2 minute read

Galwedigaethol Galwedigaethol Iechyd, Gofal CymDEIThasol a Gofal Plant

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Mae gan yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gyrsiau sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion y gymuned yn ogystal â pharatoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa yn y diwydiant poblogaidd hwn. Byddwch yn derbyn hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith ac mae rhai cyrsiau yn eich asesu yn eich gweithle. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill profiad o'r diwydiant sy'n hanfodol ar gyfer mynd ymlaen i addysg uwch, yn ogystal â'r cymwysterau cydnabyddedig sydd eu hangen arnoch i gael gyrfa yn y diwydiant hwn.

Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar ar weithwyr ym maes gofal iechyd. Gellir cyflogi gweithwyr meithrin mewn meithrinfeydd dydd a chanolfannau plant neu gallant ddod yn warchodwyr plant.

Mae staff yn yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn arbenigwyr yn y diwydiant yn ogystal â darlithwyr. Mae ein darlithwyr cefnogol a gofalgar yn ymrwymedig i sicrhau bod myfyrwyr yn llwyddo.

Mae Pennaeth yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn cadeirio Rhwydwaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol Colegau Cymru ac yn eistedd ar weithgorau yn yr ardal leol mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol a sefydliadau cysylltiedig.

Byddwch yn

O fewn y cyrsiau ar gyfer Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, bydd unedau dwyieithog ar gael i fyfyrwyr.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae angen sgiliau cyfathrebu cryf a natur ofalgar ar weithwyr iechyd a gofal plant, ac yn y Coleg byddwn yn datblygu eich sgiliau drwy leoliadau seiliedig ar waith cysylltiedig, sy'n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd. Byddwch yn cael eich annog i gwblhau cwrs iaith Gymraeg a gwella eich sgiliau rhyngbersonol trwy weithgareddau grŵp a digwyddiadau codi arian.

Rhagolygon gyrfa

Gall ein cyrsiau arwain at yrfa fel athro/athrawes, cynorthwyydd addysgu, ymarferydd gofal plant, therapydd iaith a lleferydd, nyrs, parafeddyg, a gwaith cymdeithasol.

Mae llawer yn camu ymlaen i'r nifer fawr o raglenni gradd Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant yn y Coleg cyn dechrau gweithio.

feIThrINgAR gyda

gyrfa ym maES gofal, iechyd a Therapi

Enillion blynyddol cyfartalog

Nyrsio Plant, Oedolion, Iechyd Meddwl

£30k +

Gwaith Cymdeithasol £23k-£47k

Therapydd Iaith a Lleferydd

£24k-£49k

Therapi Galwedigaethol £21k-£41k

Llwyddiant Myfyrwyr

Mae'r myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ffion Jones wedi ennill y Categori Galwedigaethol yn y Gwobrau Addysg Prydeinig (BEA) clodfawr. Hi oedd y fyfyrwraig gyntaf o Grŵp Colegau NPTC i ennill y gwobrau.

Mae'r BEA yn nodi ac yn dathlu unigolion sydd wedi rhagori o fewn system addysg Prydain. Wrth wneud hynny, mae'r gwobrau hyn yn cydnabod mai ymdrech a phenderfyniad personol sy'n arwain at lwyddiant.

Enillodd Ffion y wobr gan gydnabod ei chanlyniadau academaidd gwych a'i llwyddiant allgyrsiol.

Cyrsiau

Cyfunodd astudio gyda dwy swydd ran-amser yn ogystal â bod yn Hyrwyddwr Cyfeillion Dementia, codi arian i'r Gymdeithas Alzheimer, a bod yn Arweinydd Cadetiaid yr Heddlu gyda Heddlu Dyfed Powys.

Yn ystod ei hamser fel cadet yng Nghanolfan Sant Ioan, y Drenewydd, mae hi wedi ymgymryd â lleoliadau gwaith yng Nghartref Nyrsio Bethshan ac Ysbyty'r Drenewydd. Yn ogystal â hyn, mae hi rywsut wedi dod o hyd i'r amser i gwblhau gwobrau efydd ac arian Dug Caeredin ac ennill Rhagoriaeth Serennog Driphlyg gyda phresenoldeb o 100% yn ei BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

2 gradd C neu uwch yn cynnwys Mathemateg a/neu Saesneg Iaith. Byddai gwyddoniaeth yn fuddiol. Blwyddyn

5 gradd C neu uwch gan gynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith a Gwyddoniaeth. 2

2 gradd C neu uwch gan gynnwys Mathemateg neu

Mae'r cwrs hwn yn darparu ar gyfer myfyrwyr 19 oed a throsodd sy'n gobeithio dychwelyd i addysg. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau cyfweliad llwyddiannus.

This article is from: