
1 minute read
Cadetiaid Cyfun
Anogir y myfyrwyr i ymuno â Llu'r Cadetiaid Cyfunol (CCF) yn Academi Chwaraeon Llandarcy sy'n cynnig ystod eang o weithgareddau heriol, cyffrous, anturus ac addysgol i bobl ifanc. Y nod yw datblygu sgiliau mewn cyfrifoldeb personol, arweinyddiaeth a hunanddisgyblaeth. Mae'r CCF yn bartneriaeth addysgol rhwng y Coleg a'r Weinyddiaeth Amddiffyn, a gallai CCF gynnwys adrannau'r Llynges Frenhinol, y Morlu Brenhinol, a'r Fyddin neu'r Llu Awyr Brenhinol.


ChwARaeON
Mae'r diwydiant chwaraeon, hyfforddi a ffitrwydd yn faes prysur, deinamig a ffyniannus gyda galw sy'n cynyddu o hyd am staff cymwysedig, brwdfrydig a phroffesiynol.
Mae gan y Coleg enw da sefydledig am lwyddiant mewn chwaraeon, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn ennill anrhydedd rhyngwladol mewn amrywiaeth eang o chwaraeon gan gynnwys Duncan Jones, Adam Beard, Daniel James a Chelsea Lewis.
Ymfalchïwn yn ein canlyniadau rhagorol, ar y maes chwaraeon ac oddi arno, a'r addysgu o ansawdd uchel sy'n tanio ein llwyddiant. Ynghyd â gofal bugeiliol rhagorol, mae'r adran chwaraeon yn ymgorffori arwyddair y Coleg 'mwy nag addysg yn unig'.
Mae gan lawer o'r staff chwaraeon brofiad yn chwarae a hyfforddi chwaraeon ar y lefel uchaf sy'n amhrisiadwy wrth ddatblygu galluoedd chwaraeon.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Gallwch ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau personol a galwedigaethol a fydd yn sicrhau eich bod yn gallu camu ymlaen tuag at lwybrau mewn cyflogaeth neu gwrs prifysgol addas.
Coleg Bannau Brycheiniog
Mae'r Academi Chwaraeon yng Ngholeg Bannau Brycheiniog yn defnyddio cyfleusterau Canolfan Hamdden Aberhonddu sy'n cynnwys trac athletau, cae astroturf, neuadd chwaraeon, cyrtiau tennis a phêl-rwyd a phwll nofio. Ar y safle, mae gan yr Academi Chwaraeon ei chae hyfforddi a'i chanolfan cryfder a chyflyru ei hun, sydd wedi bod o fudd i ddatblygiad nifer o athletwyr, fel Dan Lydiate, dros y blynyddoedd.
Mae'r darlithwyr yn hyfforddwyr cymunedol sy'n cynnig hoci a gymnasteg, gyda Rhian Davies yn chwarae hoci dros Feistri Cymru.


Academi Chwaraeon Llandarcy
Mae gan Academi Chwaraeon Llandarcy neuadd chwaraeon ryngwladol, wal ddringo, ystafell cryfder a chyflyru, cyfleuster aml-chwaraeon dan do, maes chwarae 4G ac ystafelloedd addysgu gyda'r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf.

Os ydych o ddifri am chwaraeon, fel rhan o'r Academi Chwaraeon byddwch yn elwa o'r canlynol: q rhaglen hyfforddi strwythuredig sy'n cael ei goruchwylio gan hyfforddwyr profiadol; perfformiad personol sy'n cael ei fonitro'n rheolaidd gan ein tîm q cynllunnir sesiynau hyfforddi a darlithoedd i osgoi gwrthdaro diangen q y cyfle i gystadlu yng Ngrŵp Colegau NPTC llwyddiannus o dimau chwaraeon q rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer eich y gamp o'ch dewis.
Rhagolygon gyrfa
Gallai'r ystod eang o gyrsiau yr ydym yn eu cynnig arwain at lawer o yrfaoedd, gan gynnwys hyfforddwr chwaraeon, athro addysg gorfforol, swyddog chwaraeon anabledd, therapydd chwaraeon, dadansoddwr chwaraeon, maethegydd chwaraeon, hyfforddwr campfa neu swyddog datblygu chwaraeon.
Mae dilyniant academaidd yn cynnwys addysg uwch yn y Coleg neu mewn sefydliad arall. Gall rhai athletwyr elit ennill ysgoloriaethau i astudio dramor e.e. golff yn America.