1 minute read

GwyddONiaeth Gymhwysol

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Mae'r cwrs Gwyddoniaeth Gymhwysol yn eich arfogi ag amrywiaeth o sgiliau gwahanol a sylfaen wybodaeth wyddonol eang sy'n rhychwantu bioleg, cemeg a ffiseg, gan roi cyfleoedd i chi wneud cais i ystod eang o gyrsiau prifysgol.

Mae gan y BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 lwybr cyffredinol cymhwysol a llwybr arbenigol dewisol rhwng uned fiomeddygol ac uned wyddoniaeth fforensig.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys 60% o waith cwrs, tra bod 20% yn seiliedig ar arholiad ac 20% o waith cwrs wedi'i farcio'n allanol. Rhai o'r unedau y byddwch yn eu hastudio yw gwyddoniaeth fiofeddygol, tystiolaeth fforensig, casglu a dadansoddi, egwyddorion a chymwysiadau gwyddoniaeth, sgiliau ymchwilio gwyddonol, technegau labordy, ffisioleg systemau'r corff dynol, materion cyfoes mewn gwyddoniaeth a chemeg organig.

Bydd gofyn i chi ymgymryd â rhaglen o aseiniadau drwy gydol y cwrs, ac arholiadau allanol mewn dwy uned. Bydd y rhain yn cynnwys asesu sgiliau ymarferol a'r gallu i weithio'n ddiogel. Mae'n hanfodol eich bod yn drefnus iawn ac yn cwrdd â therfynau amser.

Rhagolygon gyrfa

Mae gyrfaoedd posibl yn cynnwys biocemegydd, radiolegydd, radiograffydd, awdiolegydd, cemegydd, biolegydd, parafeddyg, ceiropractydd, gofal iechyd, peiriannydd cemegol a gwyddor fforensig.

Cyrsiau

Llwyddiant Myfyrwyr

Ellie Pits: Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Fforensig

Pam y gwnaethoch chi ddewis y cwrs hwn?

“I ddechrau roeddwn i eisiau astudio Troseddeg yn y brifysgol felly penderfynais gymryd gwyddoniaeth fforensig i gael y profiad ymarferol yn ogystal â'r profiad yn y llys.

Yn y coleg, fe gyrhaeddais rowndiau terfynol WorldSkills Cenedlaethol y DU yn yr NEC yn Birmingham, lle cefais ganmoliaeth uchel, sy'n golygu fy mod i'n un o'r goreuon yn y DU. Roedd yn un o brofiadau gorau fy mywyd, a byddwn yn argymell bod unrhyw fyfyriwr sy'n meddwl am gystadlu yn mynd amdani. Mae'n edrych yn wych ar eich CV neu gais UCAS ac yn rhoi llawer o hyder i chi.

Ar ôl y Coleg rwy'n bwriadu mynd i'r brifysgol i astudio Gwyddoniaeth Fforensig, yna Meddygaeth i ddod yn Batholegydd Fforensig yn y pen draw."

Enillion blynyddol cyfartalog

Gwyddonwyr Biolegol a Biocemegwyr £45k

Archwiliwr Safleoedd Troseddau

£17k-£35k

Troseddegydd £25k-£28k

Ymchwilydd Tân £70k

Gwyddonydd Fforensig £20k

Radiograffydd £40k

Parafeddyg £36k

Lefel Gofynion Mynediad Hyd Lleoliad BTEC Diploma Estynedig mewn

Cyrsiau sy’n Canolbwyntio ar Yrfa

3

5 TGAU gradd A-C, gan gynnwys graddau C mewn Gwyddoniaeth Ddwbl.

2 Flynedd Castellnedd BTEC Tystysgrif Estynedig mewn

6 TGAU gradd A-C, yn cynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth Ychwanegol a Saesneg ar radd C neu uwch. 2 Flynedd Castellnedd

Mynediad i AU – Gofal Iechyd 3

Mynediad i AU - Gwyddoniaeth 3

Mae'r cwrs hwn yn darparu ar gyfer myfyrwyr 19 oed a throsodd sy'n gobeithio dychwelyd i addysg. Bydd angen gradd C mewn TGAU Saesneg a D mewn TGAU Mathemateg neu gyfwerth ar fyfyrwyr. Fodd bynnag, bydd gofyn i'r rhai heb y graddau hyn sefyll asesiad sgiliau cychwynnol cyn ymrestru, ac yna cyfweliad.

Blwyddyn Castellnedd

Blwyddyn Castellnedd

This article is from: