4 minute read

O Ddifri am Chwaraeon

Os ydych o ddifri am chwaraeon, fel rhan o'r Academi

Chwaraeon byddwch yn elwa o'r canlynol: q rhaglen hyfforddi strwythuredig sydd o dan oruchwyliaeth hyfforddwyr profiadol; perfformiad personol sy'n cael ei fonitro'n rheolaidd gan ein tîm q cynllunnir sesiynau hyfforddi a darlithoedd i osgoi gwrthdaro diangen q y cyfle i gystadlu yng Ngrŵp Colegau NPTC llwyddiannus o dimau chwaraeon q rhan o gynlluniau hyfforddi cenedlaethol ar gyfer eich y gamp o'ch dewis.

Os ydych yn cystadlu'n rheolaidd mewn camp ar gyfer timau clwb, sir neu genedlaethol ac â diddordeb mewn ymuno â'n Hacademïau Chwaraeon, cysylltwch â: www.nptcgroup.ac.uk

Llwyddiant ChwARaeON

RYGBI q Enillwyr Cwpan Ysgolion Cymru (8 gwaith) q Enillwyr Cwpan Colegau Cymru (19 gwaith) q Enillwyr Cwpan Colegau Prydain q Enillwyr Rosslyn Park 7s q Enillwyr Coleg Super 15s

Myfyrwyr Rhyngwladol q Ashley Beck q Justin Tipuric q Dan Lydiate q Adam Beard q James Hook q Lloyd Peers q James King q Eli Walker q Dan Baker q Dafydd Howells q Adam Jones q Duncan Jones q Darren Morris q Spencer John q Paul James q Leigh Davies q Arwel Thomas q Gwyn Jones q Craig Mitchell q Kerin Lake q Kiera Bevan q Gwen Crabb q Kelsey Jones q Lowri Norkett

PÊL-RWYD q Pencampwyr Cynghrair Colegau Cymru q Rownd Derfynol yn y Cwpan British Knock-out

Myfyrwyr Rhyngwladol q Helen Jones q Amanda Cooper q Chelsea Lewis q Nicola James

PÊL-DROED q Pencampwyr Cynghrair Cymru q Pencampwyr Cymru 5 bob ochr q Ail ym Mhencampwriaeth Cymru 5 bob ochr

Myfyrwyr Rhyngwladol q Daniel James q Ben Davies q Joe Allen q Connor Roberts q Joe Rodon q Jazz Richards

GEMAU PARALYMPAIDD q Rob Davies (Tenis Bwrdd)

WEDi’ch Ysbrydoli gan Gerddoriaeth

Mae Cerddoriaeth yn un o'r pynciau mwyaf sefydledig yn y Coleg a bydd myfyrwyr sy'n ymuno â'r Academi yn elwa ar hyfforddiant a hyfforddi arbenigol gan gynnwys paratoad arbenigol ar gyfer cymwysiadau conservatoire, yn ogystal â'r cyfle i berfformio'n rhyngwladol ac mewn cystadlaethau a gwyliau ledled y DU.

"Rydyn ni mor falch o'n myfyrwyr cerddoriaeth ddoe a heddiw. Mae Academi Gerdd Grwp Colegau NPTC yn cynnig cyfle unigryw i'w cherddorion ifanc talentog ac ymroddgar sydd am gael eu hysbrydoli, eu herio a'u hannog i wneud y gorau o’u doniau cerddorol.

Rydyn ni’n cynnig amgylchedd arbennig lle y gall pob math o olygweddau ar gerddoriaeth gael eu magu i gyflawni eu potensial."

Vicky Burrows, Pennaeth y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio

Os hoffech ymuno â'n Hacademi Cerddoriaeth, ewch i www.nptcgroup.ac.uk

Daniel Jervis

O Grŵp Colegau NPTC i'r Gemau Olympaidd

Cyrhaeddodd cyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC, Daniel Jervis, rownd derfynol y Gemau Olympaidd yn ei Gemau cyntaf yn Tokyo. Gorffennodd y nofiwr 25 oed o Resolfen yn y pumed lle yn rownd derfynol y dull rhydd 1500 metr yn y gemau gohiriedig yr haf yma yn Japan.

Dechreuodd Jervis, a adawodd Grŵp Colegau NPTC yn 2014 ar ôl cwblhau cwrs Diploma Lefel 2 mewn Paentio ac Addurno, nofio i gadw ei dad-cu yn gwmni ar ôl iddo gael trawiad ar y galon. Ymunodd Daniel ag ef yn y pwll a dyw e ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.

Nid yw Jervis yn ddieithr i gystadlu ar y lefel uchaf o nofio. Fe gystadlodd yn ei Gemau Gymanwlad cyntaf yn 2014 o fewn wythnos i raddio o Grŵp Colegau NPTC.

Gorffennodd Daniel yn y trydydd lle yn y dull rhydd 1500 metr yng Ngemau Glasgow yn 2014. Fe ragorodd ar hynny wedyn yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 yn yr

Arfordir Aur, Awstralia gan ennill medal arian eto yn y dull rhydd 1500 metr. Yn yr un gemau, collodd allan o drwch blewyn ar fedal yr ail le, gan orffen yn 4ydd agos yn y dull rhydd 400 metr. Mae gan Daniel hefyd brofiad o gystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd ac Ewrop sawl gwaith ers gadael y coleg.

Ar ôl colli allan o drwch blewyn ar gystadlu yng Ngemau Olympaidd Rio 2016, cafodd Daniel gyfle o'r diwedd i wireddu ei freuddwyd o gystadlu yn y Gemau Olympaidd yr haf yma.

Meddai Jervis, wrth gael ei gyfweld gan y BBC ar ôl ei rownd derfynol:

“Ydw, rwy'n rhan o Team GB ac rwy'n Brydeiniwr ond rwy'n Gymro. Rwy'n falch iawn o gynrychioli Cymru yn y fan honno", gan gyfeirio at y pwll y tu ôl iddo.

Aeth ymlaen wedyn i ddweud ei fod wedi gobeithio torri record Prydain yn rownd derfynol y 1500 metr, ond doedd hi ddim i fod ar y noson. Ychwanegodd Jervis ei fod am dorri'r record Brydeinig a ddelir ar hyn o bryd gan ei gydGymro David Davies.

Gyda'r Gemau Olympaidd nesaf ym Mharis, mae Daniel eisoes yn edrych ymlaen at yr her:

“Dwi wedi cael fy mhrofiad cyntaf o Dîm GB nawr. Ie, Paris ymhen tair blynedd, wrth gwrs dwi'n gwybod nad yw ym Mhrydain Fawr ond mae'n Gemau cartref i raddau helaeth a dwi'n gweddïo y bydd y pandemig yma drosodd erbyn bryd hynny ac y bydd cefnogwyr yno. Dwi'n ymddiried yn y broses. Hyderaf fy mod i'n mynd i fod ar y podiwm hwnnw. Dwi'n haeddu fe, bydda i'n gweithio iddo fe, a bydda i yno.”

TIANN THOMAS-WHEELER

Gweilch a Rhyngwladol Cymru

Astudiodd Tiann Thomas-Wheeler BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon yn Academi Chwaraeon Llandarcy, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r Gweilch yn erbyn Caerloyw yng Nghwpan Eingl-Gymreig 2018 ac ers hynny mae wedi symud ymlaen i chwarae dros ei ranbarth yn y Pro 14. Chwaraeodd yn rheolaidd i Grŵp Colegau NPTC yng Nghynghrair Ddatblygu Ysgolion a Colegau Cymru.

Ym Mhencampwriaeth Dan 20 Cwpan Rygbi'r Byd 2019, sgoriodd y cais hollbwysig ym muddugoliaeth hanesyddol Cymru dros Seland Newydd.

Yn fabolgampwr amryddawn dawnus, bu'n cynrychioli Cymru mewn criced ar lefelau iau yn ogystal â dod yn enillydd 'Gwobr Campwr y Flwyddyn' Grŵp Colegau NPTC.

“Does dim dwywaith na allwn fod wedi gwneud hyn heb gefnogaeth Coleg Castell-nedd sydd wedi fy helpu i reoli fy ymrwymiadau rygbi ac addysg.”

Yr ydym am roi cyfle i bob darpar entrepreneur wireddu ei freuddwydion busnes.

Mae'r tîm Menter a Chyflogadwyedd yn darparu amgylchedd proffesiynol, cefnogol i fyfyrwyr sy'n sefydlu eu busnes eu hunain ac mae'n cynnwys mynediad i amrywiaeth o gyfleusterau a chymorth AM DDIM* gan gynnwys: b Gofod swyddfa â gwasanaeth b Cyfleusterau rhannu desg dros dro i'r rhai nad oes angen gofod swyddfa amser llawn arnynt b Cyfeiriad busnes proffesiynol b Mynediad i TGCh gan gynnwys cyfleusterau ffôn, argraffu a chopïo b Derbynnydd i ateb galwadau a chyfarch eich cleientiaid b Cymorth ac arweiniad busnes b Mynediad i weithdai hyfforddi arbenigol b Ystafelloedd cyfarfod gweithredol b Mynediad i ystafelloedd hyfforddi ag adnoddau cyflawn b Rhwydweithio a chyfleoedd i weithio ar y cyd b Mynediad i gyfleusterau reprograffig b Parcio am ddim.

*Telerau ac amodau

This article is from: