
1 minute read
Galwedigaethol Galwedigaethol
Therapïau ChwARaeON
Mae therapyddion chwaraeon yn defnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau i drin anafiadau chwaraeon, rhoi cyngor ar atal anafiadau a chefnogi adsefydlu, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau corfforol a therapïau. O ddydd i ddydd fel therapydd tylino chwaraeon, gallwch fod yn gweithio gydag ystod o wahanol gleientiaid. Yn dibynnu ar a ydych yn gyflogedig neu’n llawrydd, gallech fod yn gweithio gyda chwaraewyr campau proffesiynol neu bobl sy’n mynd i’r gampfa bob dydd.
Gallech fod yn trin anafiadau, a allai fod yn hirsefydlog, yn adnabod ardaloedd problemus yn gynnar neu’n helpu i atal anafiadau cyn iddynt ddigwydd.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Nod ein cyrsiau yw rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu amrywiaeth o sgiliau ymarferol sydd eu hangen ym maes rheoli ac atal anafiadau chwaraeon. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys tylino chwaraeon, strapio a thapio, profi ffitrwydd ac adfer anafiadau chwaraeon cyffredin. Mae’r wybodaeth sylfaenol yn cynnwys anatomeg a ffisioleg, gweithio mewn amgylchedd chwaraeon a dyletswyddau cymorth cyntaf ar y cae chwarae.
Rhagolygon gyrfa
Mae therapi chwaraeon a thylino chwaraeon wedi mynd yn sgiliau y mae galw mawr amdanynt o fewn y diwydiant ffitrwydd. Gall therapyddion tylino chwaraeon helpu unrhyw un - o athletwyr i ddefnyddwyr achlysurol y gampfa a bydd angen iddynt atal anafiadau llawn cymaint â’u trin.

Cyrsiau
Cyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Yrfa
VTCT Diploma mewn Therapi

Chwaraeon - Atal a Rheoli
Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
Hamdden Actif 3
Anafiadau Chwaraeon mewn
16-18: o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch (neu gyfwerth). Myfyrwyr aeddfed: cyfweliad cyn ymrestru.
Blwyddyn Afan
Byddwch iacHAol gyda gyrfa
Llwyddiant Myfyrwyr
Wayne Robson-Brown - Cafodd un o'n darlithwyr
Therapi Chwaraeon yng Ngholeg Afan gyfle i weithio gyda rhai o'r athletwyr gorau yn y byd wrth helpu yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham.

Roedd Wayne yn rhan o'r tîm meddygol oedd yn cefnogi'r athletwyr yn y Gemau ac roedd wedi ei leoli yn y Pentref Athletwyr pwrpasol, lle bu'n helpu athletwyr i baratoi ac i ymadfer ar ôl eu cystadlaethau.


Dywedodd Wayne: “Cefais y fraint o weithio yn y tîm meddygol sy'n cefnogi athletwyr elitaidd o nifer o wledydd, gan gynnwys De Affrica, Canada, India, Nigeria, Jamaica, Kenya, Pacistan, a Barbados. Roedd yr athletwyr hyn yn cystadlu mewn ystod o gampau gan gynnwys athletau a phara-athletau, seiclo, gymnasteg, hoci, codi pwysau, nofio, a phara-nofio.”
“Uchafbwynt fy nghyfnod yn Birmingham oedd rhoi triniaeth i Tobi Amusan, sy'n dal Record y Byd am y clwydi 100m ac ennill aur yn y Gemau.”
“Nid dyma'r tro cyntaf i Wayne weithio ar ddigwyddiad proffil uchel, ar ôl bod yn rhan o'r tîm meddygol yn y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn 2012. Mae'n dweud bod gweithio ar ddigwyddiadau fel y rhain yn uchafbwynt gyrfa unrhyw therapydd chwaraeon ac mae'n wirioneddol ostyngedig gan y profiadau hyn.”
Enillion blynyddol cyfartalog
Therapydd Tylino Chwaraeon Cyflogedig £25k
Therapydd Tylino Chwaraeon Llawrydd £30k
Therapydd Chwaraeon £30+ yr awr