2 minute read

GARddIO a GARddwriaeth

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Mae garddwriaeth yn ddiwydiant amrywiol a deinamig sy'n cynnwys cynhyrchu ffrwythau, llysiau, blodau a phlanhigion addurnol yn fasnachol yn ogystal â dylunio, sefydlu a chynnal a chadw parciau, gerddi, meysydd hamdden a chwaraeon, mannau agored a reolir a thirweddau.

Mae garddwriaeth yn fusnes byd-eang sy'n amrywio o ran maint o gwmnïau amlwladol mawr i sefydliadau a chwmnïau entrepreneuraidd llai. Mae awdurdodau lleol, gerddi botanegol a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn gyflogwyr mawr. Yn y wlad hon a thramor, mae galw mawr bob amser am arddwyr wedi'u hyfforddi ym Mhrydain.

Rydym yn cynnig amrywiaeth gyffrous o gyrsiau garddwriaeth a garddio sy'n rhoi i chi'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen i lwyddo mewn gyrfa yn y sector hwn. Gyda'n cyfleusterau gwych sy'n cynnwys tai gwydr modern a gwelyau stoc awyr agored wedi'u llenwi ag amrywiaeth ddiddorol o blanhigion, rydych yn siŵr o fwynhau'r profiad awyr agored go iawn. Mae'r ardaloedd a blannwyd yn cynnwys gardd berlysiau y Canoldir, hafan bywyd gwyllt ac elfennau o erddi a ail-grewyd ar ffurf ein gerddi llwyddiannus a enillodd Fedal Aur mewn sioeau amrywiol o amgylch y wlad.

Enillion blynyddol cyfartalog

Cyrsiau

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae gwersi'n cyfuno gwaith dosbarth â gwaith ymarferol, gan bwysleisio'r amrywiaeth eang o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant garddwriaeth/garddio. Bydd disgwyl i chi hefyd fynychu lleoliadau profiad gwaith, gan ennill profiad gwaith gwerthfawr.

Cewch hefyd gyfle i ddatblygu sgiliau menter trwy nifer o weithgareddau gwerthiant drwy gydol y flwyddyn! Bydd y myfyrwyr hefyd yn mwynhau plannu a meithrin amrywiaeth o berlysiau a llysiau sy'n cael eu dewis yn ffres i'w gweini ym Mwyty Blasus yng Ngholeg Castell-nedd.

Rhagolygon gyrfa q Gwaith planhigfa q Canolfannau garddio adwerthu q Dylunio gerddi q Tyfu planhigion q Cynhyrchu planhigion q Tirmonaeth q Tirlunio q Gwaith organig q Gwyddoniaeth q Addysg q Meddyg coed q Hunangyflogaeth.

Y diwydiant garddio a garddwriaeth £30k - £60k

2384 o swyddi yng Nghymru erbyn 2024 (Gyrfa Cymru)

TrIN GwaLLt

Croeso i Academi Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol Lee Stafford, y cyntaf a o'i fath a'r unig un yng Nghymru.

Yn fwy nag ardystiad gan rywun enwog, mae'r rhaglen hyfforddi wedi ei datblygu gan Lee ei hunan ochr yn ochr ag arbenigwyr, i hyfforddi nid yn unig y myfyrwyr, ond hefyd ein staff gwallt a gwaith barbwr profiadol ein hunain. Byddwch yn dysgu 'ryseitiau' sydd wedi'u cynllunio'n arbennig ac sy'n unigryw i Academïau Lee Stafford, gan adlewyrchu rhai o'r arddulliau mwyaf arloesol a welir mewn salonau ledled y DU. Mae'r rhain yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau arbenigol na allwch eu cael yn unrhyw le arall.

Byddwch yn derbyn hyfforddiant mewn hyd at 22 o sgiliau a thechnegau sylfaenol y byddwch yn eu dysgu i'r hyn y mae Lee yn ei alw'n 'safon Michelin'. Unwaith y byddwch wedi meistroli'r technegau hyn, cewch eich annog i ddefnyddio eich creadigrwydd yn rhydd.

Gellir profi'r sgiliau hyn mewn cystadlaethau cenedlaethol gyda myfyrwyr Academi Lee Stafford eraill mewn colegau AB ledled y DU yn ystod y flwyddyn academaidd.

Rydyn ni'n anelu at sicrhau bod ein myfyrwyr trin gwallt a gwaith barbwr gyda'r rhai mwyaf cyflogadwy yn y wlad, felly os ydych chi'n ddifrifol am wallt, Grŵp Colegau NPTC yw'r lle i chi!

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu torri, steilio a gosod sylfaenol, lliwio, siampŵo a chyflyru, ymgynghori â chleientiaid (yn cynnwys adnabod clefydau ac anhwylderau'r gwallt a chroen y pen), iechyd a diogelwch sylfaenol mewn salonau, sgiliau hanfodol a manwerthu. Wedi cyrraedd Lefel 3, byddwch yn cyflawni sgiliau torri uwch, sgiliau steilio, gwallt priodasol, lliwio, iechyd a diogelwch uwch mewn salonau, ymgynghori â chleientiaid, manwerthu, TG a sgiliau cyfathrebu. Fel rhan o'r rhaglen hon, mae rhaid i ddysgwyr fynychu lleoliad gwaith mewn sefydliad allanol am o leiaf un diwrnod yr wythnos neu bythefnos gyfan ynghyd â sesiwn fasnachol gyfnos/gyda'r hwyr yn y Coleg.

Rhagolygon gyrfa q Barbwr q Technegydd lliw q Perchennog salon q Uwch steilydd q Triniwr gwallt priodas q Gweithio ar fordeithiau.

Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda. Mae'r diwydiant gwallt yn cynnig cyfleoedd gwych gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn a gweithio y tu ôl i'r llenni mewn ffilm, theatr a theledu. Mae hefyd yn cynnig yr annibyniaeth i ddechrau eich salon eich hun.

This article is from: