
1 minute read
Cymraeg yn y CoLEg
Mae'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn rhan bwysig o ethos
Grŵp Colegau NPTC. Mae'r Coleg yn ymwybodol o sut y gall bod yn ddwyieithog fod o fudd i fyfyrwyr mewn addysg, y gweithle ac mewn bywyd bob dydd. Mae'r ddarpariaeth yn ehangu ar draws llawer o'n meysydd pwnc, gan roi'r cyfle a dewis i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog yn yr ystafell ddosbarth neu ar eich lleoliad gwaith.
Rydym yma i'ch cefnogi os ydych yn dymuno cael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg, astudio yn Gymraeg, cwblhau eich aseiniadau yn Gymraeg, sefyll eich arholiadau yn Gymraeg neu dderbyn deunyddiau ac adnoddau eich cwrs yn Gymraeg yn ystod eich astudiaethau yn ein Coleg... chi piau'r dewis. Byddwn hefyd yn eich annog fel myfyriwr di-Gymraeg neu ddysgwr Cymraeg i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg, gan roi gwell cyfleoedd cyflogaeth i chi yn y dyfodol.
Os nad ydych yn dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ond eisiau cynnal eich sgiliau iaith Gymraeg, peidiwch â phoeni; rydym yn trefnu llawer o weithgareddau hwyliog drwy gydol y flwyddyn a fydd yn rhoi'r cyfle i chi ddefnyddio eich Cymraeg beth bynnag yw eich lefel iaith... Peidiwch â bod yn swil – siaradwch Gymraeg!
Mae'r symbol hwn ar dudalennau cwrs yn nodi y gellir cynnal rhai cyrsiau, modiwlau neu agweddau ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: cymraeg@nptcgroup.ac.uk
Barod Am Yrfa
Mae Barod am Yrfa yn Centerprise yn rhaglen gyflogadwyedd sy'n cefnogi myfyrwyr gyda: b Dod o hyd i swydd ran-amser b Ysgrifennu CV b Ffurflenni cais b Cyfweliadau b Profiad gwaith.
Am ragor o fanylion, cysylltwch â ni ar: centerprise@nptcgroup.ac.uk
Ymunwch â ni i astudio at raddau a chyrsiau prifysgol ar garreg eich drws yng Ngrŵp Colegau NPTC

Rydym yn:
Lleol Fforddiadwy Hyblyg Cefnogol Blaengar
Mae Grŵp Colegau NPTC yn falch o fod wedi datblygu nifer o raglenni gradd eang eu natur mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau addysg uwch o fri:
Mae pob un o'n cyrsiau addysg uwch wedi eu cynllunio gyda'ch cyflogaeth a'ch gyrfaoedd yn y dyfodol mewn golwg ac awn ati i roi'r profiad a'r wybodaeth orau i'n myfyrwyr i'w paratoi ar gyfer byd gwaith.
Rydym yn falch iawn o ansawdd ein cyrsiau a'r staff sy'n eu haddysgu. Mae gennym rai o'r arbenigwyr blaenllaw yn eu maes, sydd wedi dewis gweithio yng Ngrŵp Colegau
NPTC er lles ein myfyrwyr - felly manteisiwch ar y cyfle hwn!
Rydym yn cynnig cyrsiau, ar bob lefel, ar draws amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:
Amaethyddiaeth
Celf a Dylunio
Busnes a Rheolaeth
Cyfrifiadura
Adeiladwaith
Peirianneg
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
Lletygarwch
Cerddoriaeth
Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus
Addysgu
Teithio a Thwristiaeth www.nptcgroup.ac.uk