwy) ar y ffordd ac mae wedi newid ein ffordd o weithio’n llwyr. Dwi hefyd yn cofio Bryn Parry yn anfon fi i dŷ yn Llundain i nôl cannoedd o lyfrau ar gyfer Amgueddfa Lloyd George. Felly, ffwrdd â ni, dwy ohonom mewn fan hefo map i ganol Llundain. Roedd hyn cyn yr oes SAT NAV ond fe wnaethom lwyddo i ffeindio’r tŷ. Rwyf wedi cyfarfod â llawer o bobl ddifyr trwy fy ngwaith fel Olwen Carey Evans, merch Lloyd George; David Bellamy tra’n plannu coeden; gwaith ffilmio gyda Huw Edwards y newyddiadurwr a Dan Snow yr hanesydd; Owain Fôn Williams, y peldroediwr a llawer o wleidyddion. Dwi’n cofio mynd i ddigwyddiad yn Llundain a digwydd troi rownd a phwy oedd yno ond Margaret Thatcher, cefais dipyn o fraw!
Hanes diweddar y gwasanaeth
Ar hyn o bryd rydym yn ymateb i pandemig Covid-19 fel pawb arall. Bu’n rhaid cau lawr yn sydyn ac addasu i weithio o adref. Yn raddol rydym wedi dod i arfer gyda hyn ac mae’n ffordd hyblyg iawn o weithio. Rydym yn gyfrifol am gasgliadau ac adeiladau hanesyddol Gwynedd ar ran ein cymunedau, felly mae’n rhaid sicrhau eu bod yn ddiogel, tra’n galluogi’r tîm weithio’n saff.

Nest gyda'r diweddar Meredith Edwards
Addaswyd ein rhaglenni a’n gweithgareddau a’u rhoi ar-lein. Felly, er bod ein safleoedd ar gau, roedd y clo yn gyfnod prysur i ni. Dwi’n credu bydd llawer o’r hyn a ddatblygwyd yn parhau wedi cyfnod y pandemig os ydynt yn helpu ni ymgysylltu’n well.
Wrth gynllunio i ail agor yn ddiogel rydym wedi cyflwyno system archebu tocyn, llif unffordd ac ati. Bellach mae Storiel, Bangor ac Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy wedi ail agor ac mae’n wych gallu croesawu pobl draw. Mae’n gyfle, nid yn unig i weld yr arddangosfeydd , ond hefyd i ni allu cefnogi artistiaid a chyflenwyr drwy hyrwyddo eu gwaith a’u cynnyrch. Yn raddol byddem yn edrych ar ail gychwyn cynnal gweithgareddau hefyd. Yn 2021/22 mi fydd Neuadd Dwyfor, Pwllheli, sydd yn cael ei uwchraddio, yn ail agor a bydd y ddarpariaeth theatr a sinema yn ail gychwyn yn Ysgol Godre’r Berwyn, Bala. Felly er yn gyfnod anodd ac ansicr i bawb rydym wedi ceisio adnabod cyfleoedd i gyrraedd pobl Gwynedd. Mae’n adnoddau ar-lein wedi cynyddu fel arddangosfeydd, gweithgareddau, adnoddau dysgu a gwybodaeth am yr arteffactau. Nid pawb sydd efo mynediad at dechnoleg nac yn dymuno gweld pethau ar-lein felly anfonwyd pecynnau o weithgareddau allan i gefnogi teuluoedd a phobl ifanc yn eu cartrefi.
Drwy gydweithio efo nifer o fudiadau a phrosiectau cynigwyd gweithgareddau Celfyddydau Cymunedol ar-lein fel sesiynau “Babis a Ni”, “Lleisiant i Mi” ar gyfer llesiant meddwl, Crefft er Lles, Gŵyl Gofalwyr, Criw Celf i bobl ifanc, cyngherddau gan gerddorion o Wynedd a llawer mwy. Trefnwyd cynhadledd i’r celfyddydau, dosbarthwyd dros 1,000 o becynnau, rhai drwy’r banciau bwyd, a rhoddwyd grantiau i rai drefnu gweithgareddau yn ein cymunedau. Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar ddatblygu cynllun celfyddydau ar bresgripsiwn i Wynedd.
Yn ddiweddar cefais fy mhenodi fel Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru, sydd yn fudiad sy’n cynrychioli’r sector. Mae hyn ar wahân i fy ngwaith pob dydd - sy’n fraint efo dipyn o gyfrifoldeb.
Beth yw eich hoff arteffact a pham?
I fi mae’r “Welsh Not” yn sefyll allan. Mae’n enghraifft brin o rywbeth syml, sef darn o bren efo llythrennau wedi ei gerfio arno, ond yn symbolaidd iawn. Fe’i defnyddiwyd i geisio atal disgyblion rhag siarad Cymraeg yn yr ysgol ac mae enghreifftiau tebyg mewn gwledydd eraill fel Llydaw a Hawaii. Mae un gwreiddiol i’w weld yn Storiel a defnyddir un replica mewn gwersi dysgu Fictoraidd yn Amgueddfa Lloyd George i ysgolion gan ddangos y gosb o siarad Cymraeg yn y gorffennol. Mae eitemau yn aml iawn yn ysgogi ymateb- mae unrhyw un sydd wedi gwylio’r “Repair Shop” yn gwybod pa mor bwerus yw effaith rhai arteffactau arnom.
Dwi’n credu bod ein diwylliant yn bwysig ac yn gyfrwng i gefnogi ein heconomi, llesiant, hunaniaeth, mwynhad o fywyd, dysgu a llawer mwy. Rwyf yn ffodus o weithio gyda thîm gwych ac yn falch iawn ohonynt o’r gwaith maent yn ei gyflawni. Dwi’n gobeithio caf barhau yn y swydd am bach mwy i arwain y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau!