
1 minute read
BusnES, TwrisTIaeth a RHEolaeth
Mae busnes a phynciau cysylltiedig megis cyllid, cyfrifeg, rheolaeth ac economeg ymhlith y meysydd astudio mwyaf poblogaidd mewn prifysgolion ledled y byd. Y rheswm am hyn yw bod galw mawr am raddedigion busnes ledled y byd, a bod busnes yn cyffwrdd â phob agwedd ar gymdeithas ddynol fodern bron iawn. Mae gyrfaoedd â gradd busnes yn amrywiol ac yn aml yn denu cyflog uchel.
Mae'r Ysgol Busnes, Twristiaeth a Rheolaeth yn adlewyrchu'r sector llwyddiannus a deinamig hwn, gyda staff yn dod â chydbwysedd o ragoriaeth academaidd ac arbenigedd y diwydiant i sicrhau profiadau dysgu ysgogol a chadarnhaol. Mae teithio a thwristiaeth yn ddiwydiant deinamig sy'n newid yn barhaus. Mewn astudiaeth ddiweddar, dywedodd Deloitte mai twristiaeth yw'r sector sy'n tyfu gyflymaf yn y DU ers bron i ddeng mlynedd! Mae'r sector twristiaeth yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth yn fyd-eang, yn genedlaethol ac yn lleol.
Yn y pedair blynedd ddiwethaf, cynyddodd cyflogaeth yn y sector twristiaeth yn ne Cymru o 29,000 i 31,100 gyda thwristiaeth yn cyfrif am 10% o'r swyddi yng Nghymru.


Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r Coleg yn ymrwymedig i wella sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol. Mae'r myfyrwyr ar yr holl gyrsiau yn cael eu hannog i ddatblygu eu sgiliau sylfaenol sy'n hanfodol i sicrhau llwyddiant gyrfaol.
Enillion blynyddol cyfartalog
Cyfrifydd £62k
Rheolwr Marchnata £50k
Mae'r adran yn cynnig gweithdai wedi'u cynnal gan bobl fusnes brofiadol, ac mae cysylltiadau o'r radd flaenaf gyda busnesau lleol yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael dealltwriaeth fanwl o sut y caiff cwmnïau eu rheoli a'u rhedeg.
Fel myfyriwr twristiaeth byddwch wedi integreiddio'n dda yn y gymuned, yn cynllunio ac yn cefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau twristiaeth ac yn ennill sgiliau gwerthfawr ym meysydd estynedig twristiaeth.
Rhagolygon gyrfa q Cyfrifeg q Gweinyddu busnes q Criw awyrennau q Llongau mordaith q Rheoli digwyddiadau q Cyfrifeg fforensig q Rheoli gwestai q Adnoddau dynol q Marchnata q Cynrychiolydd dramor q Twristiaeth wledig q Brocer stoc q Rheoli a datblygu twristiaeth q Gwaith mewn asiantaeth teithio q Rheoli atyniadau i ymwelwyr q Cynllunio priodasau.
Gweithredydd Teithiau £24k
Cynllunydd Digwyddiadau £29k
Sophie Millard
Cwrs: Lefel 3 Teithio a Thwristiaeth

Cyflawnwyd: Seren Rhagoriaeth Ddwbl (D*D*)
Cyrsiau
Beth yw dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol?
“Rwyf wedi cael fy nerbyn i Brifysgol Manceinion i astudio Cysylltiadau Rhyngwladol.”
“Fe wnes i fwynhau gwneud Teithio a Thwristiaeth oherwydd iddo fy ngalluogi i ddysgu am lawer o wahanol agweddau ar fusnes yn y diwydiant twristiaeth a'r tu hwnt iddo. Ces i'r cyfle i wneud ambell i daith cyn Covid a gwneud ffrindiau newydd oherwydd hyn, felly fe wnes i fwynhau fy amser ar y cwrs yn fawr iawn.’’

