1 minute read

PlymIO, GwaITh Trydan ac Ynni Adnewyddadwy

Adeiladu'r Dyfodol

Mae cyfres newydd o gymwysterau wedi'u cyflwyno ledled Cymru sydd wedi'u datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well.

Nod y newid yw symleiddio'r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn gwasanaethau adeiladwaith ac adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod yn fwy parod ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth am y diwydiant yn ei gyfanrwydd ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen i waith o addysg.

Cymhwyster newydd sbon yw'r Cymhwyster Sylfaen mewn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu lle byddwch yn astudio dau brofiad crefft: q Plymio a gwresogi domestig q Systemau ac offer electrodechnegol (gosodiadau trydanol).

Mae gan y diwydiant gwasanaethau peirianneg adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd ar y diwydiant bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes, a gyda chyflogau ar gynnydd ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.

Cynhelir hyfforddiant mewn gweithdai eang ac offer da lle mae gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu harfogi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Caiff hyfforddiant ei gyflwyno gan staff â phrofiad a chymwysterau diwydiannol sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau myfyrwyr. Er y byddwch yn astudio ar gyfer crefftau trydanol a phlymio i ddechrau, byddwch yn dewis un llwybr yn ddiweddarach.

Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y swydd a thechnegau uwch y grefft mewn plymio a gosod trydanol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddehongli darluniau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.

Asesiadau

Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, bydd myfyrwyr yn cwblhau ystod o brosiectau/tasgau sydd wedi'u gosod yn fewnol ac yn allanol, trafodaethau dan arweiniad a phrofion aml-ddewis.

Dilyniant

Efallai y byddwch yn symud ymlaen i raglen llawn amser ail flwyddyn yn y ddwy grefft neu sicrhau prentisiaeth fel plymiwr neu drydanwr a datblygu eich astudiaethau ymhellach gyda ni ar hyd un llwybr penodol.

Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?

Mae'n addas ar gyfer: Dysgwyr 16+ oed sy'n gweithio neu'n bwriadu gweithio yn y sectorau adeiladwaith a gwasanaethau peirianneg adeiladu.

Bydd y rhai sydd â mwy o ddiddordeb mewn gwaith trydanol wedi'u lleoli yn Afan. Bydd y rhai sydd â mwy o ddiddordeb mewn plymio wedi'u lleoli yng Nghastell-nedd.

This article is from: