8 minute read

Galwedigaethol

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Celf, DylunIO a’r Cyfryngau Creadigol

Yng Ngrŵp Colegau NPTC, byddwn yn eich helpu, eich cefnogi a'ch arwain ar eich ffordd i fod yn rhan o'r sector deinamig hwn sy'n symud yn gyflym iawn. Amcangyfrifwyd bod gan y DU 2.29m o swyddi yn y diwydiannau creadigol yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi 2021, gan gynnwys 1.62m o swyddi parhaol, yn ôl ystadegau swyddogol. Roedd 663,000 arall o swyddi'r diwydiant creadigol yn hunangyflogedig.

Yn gyffredinol, nid yw cyflogaeth yn y diwydiannau creadigol wedi dioddef yn ystod y pandemig cymaint ag yr oedd wedi'i ofni ar y cychwyn. Roedd y diwydiannau creadigol yn gyfrifol am 6.9 y cant o holl swyddi'r DU ym mis Medi. Mae hyn i fyny o 5.8 y cant yn 2015, ac ers hynny mae'r diwydiannau creadigol wedi ychwanegu tua 400,000 o swyddi newydd yn y DU.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Dysgir gwersi mewn amgylchedd creadigol, gan ddefnyddio'r cyfarpar diweddaraf at safon y diwydiant o fewn cyfleusterau arbenigol a adeiladwyd yn bwrpasol.

Darperir nifer o gyfleoedd ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth ac Amlgyfrwng i arddangos gwaith o fewn y Coleg ac mewn digwyddiadau cyhoeddus allanol. Mae myfyrwyr y cyfryngau yn gweithio ar brosiectau 'byw', gan gysylltu â chleientiaid a sgrinio eu darn olaf o waith.

Bydd llawer o fyfyrwyr yn symud ymlaen i'r cwrs Blwyddyn Sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Afan, cwrs sy'n gymhwyster mynediad gofynnol gan lawer o brifysgolion.

Pan ychwanegir swyddi creadigol sydd y tu allan i'r diwydiannau creadigol hefyd - i gyfrif cyfanswm swyddi yr hyn a elwir yn economi greadigol y DU - mae'r cyfanswm wedi cyrraedd 3.12 miliwn sy'n golygu bod 1 o bob 11 swydd yn rhan o'r diwydiant hwn.

Mae ein darlithwyr yn artistiaid gweithredol felly byddwch yn dysgu gan y rhai sy'n dal i chwarae rhan hanfodol yn sector y diwydiannau creadigol, gan roi cyfle i chi archwilio eich talent greadigol bersonol yng nghyd-destun maes diwylliannol ehangach ac i'w llywio, ei newid, a gwneud gwahaniaeth.

Yn y ganolfan ddysgu greadigol hon, byddwch yn gwneud cynnydd ac yn bwysicach oll, yn mynd yn gyflogadwy iawn –rydym yn anelu at eich helpu i fod yn barod am yrfa!

Rhagolygon gyrfa

q Penseiri q Treftadaeth y Celfyddydau q Crefftwr q Dylunydd q Cyfarwyddwr q Cynhyrchydd Ffilmiau q Artist Cain q Dylunydd Graffig q Ffotograffydd q Gwneuthurwr Argraffu q Dylunydd Cynnyrch q Dylunydd Propiau a Setiau q Cynllunydd Gofodol, Mewnol a Thirlun q Artist Tatŵ q Athrawon ac Addysgwyr q Fideograffydd q Dylunydd Gwe. https://cvp.nptcgroup.ac.uk

Diploma Sylfaen LEfel 3/4 mewn Celf a DylunIO

Mae Diploma Sylfaen Lefel 3/4 mewn Celf a Dylunio yn gwrs Addysg Bellach llawn amser sydd wedi'i ddylunio ar gyfer myfyrwyr hŷn sydd eisiau gweithio yn niwydiant y Celfyddydau Creadigol, gan ddarparu cyfleoedd dilyniant i gyrsiau a gyrfaoedd lefel uwch cyffrous a gwerth chweil. Mae'r rhain yn cynnwys Celfyddyd Gain, Graffeg, Ffotograffiaeth, Ffasiwn, Tecstilau a Dylunio 3D a llawer mwy.

