Gair Bach o Gyngor Rhifyn 1

Page 10

Cyngor yn 25 Cadw ein hanes yn fyw Eleni mae Cyngor Gwynedd yn dathlu penblwydd arbennig iawn. Mae 25 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Cyngor gael ei sefydlu ar ei ffurf bresennol yn dilyn adrefnu Llywodraeth Leol. Mae dipyn wedi newid dros y blynyddoedd ac un aelod o staff sydd wedi bod yma ar hyd y daith ydi Nest Thomas. Mae Nest yn wyneb cyfarwydd fel Rheolwr Amgueddfeydd a’r Celfyddydau yn yr Adran Economi a Chymuned ac eleni bydd yn nodi 35 o flynyddoedd ers iddi ddechrau gweithio i’r Cyngor. Dyma felly gyfle i ni hel atgofion gyda Nest ac edrych ymlaen i’r dyfodol.

Edrych yn ôl Yn 1986 cefais fy mhenodi fel Swyddog Amgueddfeydd dan hyfforddiant. Ar y pryd roeddwn yn gweithio fel archifydd yn Coventry ac roeddwn yn lwcus i gael dod ‘nôl i Gymru. Cychwynnais yn Hydref 1986 a chael fy lleoli yn yr Archifdy efo’r Gwasanaeth Amgueddfeydd ag Archifau. Mae’r Gwasanaeth wedi newid cryn dipyn ers i mi ddechrau efo’r Cyngor. Ychwanegwyd orielau celf i fy rôl ac erbyn 2010 fe’m penodwyd yn rheolwr ar y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau a oedd yn cynnwys y Celfyddydau Cymunedol a Pherfformio (theatrau).

Rwyf wedi cyfarfod â llawer o bobl ddifyr trwy fy ngwaith fel Olwen Carey Evans, merch Lloyd George; David Bellamy tra’n plannu coeden; gwaith ffilmio gyda Huw Edwards y newyddiadurwr a Dan Snow yr hanesydd; Owain Fôn Williams, y peldroediwr a llawer o wleidyddion. Dwi’n cofio mynd i ddigwyddiad yn Llundain a digwydd troi rownd a phwy oedd yno ond Margaret Thatcher, cefais dipyn o fraw!

Hanes diweddar y gwasanaeth Ar hyn o bryd rydym yn ymateb i pandemig Covid-19 fel pawb arall. Bu’n rhaid cau lawr yn sydyn ac addasu i weithio o adref. Yn raddol rydym wedi dod i arfer gyda hyn ac mae’n ffordd hyblyg iawn o weithio. Rydym yn gyfrifol am gasgliadau ac adeiladau hanesyddol Gwynedd ar ran ein cymunedau, felly mae’n rhaid sicrhau eu bod yn ddiogel, tra’n galluogi’r tîm weithio’n saff.

Mae cryn dipyn wedi newid yn y ffordd ‘da ni’n gweithio dros y blynyddoedd. Dwi’n cofio troi fyny i fy ngwaith â’r “boss” ar y pryd, sef Bryn R Parry, yn dwyn fy sylw at beiriant yn ei swyddfa - y cyfrifiadur cyntaf yn yr Archifdy! Roedd wedi cael ei droi ymlaen ond doedd gynnon ni ddim syniad sut i’w ddefnyddio ac roedd pawb yn rhythu arno. Roedd gan bawb arall typewriters a tippex. Roedd oes yr e-bost (a mwy) ar y ffordd ac mae wedi newid ein ffordd o weithio’n llwyr. Dwi hefyd yn cofio Bryn Parry yn anfon fi i dŷ yn Llundain i nôl cannoedd o lyfrau ar gyfer Amgueddfa Lloyd George. Felly, ffwrdd â ni, dwy ohonom mewn fan hefo map i ganol Llundain. Roedd hyn cyn yr oes SAT NAV ond fe wnaethom lwyddo i ffeindio’r tŷ. Nest Thomas


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Gair Bach o Gyngor Rhifyn 1 by Cyfathrebu Mewnol - Issuu