
3 minute read
Concro Marathon i gasglu arian
Fel rhan o ‘Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl’ a gynhaliwyd yn ddiweddar mae’r Cyngor wedi bod yn hyrwyddo y 5 Ffordd at Les. Un o themâu’r 5 Ffordd at Les yw ‘Bod yn actif’, ac un aelod o staff sydd wedi ymgymryd â hyn ydi Iwan Evans sy’n gweithio fel Swyddog Iechyd Amgylchedd Tai. Yn ddiweddar bu i Iwan a’i ffrindiau ymgymryd mewn tipyn o her wrth iddynt gymryd rhan yn y Dyfi ‘Ultra’ Marathon i godi pres ar gyfer elusennau sy’n agos iawn at eu calonnau.
Y nod oedd cwblhau’r cwrs 50 milltir mewn 15 awr sydd yn ddipyn o gamp gan fod y ras yn dringo dros 15 copa mynydd ac yn dringo 3000 o fetrau. Ac yntau wedi cael cyfle i roi ei draed fyny erbyn hyn, dyma gyfle i Iwan rannu ei brofiad hefo ni.
Advertisement
“Roedd cymryd rhan yn y marathon yn brofiad anodd a heriol ond yn bennaf oll, yn un gwerth chweil. Roedd rhai darnau yn well na’i gilydd ond roedd cael cwmni gweddill y bois yn y tîm yn brofiad da iawn gan ein bod yn gallu helpu a hybu ein gilydd drwy’r darnau anodd- dwi’n falch iawn ohonynt. Profiad calonogol oedd gweld ein holl ffrindiau a theulu yn dod allan i’n cefnogi hefo bwyd, diodydd a bloeddiau uchel. Dwi ddim yn meddwl fydden ni wedi medru cwblhau hanner y ras, heb sôn am ei gorffen hi heb ein cefnogwyr gwych.
Doedd yr un ohonom erioed wedi gwneud ffasiwn ras o’r blaen - roedd rhai o’r criw yn cychwyn o’r cychwyn go iawn! Roedd hyfforddi yn rhan fawr o baratoi wrth reswm.
Ond, gan fod cyfyngiadau COVID mewn lle ar y pryd roedd hynny yn rwystr arall. Doedd dim modd teithio yn bell, roedd rhaid ymarfer ar stepen drws fel petai, a doedd bob un ohonom ddim yn byw wrth ymyl mynyddoedd! Roedd rhaid ceisio cadw at leiafrif o oddeutu 20 milltir bob wythnos ac yna yn raddol ei godi i uchafswm o 70 milltir! Saff dweud na fyddai’r un ohonom yn methu’r dyddiau hynny!
Roedd rhaid ystyried deiet a’r math o fwyd oedd angen ei fwyta – gels egni , fferins ac yn y blaen. Mae’n rhaid i mi ddweud fod fy nghydweithwyr yn y Cyngor wedi bod o help yn gwneud “fflapjacs” blasus i ni ei gael ar y diwrnod, ac roeddwn i’n llowcio brechdanau tiwna fel dyn o’i go ar y diwrnod hefyd!

Yn ogystal â’r pellter mawr o 50 milltir a’r 3000 medr o ddringo, roedd y llwybr yn mynd a ni i lefydd reit anial ac anghysbell ar adegau, i ddyfnderoedd a chorneli tywyllaf sir Feirionnydd! Roedd yn bwysig iawn ein bod ni’n medru dilyn y llwybr cywir . Doedd dim arwyddion ar gael i ni ar y diwrnod, felly roedd peidio mynd ar goll yn her yno’i hun! Fe wnaethon ni weiddi ar ambell un oedd efo’i fap ar ben ei lawr yn rhedeg i’r cyfeiriad anghywir ambell waith! Yn ogystal â hynny, roedd delio efo anafiadau yn bwysig iawn hefyd, doedd traed un neu ddau o’r bois ddim yn edrych yn iach iawn erbyn y diwedd!! Dwi’n meddwl mai’r her fwyaf oedd ceisio cadw meddylfryd positif a hwyliau da pan oedd rhywun wedi blino ac mewn poen.
Mae’n saff i ddweud ein bod ni gyd wedi cael llond bol ar ein gilydd erbyn diwedd y ras!! Roedd yna deimlad o ryddhad mawr wrth gwblhau’r marathon a’n bod yn cael eistedd i lawr o’r diwedd efo potel o gwrw a pheidio meddwl am faint o filltiroedd oedd ar ôl i’w wneud! Mae o wedi bod yn deimlad reit ryfedd meddwl beth mae rhywun yn mynd i wneud ar benwythnosau i ddod, gan fod dim angen hyfforddi rhagor!

Rydym yn mor falch a diolchgar i weld fod pobl yn dal i gyfrannu at yr elusennau rydym yn casglu pres sef Ambiwlans Awyr Cymru, Mind, a British Heart Foundation. Dyna ydi’r agwedd bwysicaf ar ddiwedd y dydd, ac os ydi’r pres rydym wedi codi yn gwneud y gwahaniaeth lleiaf i helpu’r dair elusen yma byddem yn ddigon hapus dwi’n amau. Mae un o fy ffrindiau wedi cael cymorth gan yr Ambiwlans Awyr yn ddiweddar ac mae sawl aelod o deulu a ffrindiau’r tîm sy’n cymryd rhan wedi dioddef o broblemau’r galon.
Rydym hefyd wrth gwrs yn gwybod am bwysigrwydd iechyd meddwl yn enwedig dros y cyfnod heriol hefo Covid yn ddiweddar felly mae’r achosion yma i gyd yn agos at ein calonnau. Diolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu - rydych yn arwyr.”