Rhaglen weledol ac ymarferol yw'r cwrs yn bennaf, sy'n rhoi amser, y gefnogaeth a'r amgylchedd i fyfyrwyr ddarganfod eu cryfderau unigol.

Wedi'i gyflwyno mewn awyrgylch brwdfrydig, cyfeillgar a chefnogol lle mae myfyrwyr yn datblygu eu hymagwedd unigol yn hyderus. Anogir myfyrwyr i archwilio syniadau ffres a chyffrous ac i herio a datblygu eu sgiliau a'u galluoedd presennol.

Caiff y rhaglen ei chyflwyno trwy wersi, gweithdai, prosiectau byw, astudio unigol, trafodaethau mewn grwpiau a beirniadaethau mewn grwpiau; bydd arddangosiadau (technegol ac ymarferol) a darlithoedd yn cael eu hategu gan gymorth tiwtorial a chyflwyniadau seminar. Yn ystod y rhaglen bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i nodi eu cyfeiriad ar gyfer y dyfodol, cyrsiau lefel uwch a gyrfaoedd yn llwyddiannus.

Nodweddir y cwrs hwn gan ymagweddau eang, radical ac arbrofol at Gelf a Dylunio, gan alluogi cyrsiau Celf, Dylunio neu'r Cyfryngau ôl Lefel 3, fel AS/A2 neu Ddiploma Estynedig, ac i ddysgwyr aeddfed wneud dewisiadau gwybodus ynghylch gyrfa a llwybrau dilyniant.

Lleoliad Gofynion Mynediad

Afan Os ydych chi o dan 21 oed, mae'n rhaid bod gennych un o'r canlynol:

5 gradd TGAU lwyddiannus ar radd A * - C, (neu gyfwerth) ynghyd â Diploma Estynedig (gysylltiedig â Chelf a Dylunio) neu ddau bwnc UG NEU un Safon Uwch lawn a rhaid i chi fod dros 17 oed. Mae angen i bob myfyriwr gyflwyno portffolio o waith ymarferol yn y cyfweliad. Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr aeddfed.

Os ydych dros 21 oed ac â nifer cyfyngedig o gymwysterau ond mae gennych ddiddordeb yn y Cyfryngau Gweledol, cysylltwch â ni i siarad am sut y gallwn ni helpu chi.

Cyrsiau

Diploma Estynedig UAL

3 5 TGAU A*-C yn cynnwys Saesneg. Cymhwyster Lefel 2 perthnasol. Blwyddyn Castell-nedd

3 5 TGAU A*-C yn cynnwys Mathemateg neu Gymraeg/Saesneg . BTEC Diploma Lefel 2 mewn pwnc cysylltiedig ar radd Teilyngdod neu uwch. Mae angen i bob myfyriwr gyflwyno portffolio boddhaol o waith ymarferol yn y cyfweliad hefyd.

Diploma Sylfaen

3/4

1 Safon Uwch ar radd C neu Ddiploma Estynedig. Bydd myfyrwyr aeddfed (21 + oed) yn cael eu hystyried ar sail portffolio.

2 Flynedd Castell-nedd

Blwyddyn Afan

Gwobr Ysgolion Sirol Port Talbot am Fyfyriwr y Celfyddydau Gorau ar Safon Uwch

Wil Thomas & Jack Thomas

Dangosodd Will Thomas lefel uchel o ymrwymiad a phenderfyniad i gyflawni ei uchelgais o ennill lle yng Ngholeg Celf Plymouth, i ymgymryd â Gradd Ffotograffiaeth. Er gwaethaf rhwystredigaethau a chyfyngiadau'r cyfnod clo, fe aeth allan i'w gymuned i gofnodi effaith y pandemig. Roedd y delweddau a gynhyrchwyd yn ysgogi'r meddwl ac yn cynrychioli'r ymdeimlad o dynnu ynghyd yn ei ardal leol, ond hefyd effaith ynysu ar ei deulu. Gwobrwywyd ei ymdrechion gyda A* mewn Ffotograffiaeth. Yn wir, fe gafodd y lle hwnnw y dyhëwyd amdano yng Ngholeg Celf Plymouth.

Cynhyrchodd ein henillydd nesaf, Jack Thomas gorff eithriadol o waith a arweiniodd at radd A* anhygoel mewn Dylunio Graffeg ar Safon Uwch.

Rachael Lewis yw derbynnydd cyntaf Gwobr Ysgolion Sirol Port Talbot am y Myfyriwr Celfyddydau Safon Uwch Gorau gan ei bod yn unigolyn hynod greadigol sydd wir wedi gwthio ei hun allan o'i pharth cysur ar gyfer ei gwaith ar y cwrs Ffotograffiaeth. Yn ystod y cyfnod clo, bu i Rachael ddysgu ei hun sut i greu animeiddiad stop symud gan ddefnyddio Adobe Premiere. Creodd bob llun llonydd ei hun drwy arbrofi gyda phaentio ysgafn.

Roedd Rachael yn aelod hynod gadarnhaol o'i charfan ac roedd ganddi agwedd aeddfed a oedd yn aml wedi'i hadlewyrchu yn y gwaith a gynhyrchwyd mewn Celfyddyd Gain a Ffotograffiaeth.

Cyfarwyddwr

Creadigol

Uwch Ddylunydd

Graffeg

Llawrydd

£500 i £700+ y dydd

Llawrydd

£200 i £400 y dydd

Cyflogedig

£100k i £160k+

Cyflogedig

£35k i 55k

Mae dechrau gyrfa mewn atgyweirio mecanyddol neu gerbydau yn golygu gwarantu dyfodol o waith cyson. Gall dirywiad yn yr economi effeithio ar bobl yn prynu ceir newydd, ond bydd angen gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio ar gerbydau bob amser. Os ydych yn mwynhau cwrdd â gwahanol bobl bob dydd, gwneud gwaith ymarferol, gweithio gyda'r dechnoleg ddiweddaraf, neu fod gennych lygad creadigol neu gariad at waith adfer – yna mae gyrfa yn gweithio gydag unrhyw gerbyd yn aros amdanoch chi.

Mae'r adran Academi Fodurol yng Ngholeg Pontardawe'n gartref i Academi Cerbydau Modur o'r radd flaenaf, a noddir a hyrwyddir gan Snap-On Tools, sef y Rolls Royce o offer.

Mae'r adran Cerbydau Modur wedi tyfu yn 2022 wrth i rig cerbydau trydan penodedig a cherbyd Peugeot 208 a ddisgwyliwyd yn eiddgar i gefnogi'r cyfleoedd dysgu a hyfforddi ar gyfer technolegau cerbyd trydan newydd. Yn awr bydd dysgwyr yn cael hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddysgu am y cerbydau a'u technolegau diweddaraf.

Mae'r gweithdy hwn o'r radd flaenaf yn cynnwys deg ramp ceir, ramp alinio pob olwyn, bae profi ATL ar ffurf MOT a bae glanhau, ac amrywiaeth o offer diagnosteg Snap-on a Pico.

Mae ein cyfleuster newydd sbon yng Ngholeg Pontardawe wedi'i adeiladu at y diben i fanyleb y diwydiant, ac rydym yn ddiweddar wedi lansio gweithdy atgyweirio cyrff cerbydau modur newydd yno, gyda bythau chwistrellu modern, ystafell cymysgu paent, bwth adnewyddu olwynion a bae gwresogi dwysedd uchel o'r radd flaenaf a noddir ac a hyrwyddir gan gwmnïau megis deVilbiss tools.

Mae gan yr adrannau cerbydau modur yng Ngholeg Bannau Brycheiniog hefyd weithdai â'r holl gyfarpar angenrheidiol gyda lifftiau cerbydau pedwar postyn, dau bostyn a ffurf siswrn, offer profi diagnostig gan Bosch, Crypton, Pico, Autel a chyfleusterau glanhau chwistrellwyr uwchsain ASNU.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Nod ein cyrsiau yw archwilio adeiladwaith cerbyd ac atgyweirio difrod i'r cerbyd ei hun a'i gorff yn gywir yn barod i'w orffennu. Byddwch yn cwblhau cyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol a gyflawnir yn ein cyfleusterau rhagorol.

