Gair Bach o Gyngor Rhifyn 1

Page 6

Concro Marathon i gasglu arian Fel rhan o ‘Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl’ a gynhaliwyd yn ddiweddar mae’r Cyngor wedi bod yn hyrwyddo y 5 Ffordd at Les. Un o themâu’r 5 Ffordd at Les yw ‘Bod yn actif’, ac un aelod o staff sydd wedi ymgymryd â hyn ydi Iwan Evans sy’n gweithio fel Swyddog Iechyd Amgylchedd Tai. Yn ddiweddar bu i Iwan a’i ffrindiau ymgymryd mewn tipyn o her wrth iddynt gymryd rhan yn y Dyfi ‘Ultra’ Marathon i godi pres ar gyfer elusennau sy’n agos iawn at eu calonnau. Y nod oedd cwblhau’r cwrs 50 milltir mewn 15 awr sydd yn ddipyn o gamp gan fod y ras yn dringo dros 15 copa mynydd ac yn dringo 3000 o fetrau. Ac yntau wedi cael cyfle i roi ei draed fyny erbyn hyn, dyma gyfle i Iwan rannu ei brofiad hefo ni.

“Roedd cymryd rhan yn y marathon yn brofiad anodd a heriol ond yn bennaf oll, yn un gwerth chweil.”

“Roedd cymryd rhan yn y marathon yn brofiad anodd a heriol ond yn bennaf oll, yn un gwerth chweil. Roedd rhai darnau yn well na’i gilydd ond roedd cael cwmni gweddill y bois yn y tîm yn brofiad da iawn gan ein bod yn gallu helpu a hybu ein gilydd drwy’r darnau anodd- dwi’n falch iawn ohonynt. Profiad calonogol oedd gweld ein holl ffrindiau a theulu yn dod allan i’n cefnogi hefo bwyd, diodydd a bloeddiau uchel. Dwi ddim yn meddwl fydden ni wedi medru cwblhau hanner y ras, heb sôn am ei gorffen hi heb ein cefnogwyr gwych. Doedd yr un ohonom erioed wedi gwneud ffasiwn ras o’r blaen - roedd rhai o’r criw yn cychwyn o’r cychwyn go iawn! Roedd hyfforddi yn rhan fawr o baratoi wrth reswm,. Ond, gan fod cyfyngiadau COVID mewn lle ar


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Gair Bach o Gyngor Rhifyn 1 by Cyfathrebu Mewnol - Issuu