
1 minute read
Dychweliad LEe STaffORd NoDEdig i GoLEg Afan gyda'i Siswrn Aur
Ac yntau wedi llwyddo i ennill gwobr yn ddiweddar, dychwelodd Lee Stafford i'w Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol yng Ngholeg Afan i gyflwyno gwobr arbennig iawn i dri darlithydd.
Dyfarnwyd eu Diploma Hyfforddwr Meistr, a elwir hefyd yn ‘Siswrn Aur', i staff trin gwallt, am daro eu '10 Mawr’ o ganlyniadau ym mhob rysáit Lefel 2 a Lefel 3. Esboniodd Lee: “Dim ond pan allan nhw efelychu ryseitiau gystal â fi y rhoddir y Siswrn Aur. Dyw hi ddim yn dasg hawdd. Mae'n cymryd dwy flynedd fel arfer; mae'n rhaid iddyn nhw ffilmio eu hunain yn gwneud pob un rysáit, yna ei anfon ymlaen at ein tîm. Rydym yn ei asesu yn erbyn y fideo Addysg Lee Stafford. A oedden nhw wedi dilyn yr un camau â fi? A gawson nhw'r un canlyniadau? A phan allan nhw wneud pob rysáit at safon '10 Mawr', dyna ein cyfwerth i seren Michelin pan fyddan nhw'n cael y Siswrn Aur."
Mae hyn ar ben enwi Sefydliad Addysg Lee Stafford fel enillydd cyntaf erioed y categori Arbenigwr Addysg yn y Gwobrau Most Wanted blynyddol, a gynhelir yn adeilad ysblennydd y Tate Modern, Llundain.


Enillodd Lee a'i dîm y tlws Most Wanted nodedig, gwobr gan noddwr y categori, Colour Start, cyhoeddusrwydd ar draws y brand Creative HEAD drwy gydol eu blwyddyn fuddugol a'r cyfle i ymddangos mewn digwyddiadau Creative HEAD hyn y gaLL myfyrwyr ei ddisgwyl gan AcaDEmi LEe STaffORd yw o
Mae'r tlws Arbenigwr Addysg yn mynd at unigolyn neu dîm sy'n darparu addysg eithriadol i'r diwydiant trin gwallt. Yn un o'r nosweithiau mwyaf cyfareddol yn y calendr trin gwallt, bob blwyddyn daw Most Wanted ag eiconau diwydiant, y sêr mwyaf, a gwneuthurwyr chwaeth at ei gilydd i ddathlu doniau mwyaf cyffrous, blaengar ac arloesol y DU ac Iwerddon.