Rhagolygon gyrfa

Fel arfer ceir cyflogaeth i beirianwyr gyda garejys, cwmnïau trafnidiaeth, cwmnïau cludo nwyddau ffyrdd neu sefydliadau mawr gyda fflyd o gerbydau. Ar lefel technegydd byddwch yn cyflawni gwaith diagnostig medrus, gan gynnwys gwaith ar systemau electronig a systemau a reolir gan gyfrifiadur. Mae'r gwaith yn heriol ac yn rhesymegol, ac yn cynnwys llawer o waith datrys problemau. Mewn cwmnïau mwy o faint, mae fel arfer yn bosibl ennill dyrchafiad i swyddi goruchwylio a rheoli.

Mae gyrfaoedd ar yr ochr atgyweirio cyrff ac ailorffennu cerbydau modur fel arfer mewn garejys, busnesau cyrff cerbydau modur a'r diwydiant chwaraeon modur sy'n arbenigo mewn atgyweirio cerbydau ar ôl difrod mewn damweiniau. Mae'r sgiliau dan sylw o ran atgyweirio ac ailorffennu cerbydau modur yn amrywio o waith ar baneli i lanhau, weldio MIG ac unioni diffygion paent.

Llwyddiant Myfyrwyr

Mae'r prentis Ailorffennu Cerbydau Modur Joshua Jones wedi ennill lle yn y Rhaglen Ddoniau WorldSkills UK.

Ar hyn o bryd mae Josh yn ymgymryd â phrentisiaeth gyda Hyfforddiant Pathways (darparwr dysgu seiliedig ar waith y Coleg) ac mae'n treulio pedwar diwrnod yr wythnos ar leoliad mewn siop corff cerbydau yn Abertawe, 'Scuffed Up'

Mae taith Josh ar y Rhaglen WorldSkills UK Talent wedi ei weld yn cystadlu ledled Cymru a'r DU. Cymerodd arian yn rownd derfynol cystadleuaeth Sgiliau Byd Cymru ym mis Ionawr 2019 ac yna aeth ymlaen i gystadlu yn rowndoau cymhwyso WorldSkills UK (un o ddim ond deunaw o'r prentisiaid gorau yn y DU). Ei berfformiad ef yma enillodd le iddo yn rownd derfynol WorldSkills Live

Cyrsiau

Peirianneg Cerbydau

UK yn Nhachwedd 2019 ac yn y pen draw arweiniodd at ei ddewis ar gyfer y rhaglen ddoniau WorldSkills UK.

Mae Josh yn gobeithio un diwrnod i redeg ei siop corff cerbydau ei hun, ond tan hynny, mae'n mwynhau ennill wrth weithio i ddysgu.

Dywedodd: "Dwi wedi gweithio'n galed i gyrraedd lle ydw i nawr, gan wella fy nhechnegau yn gyson a hogi fy crefft, yn fy ngweithle ac yn ystod fy nyddiau astudio yn y Coleg. Bu'r gallu i weithio ar yr un pryd ag astudio yn amhrisiadwy, gan fy mod yn dysgu pethau newydd bob dydd yn Scuffed Up; mae gwahanol fathau o swyddi'n dod i mewn bob dydd ar bob math o geir, felly mae'n rhaid i chi allu addasu. Mae'r ymdeimlad o foddhad pan fydd cwsmer yn ein gadael ni'n hapus heb ei ail. Dwi'n mwynhau hynny'n fawr.” uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd.

Mae 4 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd.

Mae 5 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd.

Cerbydau Modur (Atgyweirio Cyrff)

Atgyweirio ac Ailorffennu

Cyrff Cerbydau (Paent)

1

2

Enillion blynyddol cyfartalog - Emsi: www.economicmodeling.com Gwnewch Gais Ar-lein b www.nptcgroup.ac.uk

Mae TGAU gradd D/E neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd.

Mae 4 TGAU gradd C neu uwch yn ddymunol, ond ystyrir profiad ymarferol hefyd.

Mecanydd £13k - £30k

Blwyddyn Bannau

Blwyddyn Pontardawe

Peiriannydd Cerbydau Modur £60k+ mewn uwch swyddi (Prospects.ac.uk)

Technegwyr Paent Cerbydau £18k - £40k

This article is from: