3 minute read

Peirianneg Sifil a RHEoli ADEiladwaITh

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Mae Peirianwyr Sifil yn creu, gwella ac yn diogelu'r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. Mae'r ddisgyblaeth yn ymdrin â dylunio, adeiladu a rheoli ein hamgylchedd adeiledig ffisegol a naturiol gan gynnwys ffyrdd, adeiladau a phontydd.

Mae BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Adeiladwaith a Pheirianneg Sifil yn gyfwerth â 3 Lefel A ac yn garreg gamu wych i'r brifysgol. Dyma ddull gwych o fwynhau ffordd fwy ymarferol o ddysgu ac i'r rhai sydd â diddordeb mewn Pensaernïaeth, Adeiladau, Dylunio neu efallai yn ystyried bod yn Syrfëwr Meintiau.

Mae'r cwrs yn cwmpasu 18 uned sy'n cynnwys lluniadu CAD, Arolygu Safleoedd, Rheoli Prosiectau, Manylu Graffigol mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig, ynghyd ag Iechyd, Diogelwch a Lles.

Mae'r asesu ar ffurf profion cyfnod o fewn y cwrs, aseiniadau ac ymarferion ymarferol.

Cyrsiau

Rhagolygon gyrfa

Mae'r cyfleoedd gyrfa yn y sector adeiladwaith a pheirianneg sifil yn ddiddiwedd, gan gynnwys proffesiynau megis Pensaernïaeth, Pensaernïaeth Fewnol, Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu, Arolygu Meintiau, Rheoli Safleoedd, Arolygu Adeiladau, Peiriannydd Adeileddol a Pheirianneg Sifil.

Mae'r galwedigaethau technegol a phroffesiynol yn y sector yn symud yn gyflym ac yn heriol. Gallech fod yn gofalu am brosiect yr holl ffordd o'r llwyfan dylunio i'r gwaith adeiladu a chwblhau. Efallai y byddai'r prosiectau hyn yn cynnwys datblygu ac adeiladu pontydd, twneli, ffyrdd, rheilffyrdd, argaeau, adeiladau mawrion, prosiectau arfordirol, pwerdai yn ogystal â safleoedd ynni adnewyddadwy newydd.

Hefyd, gallech barhau â phrentisiaethau technegol neu broffesiynol ar lefel 3 a 4, Addysg Uwch, HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig, HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil), HNC Lefel 4 mewn Adeiladwaith a'r Amgylchedd Adeiledig (Arolygu Meintiau).

Cyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Yrfa Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad blynyddol cyfartalog

5 TGAU graddau A*-C i gynnwys Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg a Gwyddoniaeth. 6 TGAU os mai dim ond Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg a gyflawnir. BTEC Tystysgrif Gyntaf neu Ddiploma mewn Adeiladwaith ar lefel Teilyngdod neu Ragoriaeth.

Hyfforddeion a Phrentisiaid

Graddedig £18k-£28k

Peiriannydd Sifil Graddedig £23k-£28k

Peiriannydd Sifil Siartredig (ICE) £50k

Cymrawd Peiriannydd Sifil (ICE) £81k

Rheolwr Prosiect £45k-£60k

Syrfëwr Meintiau £35k-£60k

Pensaer £45k-£80k

Cyfrifadura a ThechnoLEg Ddigidol

Gyda chyflogaeth yn y diwydiannau cyfrifiadura a digidol ar fin tyfu ar bum gwaith y cyfartaledd cenedlaethol dros y degawd nesaf, mae cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol yn prysur ddod yn un o'r gyrfaoedd sy'n denu'r tâl uchaf yn y DU. Mae'r diwydiant cyfrifiadura'n tyfu'n gyflymach na gweddill economi'r DU, gan greu cyfleoedd swyddi sy'n talu'n dda gyda 1.58 miliwn o swyddi ledled y DU.

