
1 minute read
Therapïau Cymhwysol gan gynnwys Therapi HArddwch a CHElfyddyd Coluro
Mae'r diwydiant harddwch a therapïau cymhwysol heddiw yn sector hynod ddiddorol, sy'n ehangu ac yn newid yn barhaus. Os ydych chi'n arloesol ac yn uchelgeisiol, nid oes unrhyw gyfyngiad ar eich potensial, boed mewn cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth, coluro, bod yn berchennog salon, therapydd harddwch neu sefydlu eich cwmni harddwch eich hun!
Nid oes gan unrhyw ddiwydiant arall alw byd-eang mor gyson am unigolion cymwys, creadigol sydd wedi'u hyfforddi'n dda.
Mae'r diwydiant harddwch/therapïau cymhwysol yn cynnig cyfleoedd disglair gyda gyrfaoedd yn y diwydiant ffasiwn fel artist coluro neu steilydd. Mae arbenigeddau fel effeithiau arbennig theatrig a choluro ar gyfer y cyfryngau yn cynnig y cyfle i weithio tu ôl i'r llenni mewn ffilm, theatr a theledu. Yr annibyniaeth i ddechrau eich salon neu'ch sba eich hun neu hyd yn oed ddod yn hyfforddwr yn y coleg ac ysbrydoli eraill i ymuno â'r busnes.

Enillion blynyddol cyfartalog
Therapydd
Beth fyddaf yn ei wneud?
Fel rhan o Academi Lee Stafford ar gyfer Trin Gwallt, Gwaith Barbwr a Therapïau Cymhwysol, byddwch yn cael eich addysgu mewn salonau blaenllaw y diwydiant gan weithwyr proffesiynol medrus iawn sydd â chyfoeth o wybodaeth am y diwydiant harddwch. Bydd cyrsiau'n ymdrin â choluro, therapïau tylino a chymwysiadau esthetig technegol megis siapio aeliau, lliwio amrannau ac aeliau, cwyro, trin dwylo, trin traed yn ogystal ag anatomeg a ffisioleg, y croen a thwf gwallt. Bydd y llwybr coluro theatrig/effeithiau arbennig yn golygu gweithio gyda phrosthetigau, postiche a cholur effeithiau arbennig.

Rhagolygon gyrfa
Artist coluro theatrig, dermatolegydd, technegydd amrannau, technegydd ewinedd, perchennog sba, therapydd harddwch llawrydd, ysgrifennwr harddwch, flogiwr harddwch.
Harddwch £21k mewn salon
Artist Coluro £40 yr awr (llawrydd)
Llwyddiant Myfyrwyr
Mae Ariyarnna Tidbury wedi llwyddo i gyrraedd yr wyth olaf yng Nghystadleuaeth Ymarferydd Harddwch WorldSkills sydd i'w chynnal yn Blackpool.
Daw hyn yn sgil ei llwyddiant yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru ble y llwyddodd i ennill medal Efydd.
Mae'r gystadleuaeth WorldSkills yn canolbwyntio ar rôl a thasgau Ymarferydd Therapi Harddwch yn cyflawni ystod o wasanaethau sy'n adlewyrchu safonau cyfredol a thraddodiadol ynghyd â gofynion presennol y diwydiant.
Cyrsiau
a
Bydd cystadleuwyr yn cael eu profi ar sgiliau iechyd a diogelwch, gofal cleientiaid a chyfathrebu eithriadol yn ogystal ag arddangos sgiliau arbenigol a gwybodaeth dechnegol ar y lefel uchaf.
Meddai'r darlithydd Harddwch a Therapi Cymhwysol Lisa Brandon: gradd C neu uwch (neu gymhwyster Lefel 2 mewn Harddwch/Trin Gwallt). Mae angen i fyfyrwyr aeddfed gael cyfweliad llwyddiannus.

'Rwy'n hynod falch o holl gyflawniadau Ariyarnna ac mae cyrraedd y rownd derfynol yn dangos pa lefel sgiliau ac ymroddiad sydd ganddi'.
Blwyddyn Afan