
12 minute read
ADEiladwaITh a’r AmgylcHEdd ADEiLEdig
Adeiladu'r Dyfodol
Bydd cyfres newydd o gymwysterau'n cael ei chyflwyno ledled Cymru sydd wedi'u datblygu gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau'r sector amgylchedd adeiledig yng Nghymru yn well.

Nod y newid yw symleiddio'r dirwedd gymhleth o fwy na 400 o gymwysterau mewn gwasanaethau adeiladwaith ac adeiladu yng Nghymru a sicrhau eich bod yn fwy parod ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector. Bydd mwy o ffocws ar dechnegau newydd a thraddodiadol, ar wybodaeth am y diwydiant yn ei gyfanrwydd ac ar y sgiliau generig sydd eu hangen i symud ymlaen i waith o addysg.
Mae gan Ganolfan Ragoriaeth Adeiladwaith Maesteg ar ei newydd wedd amrywiaeth o gyrsiau adeiladu llawn a rhan-amser sy'n addas ar gyfer unrhyw lefel. Rydym yn canolbwyntio ar sicrhau rhagoriaeth addysgu a dysgu wrth hyfforddi i helpu pob myfyriwr i gyflawni eu potensial. Rydym yn frwd dros eich helpu i gyflawni eich nodau addysg a glanio eich swydd ddelfrydol! Mae ein cyrsiau adeiladwaith yn canolbwyntio ar sgiliau y gellir eu cymhwyso'n uniongyrchol i'r gweithle neu astudio ymhellach, gan roi'r wybodaeth i chi ddilyn gyrfa yn y diwydiant adeiladu.
Sgiliau Adeiladwaith
(Aml Fasnach – Cyn Sylfaen)
Mae Sgiliau Adeiladwaith Lefel 1 yn gwrs addysg bellach, llawn amser a ddylunnir ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gyrfa yn y diwydiant adeiladwaith. Mae'r cwrs yn cynnwys gwybodaeth am iechyd a diogelwch, sesiynau ymarferol a theori gan rai o'r canlynol, gan ddibynnu ar y Coleg a ddewisir: Gosod brics, Plastro, Gwaith coed, Paentio neu Deilsio.
Cwrs Sylfaen Lefel 2 mewn
Adeiladwaith a'r Amgylchedd
Adeiledig
Cymhwyster newydd sbon yw'r Cwrs Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig lle y byddwch yn astudio dau brofiad crefft o blith y canlynol: q Gweithio gyda brics, blociau a cherrig q Galwedigaethau pren q Paentio ac addurno q Plastro a systemau mewnol q Teilsio waliau a lloriau.
Mae gan y diwydiant Adeiladwaith a Gwasanaethau Adeiladu tua thair miliwn o weithwyr yn y DU, sy'n golygu ei fod yn un o gyflogwyr mwyaf y wlad. Mae angen nifer fawr o weithwyr wedi'u hyfforddi o'r newydd ar y diwydiant bob blwyddyn er mwyn ateb y galw. Mae swyddi ar gael ar draws pob maes, a gyda chyflogau ar gynnydd ar hyn o bryd, ni fu erioed amser gwell i ymuno â'r diwydiant gwerth chweil hwn.
Cynhelir hyfforddiant mewn gweithdai eang ac offer da lle mae gan fyfyrwyr y cyfle i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau newydd a fydd yn eu harfogi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladwaith.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Cyflwynir hyfforddiant gan staff cymwys â phrofiad o'r diwydiant sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau myfyrwyr. Mae llawer o'n staff yn gyn-fyfyrwyr o'r Coleg ac yn deall sut i wneud dysgu'n ddiddorol a phleserus a gallant gael y gorau allan o fyfyrwyr.
Byddwch yn ymdrin â sgiliau crefft ymarferol, gwybodaeth am y swydd a thechnegau datblygedig crefftau yn y llwybr rydych yn ei ddewis. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddehongli darluniau adeiladu a chyfrifo deunyddiau a chostau. Mae myfyrwyr hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau fel ffordd o wella eu gallu ymarferol a datblygu sgiliau lefel uwch.
Asesiadau
Er mwyn cyflawni'r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau: q Un prawf aml-ddewis sydd wedi'i osod a'i farcio'n allanol q Un prosiect sydd wedi'i osod yn allanol a'i farcio'n fewnol yn ymdrin â dau faes crefft q Un drafodaeth dan arweiniad sydd wedi'i osod yn allanol a'i farcio'n fewnol q Un prawf iechyd a diogelwch sydd wedi'i osod yn allanol a'i farcio'n fewnol.

Dilyniant
Ar ôl ei gwblhau, bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth sylfaenol eang ar draws y diwydiant adeiladwaith neu amgylchedd adeiledig yn ogystal â gwybodaeth a sgiliau cyflwyniadol yn y ddau lwybr a ddewisir. Mae'r cymhwyster yn darparu'r wybodaeth i symud ymlaen i astudio ymhellach: q Dilyniant mewn Adeiladwaith Lefel 2 (Llawn amser) –City & Guilds q Adeiladwaith Lefel 3 Dwy flynedd (Prentisiaeth Rhan-amser)
City & Guilds q Adeiladwaith Lefel 3 Tair blynedd (Prentisiaeth Rhan-amser)

City & Guilds
Enillion blynyddol cyfartalog
Briciwr £52k
Saer ac Asiedydd £50k
Plastrwr £48k
Teilsiwr Waliau a Lloriau £48k
Mae'r cymhwyster yn rhoi digon o wybodaeth i ddysgwyr symud ymlaen i brentisiaeth o fewn y sector yn y grefft o'u dewis.
Ar gyfer pwy mae'r cymhwyster?
Mae'n addas ar gyfer: q Dysgwyr 16+ oed sy'n gweithio ar hyn o bryd neu'n bwriadu gweithio yn y sector adeiladwaith a'r amgylchedd adeiledig q Gweithredwyr safle sydd am ehangu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau yn y sector yn fwy cyffredinol q Bydd angen i ddysgwyr fod wedi cyflawni, neu fod yn gweithio tuag at eu Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth). Nid oes unrhyw ofynion mynediad ychwanegol ar gyfer y cymhwyster hwn.
Rheolwr Safle £60k
Rheolwr Prosiect £70k
Peiriannydd Sifil £70k
Llwyddiant Myfyrwyr
Sammy'n Mynd am Aur SkillBuild
Mae Sammy Young, oedolyn sy'n dysgu, wedi'i ymroi i waith coed. “Rwy'n mynd i gysgu yn meddwl am ystafelloedd, rwy'n deffro'n meddwl am saernïaeth", meddai'r prentis gwaith saer a gwaith coed ysbrydoledig.
Mae Sammy, 43, sy'n fam i dri o blant, a enillodd y fedal arian yn rownd derfynol genedlaethol WorldSkills UK yn 2021, yn bwriadu rhagori ar hynny yr hydref yma ar ôl cymhwyso eto eleni yn y rowndiau rhagbrofol yn Ne Dyfnaint.


Bydd hi'n cystadlu am aur yn erbyn y goreuon o'i chymheiriaid gwaith coed yn SkillBuild, digwyddiad a ddisgrifiwyd fel "Gemau Olympaidd adeiladu'r DU”.

Mae Sammy yn fyfyriwr llawn amser yng Ngholeg Castellnedd ac ar hyn o bryd yn astudio dau gwrs rhan-amser, Lefel 1 Gwaith Saer a Lefel 3 Gwaith Coed. Enillodd wobr Myfyriwr y Flwyddyn CEO 2022 hefyd, ac roedd hefyd yn Enillydd Rhagoriaeth Sgiliau Ysbrydoledig Cymru.
Cyrsiau
Yn y cyfamser, ar adeg o'r flwyddyn pan fo llawer o bobl yn ystyried dychwelyd i ddysgu, mae gan Sammy eiriau calonogol i ddysgwyr sy'n oedolion. “Y cyngor fyddwn i'n ei roi i unrhyw un sy'n ystyried dychwelyd i fyd addysg neu newid eu gyrfa, yw cer amdani!"
Roedd Sammy, sy'n wreiddiol o Lundain ond yn byw yn ne Cymru ers 17 mlynedd, yn hoff iawn o waith coed yn yr ysgol ond, fel llawer o bobl, aeth pethau i gyfeiriad arall ar ôl ei dyddiau ysgol.
Fodd bynnag, ers dychwelyd i waith saer mae Sammy, sy'n jyglo llawer o dasgau mewn bywyd prysur, yn dweud ei bod wedi dod o hyd i'w "lle hapus" drwy ddysgu i oedolion”.
“Pan o'n i yn yr ysgol, roeddwn i'n wych mewn gwaith coed ac o'n i ar ben y dosbarth drwyddi draw, ond yna digwyddodd pethau eraill ac anghofiais i mai dyna roeddwn i wrth fy modd yn ei wneud," meddai.
“Fe wnes i gofrestru ar gwrs gwaith coed ar fyr rybudd ac o fewn yr wythnos gyntaf roeddwn i'n gwybod mai dyna oeddwn i fod i'w wneud. Dyna'r peth gorau dwi erioed wedi'i wneud a'r unig beth dwi wedi canolbwyntio arno”.
Cyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad
Sgiliau Adeiladwaith
(Aml Fasnach –Cyn Sylfaen)
Sylfaen mewn
Adeiladwaith a'r
Amgylchedd Adeiledig
1 Nid oes angen cymwysterau ffurfiol Blwyddyn Maesteg/Castell-nedd Abertawe
2 TGAU mewn Saesneg a Mathemateg, gradd D neu uwch.
LLWYBRAU CREFFT AR GAEL:
Blwyddyn Bannau/Maesteg Castell-nedd/Abertawe
Gwaith Coed a Gwaith Saer / Toeon Bannau/Castell-nedd Abertawe
Gwaith Brics / Adeiladwaith Sifil Bannau/Maesteg Castell-nedd/Abertawe
Plastro / Adeiladwaith Sifil
Bannau/Castell-nedd Abertawe
Peintio a Addurno / Teilsio Lloriau ac Waliau Castell-nedd
BTEC Lefel 3 Diploma
Estynedig mewn
Adeiladwaith a'r
Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil)
3
5 TGAU ar raddau A*-C i gynnwys Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg a Gwyddoniaeth (6 TGAU os mai dim ond Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg a gyflawnwyd). BTEC Tystysgrif Gyntaf neu Ddiploma mewn Adeiladwaith ar lefel Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Dawns, CERddORiaeth a’r Celfyddydau PERffORmIO
Mae Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn cynnig cyrsiau amser llawn mewn Celf a Dylunio, Cynhyrchu'r Cyfryngau a'r Celfyddydau Perfformio wedi'u lleoli yng Ngholegau Castell-nedd ac Afan.
Addysgir y gwersi mewn amgylchedd creadigol gan ddefnyddio cyfarpar safonol y diwydiant sydd ar flaen y gad o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol yn cynnwys Canolfan y Celfyddydau Nidum.
Byddwn yn rhoi'r cyfle i chi ymestyn eich dysgu a'ch sgiliau yn ein hacademi cerddoriaeth a chwmnïau theatr a dawns. Darperir cymorth helaeth un i un gyda cheisiadau ar gyfer conservatoires a'r prifysgolion dawns a chelfyddydau perfformio gorau ac rydym yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod ar gyfer clyweliadau. Mae ein myfyrwyr yn gwneud cynnydd ac yn bwysicach oll, maent yn gyflogadwy iawn –rydym yn anelu at eich helpu i fod yn barod am yrfa!


Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni allgyrsiol helaeth gan gynnwys côr y Coleg, Band Ffync a Chwmni Dawns LIFT, Gwobr Dug Caeredin, a llawer mwy.
Enillion blynyddol cyfartalog
Coreograffydd £50k+

Sgriptiwr £30k+
Cerddor £35k+
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae ein cyrsiau yn darparu cyfleoedd cyffrous a heriol drwy hyfforddiant arbenigol mewn cerddoriaeth, cyfansoddi, dawns, drama, canu a theatr gerddorol. Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau perfformio fel rhan o gwmnïau theatr, dawns a cherddoriaeth y Coleg gan ddefnyddio ein stiwdios proffesiynol a Chanolfan y Celfyddydau Nidum sydd â'r holl gyfarpar angenrheidiol.
Rhagolygon gyrfa q Actor q Gweinyddwr y celfyddydau q Coreograffydd q Dawnsiwr q Therapydd cerddoriaeth - neu ddrama q Perfformiwr theatr gerdd q Cerddor q Hyfforddwr Pilates/Yoga q Sgriptiwr q Athro/Athrawes q Cyfarwyddwr theatr.
Dawnsiwr £37k+
Athro £50k+
Cyfarwyddwr Theatr £60k+
Cyrsiau
BTEC Diploma Estynedig
5 TGAU gradd A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol Mae profiad blaenorol o berfformio yn ddymunol.
5 TGAU A*-C gan gynnwys Saesneg/cymhwyster Lefel 2 perthnasol. Nid yw profiad dawns blaenorol yn hanfodol, ond dylai myfyrwyr fod â diddordeb mewn hyfforddi ar draws sawl arddull dawns. Gall myfyrwyr astudio Dawns Safon Uwch ochr yn ochr â'r cwrs hwn.
BTEC Diploma
Technegol mewn Cerddoriaeth
BTEC Diploma Estynedig mewn Cerddoriaeth
Gall myfyrwyr ddewis astudio cymhwyster Lefel 3 wrth ochr Safon Uwch. Er enghraifft, BTEC Diploma



Estynedig mewn Cerddoriaeth gyda
Cherddoriaeth Safon Uwch.
2 2 TGAU gradd C neu uwch. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis trwy gyfweliad a chlyweliad. Bydd y maen prawf yn cynnwys cael eu barnu ar eu diddordeb a'u profiad mewn cerddoriaeth ynghyd â chlyweliad ar offeryn neu lais o gwmpas safon gradd 3.
3 5 TGAU A*-C yn cynnwys
Cymhwyster Lefel perthnasol a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu dewis trwy gyfweliad a chlyweliad. Bydd hyn yn cynnwys cael eu barnu ar eu diddordeb a’u profiad mewn cerddoriaeth ynghyd â chlyweliad ar offeryn neu lais o gwmpas safon gradd 5.
Llwyddiant Myfyrwyr
Mae'r myfyrwyr canlynol wedi cael canlyniadau Dawns
RHAGOROL mewn BTEC Lefel 3 Dawns gyda Dawns Safon Uwch. Byddan nhw'n mynd ymlaen i hyfforddi yng nghyrsiau addysg uwch mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer dawns a pherfformiad proffesiynol.
Carlie Harris - D*D*D* A yn symud ymlaen i astudio yng Nghanolfan Stiwdio Llundain.
Amelia Coombs - D*D*D* B yn symud ymlaen i astudio yn Sefydliad Celfyddydau Perfformio Lerpwl.

Molly Lewis - D*DD yn symud ymlaen i astudio yn Academi Ddawns Addict.
Molly Richards - DDD B yn symud ymlaen i astudio yn Academi Ddawns Addict.

Ellie Whiles - DDD A yn symud ymlaen i astudio yng Ngholeg y Perfformwyr.
Nadia Brayley - DDM B yn symud ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Middlesex.



Ruby Bennett - DDD A yn symud ymlaen i addysg uwch a hyfforddiant yn 2023.



Sarah Hopkins - D yn symud ymlaen i Goleg y Perfformwyr.



Llwyddiant Myfyrwyr
Lauren Drew
Fe wnaeth cyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC a seren y West End, Lauren Drew, argraff enfawr ar y wlad gyfan drwy gyrraedd rownd gynderfynol The Voice. Roedd ei pherfformiad ysgubol o gân Jessie J, 'Mama Knows Best' ar ei hymddangosiad cyntaf yn y clyweliad dall yn berfformiad anhygoel, gan annog pob un o'r pedwar beirniad i wasgu eu botymau a throi o gwmpas, gan olygu mai hwn oedd troad pedwar barnwr cyntaf y gyfres. Gan y gwnaed cymaint o argraff ar y Barnwr Tom Jones, a anwyd ym Mhontypridd, fe wnaeth dagio Jessie J mewn trydariad er mwyn iddi allu gwylio Lauren yn canu ei chân. Nid yw Lauren yn ddieithryn i'r llwyfan ac mae wedi gwneud nifer o berfformiadau o fri beirniadol. Mae wedi perfformio mewn nifer o sioeau theatr megis Six, Evita, Sweet Charity, Heathers The Musical, Kinky Boots, a Ghost.
Fel un o raddedigion Mountview Academy of Theatre Arts (2016), mae Lauren yn gwthio ei hun yn gyson ac yn datblygu ei gyrfa broffesiynol. Yn hanu o Bort Talbot, dechreuodd Lauren ar ei thaith i'r llwyfan trwy ddilyn cwrs TGAU mewn Drama a Cherddoriaeth. Dewisodd fynd i Grŵp Colegau NPTC i astudio ar gyfer Diploma BTEC mewn Celfyddydau Perfformio a fu'n ei rhoi ar y trywydd iawn i ennill lle yn Academi Mountview.

Roedd gan Bennaeth Ysgol y Celfyddydau Creadigol, Gweledol, a Pherfformio , Victoria Burroughs, hyn i'w ddweud am Lauren: “Pan oedd Lauren yn astudio BTEC Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Castell-nedd, gwelodd y tîm darlithio faint o botensial, dawn grai, ac ymrwymiad oedd ganddi. Roedd yn amlwg bryd hynny fod gan Lauren ddyfodol gwych o'i blaen yn y diwydiant celfyddydau perfformio. Mae wedi bod yn bleser gweld gyrfa berfformio broffesiynol Lauren yn mynd o nerth i nerth."
Myfyriwr y Flwyddyn - Thomas Howell
Bu i Thomas Howell, myfyriwr Cerddoriaeth Lefel A, sefyll ei Ddiploma Piano a Llais Gradd 8 ABRSM ychydig ddyddiau cyn y cyfnod clo. Cyflawnodd Tom y sgôr anhygoel o
48/50 yn ei Ddiploma Piano a Rhagoriaeth yn ei Lais Gradd 8. Yn ystod y cyfnod clo, mae Tom wedi parhau i weithio'n galed i ennill cymwysterau pellach, gan gynnwys Anrhydedd mewn Diploma Cyfansoddi, a bu iddo sefyll ei arholiad theori Gradd 8 ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Tom, a symudodd i Chichester ym mis Awst i ymgymryd â lle fel Ysgolhaig Organ yn Eglwys Gadeiriol Chichester: “A dweud y lleiaf dw i wedi mwynhau fy amser yn yr Academi Gerdd yn fawr iawn. Mae Coleg Castell-nedd hefyd yn darparu hyfforddiant offerynnol a lleisiol gyda thiwtoriaid gwadd sy'n arbenigwyr yn eu maes. Trwy'r cynllun hwn, dw i wedi cael rhagoriaethau yn ABRSM Gradd 8 Llais a Diploma ABRSM ar y Piano. Anogir myfyrwyr i weithio'n annibynnol ac mae caffael y sgìl hon yn berthnasol i weithio yn y diwydiant ehangach. Cymryd rhan mewn llu o weithgareddau allgyrsiol yw'r hyn sydd wedi gwneud fy amser yma mor werthfawr.”

Dyma swydd a gynigir fel arfer i fyfyrwyr hŷn a mwy profiadol ond mae rhagoriaeth bur Thomas fel cerddor a'i ymroddiad i'w astudiaethau wedi ennill y lle hwn iddo.
Aeth ymlaen i ddweud: “Mae creu cerddoriaeth yn gydweithredol yn agwedd ganolog ar fywyd y coleg gan gynnwys y band mawr, ensembles bach, côr a chôr siambr i enwi ond rhai. Dwi hefyd wedi cael y cyfle i ddatblygu fy sgiliau arwain drwy arwain y côr siambr yn yr Ŵyl Gerdd Ieuenctid Genedlaethol yn Neuadd y Dref, Birmingham. Gwnaethom gyflwyno rhaglen amrywiol o ragoriaeth gorawl. Cyfleoedd fel gweithio mewn cerddorfeydd pwll a hyd yn oed perfformio concerto organ Handel yn Symffoni F a symudiad cyntaf Mozart yn G leiaf. Ni allaf gymeradwyo'r Academi Gerdd yn gryfach – mae'n amhosib sôn am yr holl brofiadau rwyf wedi'u hennill o'm dwy flynedd yng Ngholeg Castell-nedd. Rwy'n gwybod yn sicr fy mod i wedi ennill ffrindiau gydol oes a'r arfwisg angenrheidiol i wynebu bywyd cyffrous creu cerddoriaeth broffesiynol”.
Peirianneg
Mae peirianneg yn faes hynod o gyffrous â llawer iawn o opsiynau astudio a gyrfa gwahanol. Mae ein cyrsiau ardderchog yn eich galluogi i feithrin y sgiliau a'r wybodaeth i symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg uwch.
Bydd gyrfa mewn peirianneg yn cynnig cyflog ardderchog, llawer o amrywiaeth yn eich gwaith a lefelau uchel o foddhad yn y swydd. Pa bynnag ddisgyblaeth a ddewiswch, gall adeiladu sylfaen gref o wybodaeth gyda chwrs Peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC eich roi ar ben ffordd ar eich taith i lwyddiant.
Mae ein perthynas agos gyda'r diwydiant yn sicrhau ein bod yn cyd-fynd â'r datblygiadau technolegol diweddaraf, gan roi'r hyfforddiant gorau posibl i chi.



Beth fyddaf yn ei wneud?
Peirianneg Fecanyddol/Cynnal a Chadw
Mae Peirianneg Fecanyddol/Cynnal a Chadw yn cynnwys nifer o wahanol lwybrau gan gynnwys dadansoddi, dylunio, gweithgynhyrchu a chynnal a chadw systemau mecanyddol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o gysyniadau allweddol. Mae Peirianwyr Mecanyddol/ Cynnal a Chadw yn defnyddio'r egwyddorion hyn ac eraill wrth ddylunio a dadansoddi elfennau arbenigol mewn amrywiaeth o sectorau.
Mae ein gweithdai a'n hystafelloedd dosbarth at y diben i safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar a chyfrifiaduron o'r radd flaenaf. Mae'r gweithdai yn cynnwys turnau â llaw, peiriannau melino a meinciau peirianneg, tra bod gweithdai ac ystafelloedd dosbarth arbenigol ar wahân yn cynnwys Peiriannau Rhifiadol Haas soffistigedig a reolir gan gyfrifiadur mewn melino a thurnio, Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a thechnoleg argraffu 3D. Mae ein gweithdy hydroleg a niwmateg/electro-niwmateg yn gartref i lawer o rigiau prawf hanfodol ac mae'r cyfarpar hwn o fewn y diwydiant yn hanfodol ar gyfer profi ac asesu gallu a pherfformiad cydrannau at ddefnydd diwydiannol.
Saernïo a Weldio
Mae ar y diwydiant ffabrigo a weldio angen pobl fedrus iawn ac mae llawer o gyfleoedd gwaith. Mae cyflogaeth mewn meysydd fel ynni, olew a nwy, cynnal a chadw peirianneg a gweithgynhyrchu diwydiannol i gyd yn hygyrch gyda chymhwyster yn y ddisgyblaeth hon. Bydd ein darlithwyr medrus iawn yn eich cefnogi a'ch tywys drwy sgiliau sylfaenol y diwydiant hwn a bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs yn deall sut mae weldio yn integreiddio i mewn i system beirianneg.
Mae ein gweithdai ffabrigo a weldio a adeiladwyd yn bwrpasol at safon y diwydiant yn gartref i gyfarpar o ansawdd uchel, sy'n cwmpasu pob agwedd ar gymwysiadau weldio yn cynnwys Nwy Anadweithiol Metel (MIG), Nwy Anadweithiol Twngsten (TIG), Arc Metel â Llaw (MMA) a Pheiriannau Plasma a reolir gan gyfrifiadur (CNC) Profi Dinistriol/Annistrywiol (DT/NDT).
Rhagolygon gyrfa q Cysylltiadau cryf gyda dros 100 o gyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol q Cyfleoedd dilyniant gwych i'r brifysgol a rhaglenni prentisiaeth rhagorol q Cyfleusterau peirianneg tra chyfoes o'r radd flaenaf q Cyrsiau sy'n cyfateb i safonau'r diwydiant i ateb y sgiliau gofynnol q Sector diwydiant sy'n tyfu, y mae galw mawr amdano