Y prif sectorau i weithio ynddynt yw datblygu meddalwedd ac apiau, rheoli data, seiberddiogelwch, dadansoddi data, caledwedd, dyfeisiau a chaledwedd ffynhonnell agored. Mae ein holl gyrsiau amser llawn wedi'u hanelu at fyfyrwyr sydd am ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol. Byddwn yn eich helpu i gyrraedd eich nodau personol, gyrfa a chyflogaeth, p'un a ydych yn gadael yr ysgol, mewn gwaith, neu'n dymuno gwella eich sgiliau cyfrifiadura.

Mae cyn-fyfyrwyr bellach yn gweithio fel datblygwyr meddalwedd, datblygwyr CRM deinamig, dadansoddwyr data, technegwyr cymorth a gweithrediadau TG, datblygwyr y we ac e-fasnach, dadansoddwyr warws data a dadansoddwyr systemau.

Mae gan ein darlithwyr ymroddedig brofiad o'r sector ynghyd â gwybodaeth benodol am y pwnc. Mae'r gwersi'n datblygu mewn ffyrdd creadigol gydag astudiaethau achos ac enghreifftiau o fywyd go iawn. Gall y myfyrwyr ymgymryd â phrofiad gwaith mewn diwydiant.

Mae'r adran yn defnyddio caledwedd a meddalwedd modern, megis Adobe Creative Suite, Visual Studio Community, Visual Studio Code, Java, Audacity a Game Maker, Unity, Maya, React Native, VM Ware, macOS, Windows, Linux ac Oculus Quest 2. Darperir pob un o’r cyrsiau mewn labordai TG pwrpasol gydag ystafell arbenigol ar gyfer darparu adeiladu PC a datblygu rhwydweithiau.

Ar hyn o bryd, mae cyflawniad ar ein rhaglenni yn 99%, ac mae 100% o fyfyrwyr BSc yn cael gwaith mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura o fewn tri mis i raddio.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn archwilio sut y caiff cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol eu defnyddio yn y diwydiant drwy ddatblygu gwybodaeth, sgiliau technegol ac ymarferol sy'n benodol i'r sector, ynghyd â sut i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn amgylchedd gwaith.

Rhagolygon gyrfa uwch yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith.

Mae'r mwyafrif o'r myfyrwyr ar gyrsiau cyfrifiadura a thechnoleg ddigidol yn mynd ymlaen i Addysg Uwch ac yng Ngrŵp Colegau NPTC, gallwn gynnig graddau i'n myfyrwyr ar garreg eu drws. Mae gennym lwybr dilyniant delfrydol lle, ar ôl cwblhau'r Diploma Estynedig Lefel 3 neu raglen safon Uwch mewn disgyblaeth gysylltiedig yn llwyddiannus, gall myfyrwyr symud ymlaen i'r HND mewn Cyfrifiadura (2 flynedd) ac yna'r BSc (Anrh) mewn Cyfrifiadura Cymhwysol (blwyddyn 3).

I symud ymlaen i Addysg Uwch neu i gael cyflogaeth mewn amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau â ffocws technoleg, mae llawer o fyfyrwyr yn astudio cyrsiau cyfrifiadurol. Mae rhai o'r sefydliadau sy'n cyflogi myfyrwyr a graddedigion o'r gorffennol yn cynnwys Fujitsu, CBSCNPT, The Good IT Company, BVG Group, Tech-Wales Ltd, Box UK, DVLA, CGI, Arvato CRM Solutions a Virgin Media.

Noder, os ydych yn ystyried addysgu fel gyrfa, mae angen TGAU ar radd B neu'n uwch mewn Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth. Ar gyfer cyrsiau Cyfrifiadureg mae rhai prifysgolion yn gofyn am o leiaf radd B mewn Mathemateg TGAU.

Rhagolygon Gyrfa Posib: Dylunio a Datblygu Meddalwedd/Apiau, Fforensig Seiber, Dylunio a Datblygu Gemau, Dylunio/Datblygu'r We, Dadansoddi Systemau, Datblygu / Gweinyddu Cronfeydd Data, Cymorth Technegol, Rhwydweithiau a Diogelwch.

Gellir gwneud ceisiadau gan ddysgwyr sydd wedi bod allan o addysg orfodol ers 3 blynedd neu fwy a/neu nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau ffurfiol.

This article is from: