1 minute read

Bywyd yn y Coleg Creu eich Profiad eich Hun

Cymorth i Fyfyrwyr

Mae pob myfyriwr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn bwysig i ni ac rydym yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod yr amser yr ydych yn ei dreulio yn y Coleg yn cefnogi eich anghenion unigol.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n cynnwys: q Derbyniadau q Gyrfaoedd q Cydraddoldeb ac amrywiaeth q Cyllid myfyrwyr q Cwnsela a llesiant proffesiynol q Diogelu q Cefnogaeth arbenigol i blant sy'n derbyn gofal q Cymorth astudio i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac/neu anableddau

Os ydych yn teimlo y gallech elwa o gael cymorth ychwanegol pan fyddwch yn dod i'r coleg dywedwch wrthym am hyn ar eich ffurflen gais.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm Cymorth Myfyrwyr ar: studentsupport@nptcgroup.ac.uk

Ffioedd Coleg, Costau a Chyllid

Costau addysgu

Nid yw'r Coleg yn codi ffioedd addysgu am gyrsiau amser llawn ond mae'n ofynnol i bob myfyriwr dalu ffi weinyddol na ellir ei ad-dalu wrth ymrestru.

Costau ychwanegol:

Efallai y bydd costau ychwanegol ar gyfer cyfarpar arbenigol, dillad a theithio. Bydd gofyn i fyfyrwyr sy’n mynychu profiad gwaith ffurfiol fel rhan o’u cwrs gyflawni gwiriad DBS o bosib (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Os felly, bydd disgwyl i'r myfyrwyr hynny dalu'r costau hyn.

Cymorth ariannol

Mae amrywiaeth o opsiynau ar gael i wneud bywyd myfyrwyr ychydig yn haws ar eich poced. Mae'r rhain yn cynnwys: q Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) q Grant Dysgu Llywodraeth Cymru q Cronfa Ariannol Wrth Gefn

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: studentsupport@nptcgroup.ac.uk

Undeb Myfyrwyr GrŴp

CoLEgau NPTC

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cael ei rhedeg gan y myfyrwyr, ar gyfer y myfyrwyr. Eu rôl yw sicrhau bod lleisiau myfyrwyr yn cael eu clywed ar lefel uwch reolwyr, gwrando ar fyfyrwyr o bob rhan o'r colegau, cynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd drwy'r flwyddyn, eich helpu i gwrdd â phobl newydd, a chreu cymuned o fyfyrwyr cynhwysol a chyfeillgar. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â student-union@nptcgroup.ac.uk.

TOTUM, cerdyn disgownt myfyrwyr #1 y DU. Mae’r holl fyfyrwyr dros 16 sy’n astudio mwy na 10 awr yr wythnos yn gallu prynu cerdyn TOTUM. Lawrlwythwch yr ap TOTUM heddiw yn rhad ac am ddim ac yna gallwch ddatgloi gwerth blwyddyn lawn o ostyngiadau am £12. Mae TOTUM yn rhoi bargeinion i chi drwy gydol y flwyddyn fel 10% oddi ar ASOS, 12% oddi ar cardiau rheilffordd 16-25 oed, llawer o ddisgowntiau Apple, gostyngiadau bwyd a diod, a 2 am bris 1 ar eich dwy wers yrru gyntaf gyda RED Driving School. Lawrlwythwch yr app heddiw a gweld beth sydd ar gael! www.totum.com!

This article is from: