Gair Bach o Gyngor Rhifyn 1

Page 4

Bet yn troedio Llwybr y Pererinion Llongyfarchiadau mawr iawn i Bet Huws sy’n gweithio fel Swyddog Datblygu Iaith yn yr Adran Cefnogaeth Gorfforaethol am gwblhau taith gerdded ar hyd rhan o Lwybr y Pererinion yn ddiweddar. Cafodd Bet gwmni Gareth Roberts o Fenter Fachwen ar y daith o Lanberis i Aberdaron er mwyn codi arian tuag at Hosbis Dewi Sant. Dewch i ni felly ddal fyny hefo Bet a chael darllen mwy am y daith:

cyntaf. Ymlaen â ni wedyn o Benygroes i Drefor cyn symud ymlaen i Dudweliog a chwblhau’r daith yn Aberdaron. Wrth ddychmygu’r bererindod nôl yng nghanol y gaeaf, ’roni wedi rhagweld dyddiau hirfelyn tesog, shorts, fest ac eli haul?!...felly, munud ola’ pnawn Sul piciais i siop Grib Goch yn y pentref i nôl esgidiau cerdded gwrth-ddŵr...a chap...a chôt wrth-ddŵr ysgafn. ’Dwi mor falch nes i hynny neu ni fuasai’n brofiad mor gyfforddus!!

“Nôl ym mis Chwefror wrth droedio Cwm Brwynog cefais syniad a fyddai’n plethu fy niddordeb mewn anturiaethau a gofal diwedd oes, sef cerdded Llwybr y Pererinion o Lanberis i Aberdaron yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Cymru Garedig (Dying Matters in Wales). Diolch i’r drefn, ’roedd yr antur hefyd yn apelio at fy ffrind a chydymaith droeon, Gareth Roberts, a dyma fynd ati i droi’r cysyniad yn realiti.

Dyma gychwyn fore Llun heibio Capel Coch ac i fyny drosodd am Waunfawr gan ddilyn y llwybr drwy’r hen bentref tuag at yr afon. Wedi croesi’r bont, troi i fyny am Rosgadfan a gwyro i’r chwith oddi ar y lôn a chanfod ein hunain mewn coedwig fwsog cyn esgyn eto tuag at gyrion Moel Tryfan. Gyda dim ond y Mignaint a’r Mynydd Mawr o’n blaenau, ’roedd ‘na wir ymdeimlad o “Pererin wyf mewn anial dir” tan i ni gyrraedd Fron ac ymuno â Llwybr y Chwareli drwy Dorothea. Yna cyd-gerdded â’r Llyfni heibio Talysarn i ganol Penygroes. Mae cymaint o gladdu a chloddio

Penderfynwyd rhannu’r siwrnai’n bedwar cymal gan deithio o Lanberis i Benygroes ar y diwrnod

“Diolch i’r drefn, ’roedd yr antur hefyd yn apelio at fy ffrind a chydymaith droeon, Gareth Roberts...”


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.