
1 minute read
Galwedigaethol Galwedigaethol
Llwyddiant Myfyrwyr
Cymerodd saith o fyfyrwyr Cyfrifiadura a TG hynod o dalentog ran yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ddiweddar, gan ennill bron hanner y prif safleoedd yn y categorïau Seiberddiogelwch, Sgiliau Codio a Dylunio'r We.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, sy'n cael ei chyflwyno gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth mewn Sgiliau yng Nghymru ar ran y Rhwydwaith Llysgenhadon Sgiliau, wedi'i chynllunio i godi proffil sgiliau yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar feysydd twf ac anghenion yr economi, mae'r gystadleuaeth yn hwb i sgiliau gweithlu'r dyfodol.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi'i halinio i WorldSkills, gyda nifer o gystadleuwyr yn mynd ymlaen i gystadlu yng nghystadlaethau WorldSkills y DU.

Dylunio Gwe Aur: Juned Miah
Dylunio Gwe Arian: Oliver Smith
Codio Efydd: Rhys Watkins

Sgiliau Cynhwysol TGCh Arian: Holly Davies
"Rwy'n hynod o falch o'r holl fyfyrwyr a fu'n cystadlu. Mae'n gyflawniad arbennig sy'n dangos y dalent sydd yma yng Ngrŵp Colegau NPTC ac mae hefyd yn tystio i'r arbenigedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan ein staff addysgu." Eira Williams Cyfarwyddwr Astudiaethau
Enillion blynyddol cyfartalog
Rhaglennydd Cyfrifiaduron £30k
Technegydd TG £30k
Dadansoddwr Busnes £49k
Peiriannydd Meddalwedd £32k
Dadansoddwr
Seiberddiogelwch £31k
Pensaer Systemau £50k

Technegydd Cymorth
Cyfrifiaduron/Rhwydwaith £19k
Croesawodd Grŵp Colegau NPTC sêr gemau Cymru John Jackson sydd hefyd wedi'i adwaen fel Slayer a Lois Samuel sydd hefyd wedi'i adwaen fel Kitsch i agor y cyfleuster E-gampau newydd sbon yng Ngholeg Castell-nedd yn ffurfiol. Chwarae gemau fideo cystadleuol yw E-gampau ac mae wedi bodoli ers rhai blynyddoedd bellach. Gall fod fel unigolyn neu chwarae mewn tîm ac mae'r timau yn gweithio gyda'i gilydd fel y byddent mewn campau traddodiadol ac yn chwarae yn erbyn chwaraewyr eraill o bedwar ban byd. Nid chwarae gemau yn unig yw diwylliant E-gampau, gall helpu unigolion i roi hwb i feddwl strategol, gwaith tîm, cyfathrebu, arweinyddiaeth, sgiliau perfformiad a magu hyder. Roedd gan Lois Samuel, sy'n Llysgennad Benywaidd E-gampau Cymru ac yn gyn-fyfyriwr Grŵp Colegau NPTC, y neges hon ar gyfer unrhyw ferched sydd am gymryd rhan mewn E-gampau:
“Ewch amdani, does dim ots eich bod chi'n ferch. Jyst ewch a gwneud e, achos gwnes i eistedd i lawr a meddwl, Alla i ddim wneud dim byd yn E-gampau achos dwi'n ferch a nawr dwi'n llysgennad, yn hyfforddwr ac yn chwarae League of Legends bob dydd. Os ydych chi'n wirioneddol frwd dros chwarae gemau, peidiwch â gadael i neb ddweud wrthych na allwch chi ei wneud oherwydd y gallwch chi yn bendant.”
Cymerodd timau'r coleg ran yn eu gemau E-gampau cyntaf ar y 26ain o Ionawr 2022, gyda thîm Cigfrain Rhuddgoch NPTC yn chwarae Overwatch a Thaflegrau Hud NPTC yn chwarae Rocket League.

Gweithredydd Cyfrifiaduron £23k
Gweinyddydd Systemau, Cyfrifiaduron/Rhwydwaith £26k
Arbenigwr Cymorth Technegol £24k
Dadansoddwr
Seiberddiogelwch £31k
Peiriannydd Diogelwch
Rhwydwaith £36k