3 minute read

Galwedigaethol Galwedigaethol

Next Article
Cadetiaid Cyfun

Cadetiaid Cyfun

Llwyddiant Myfyrwyr

Bu'n flwyddyn eithriadol arall i'n myfyrwyr yn Academi Chwaraeon Llandarcy wrth iddyn nhw gyflawni canlyniadau rhagorol. Dim ond 12 mis yn ôl, roedd yn nwylo Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yn gweithredu fel ysbyty maes yn y frwydr yn erbyn Covid-19. O ganlyniad i hyn ymgymerodd ein myfyrwyr â dull dysgu cyfunol o astudio, gan gofleidio technolegau cyfathrebu newydd.

Cyflawnodd pum aelod o'r cwrs BTEC Lefel 3 Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) y radd uchaf sy'n bosib: Seren Rhagoriaeth Driphlyg (D*D*D*).

Chloe Evans – Yn chwaraewr pêl-rwyd rhyngwladol a dderbyniodd fwrsariaeth chwaraeon yn ei blwyddyn gyntaf ac sydd bellach yn Llysgennad Ieuenctid Aur, mae Chloe wedi cael ei derbyn i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ac mae'n gobeithio parhau â'i gyrfa pêl-rwyd ryngwladol.

Georgia Grange - Mae'r seren rygbi a phêl-rwyd yn enw i gadw llygad allan amdani yn y dyfodol! Mae Georgia wedi cael ei dderbyn i Goleg nodedig Hartpury i astudio ar gyfer gradd Hyfforddi Chwaraeon.

Victoria Powney – Mae Victoria yn berfformiwr karate a phêl-rwyd o'r radd flaenaf a enillodd fwrsariaeth chwaraeon yn ei blwyddyn gyntaf. A hithau'n Llysgennad Ieuenctid Aur arall, bydd hi'n astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Meddai Victoria: “Y ddwy flynedd orau o fy addysg heb os nac oni bai! O'r darlithwyr i'r cyfleusterau, roedd Academi Chwaraeon Llandarcy yn anhygoel. Fyddwn i ddim wedi bod eisiau gwell grŵp o bobl o'm cwmpas. Mae wedi fy mharatoi ar gyfer bywyd prifysgol; Rwy'n gyffrous i symud ymlaen ond byddaf yn gweld eisiau pawb gymaint!”

Scott Hawkins – Yn chwaraewr rygbi dawnus ac aelod allweddol o dîm llwyddiannus Grŵp Colegau NPTC, roedd Scott yn aelod brwdfrydig o'r Cynllun Llysgennad

Ieuenctid Aur ac yn gweithio'n ddiflin, gan arwain llawer o sesiynau trwy gydol y pandemig. Mae Scott yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio ar gyfer gradd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Aneurin Morgan – Yn chwaraewr rygbi dawnus a brwdfrydig arall, mae Aneurin wedi cael cynnig diamod gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio am radd mewn Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ac wedi bod yn hyfforddi gyda thîm rygbi enwog 'Archers' dros y tri mis diwethaf.

Cyflawnwyd BTEC Lefel 3 Chwaraeon (Hyfforddi a Datblygu) gan chwe myfyriwr gyda D*D*D*.

Ffion France - Aelod ymroddedig o sgwadiau pêl-droed, rygbi a phêl-rwyd y merched, rywsut fe wnaeth Ffion ddod o hyd i'r amser i fod yn Llysgennad Ieuenctid Aur. Gan weithio ochr yn ochr â swyddogion PASS CBSCNPT, bu'n cyflwyno sgyrsiau i lysgenhadon ifanc newydd mewn digwyddiadau hyfforddi ac yn arwain sesiynau ar-lein wythnosol gyda myfyrwyr Astudiaethau Sylfaen. Mae

Ffion wedi ennill lle ar y cwrs Therapi Chwaraeon hynod gystadleuol ym Mhrifysgol Dinas Birmingham.

Connor Rees – Mae'r egin entrepreneur yn sefydlu ei fusnes therapi chwaraeon a thylino ei hun.

Ffion Maddock – Yn chwaraewr rhyngwladol criced Cymru, derbyniodd Ffion fwrsariaeth ysgoloriaeth chwaraeon yn ei blwyddyn gyntaf yn y coleg am ei doniau chwaraeon eithriadol a daeth yn Llysgennad Ieuenctid Aur. Yn dyst i'w dawn ym myd chwaraeon, derbyniodd Ffion gynigion diamod gan amrywiaeth o brifysgolion ac mae wedi derbyn cynnig i astudio Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dywedodd darlithydd Ffion, Jo Jones: “Mae Ffion wedi bod yn fyfyriwr eithriadol sydd wastad wedi cynnal arferion gwaith da, yn dilyn pob cyfarwyddyd ac mae ganddi agwedd bositif tuag at ddysgu. Roedd Ffion bob amser yn dangos meddylfryd gonest wrth gofleidio'r gweithgareddau allgyrsiol a bydd yn ffynnu yn ei thaith addysg uwch.”

Mae Katelyn Kneath, pêl-droediwr brwd a Llysgennad Ieuenctid Aur, wedi cael ei derbyn i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd.

Hannah Garnett – A hithau'n chwarae criced dros Gymru, bydd Hannah yn ymuno â Katelyn ar y cwrs gradd Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Georgia Howells – Mae'r pêl-droediwr dawnus yn mynd i Brifysgol De Cymru i astudio Therapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff.

Cyflawnodd Molly Goss D*D*D, a hi oedd y myfyriwr chwaraeon BTEC cyntaf i gael ei ddewis i astudio Osteopathi ym

Mhrifysgol Abertawe. Dywedodd hi: "Roedd y cwrs yn cynnig llawer o gyfleoedd gwahanol ac mae ganddo gyfleusterau gwych ar y campws i fyfyrwyr eu defnyddio. Roedd y gefnogaeth a'r anogaeth a gefais gan fy nhiwtor a'm darlithwyr drwy gydol y cyfnod anodd hwn yn anhygoel ac fe wnaeth fy ngwthio i gwblhau fy nghwrs hyd eithaf fy ngallu."

Enillion blynyddol cyfartalog

Emsi: www.economicmodeling.com

*www.prospects.ac.uk/job-profiles/exercise-physiologist

Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru £17k

- £45k

Athro Addysg Gorfforol Ysgol

Uwchradd £25k+

Swyddog Datblygu Chwaraeon

£18k-£23k

Hyfforddi Chwaraeon £15k-£25k

Gwyddor Chwaraeon

£20k - £30k

Os ydych yn gweithio ym maes gwyddor chwaraeon proffil uchel, gall eich cyflog fod yn fwy na £60,000 a gallai gyrraedd hyd at £100,000*

Swyddog 5x30 £20k

Dadansoddwr Chwaraeon

£24k-£43k

This article is from: