
2 minute read
Safon U
GwyddONiaeth a MatHEmateg
Gyda gyrfa mewn Gwyddoniaeth neu Fathemateg gallech wneud gwahaniaeth i gymdeithas. Gallech ddod o hyd i iachâd ar gyfer salwch marwol neu ddatblygu cynnyrch cyffrous, newydd i enwi dim ond dau o'r posibiliadau diddiwedd. Mae gennym un o'r adrannau gorau o ran cyfarpar yn yr ardal a chofnod cyson o ganlyniadau rhagorol. Mae'r holl bynciau gwyddoniaeth a mathemateg yn cael eu hystyried yn "bynciau hwyluso" gan brifysgolion Grŵp Russell, sy'n golygu y gallant fod yn ddefnyddiol ar gyfer mynd ar ystod eang o gyrsiau yn y prifysgolion gorau hynny.
Yn union fel y mae ieithoedd yn darparu'r blociau adeiladau a'r rheolau y mae eu hangen arnom i gyfathrebu, mae Mathemateg yn defnyddio ei hiaith ei hun, yn cynnwys rhifau, symbolau a fformiwlâu, i archwilio'r rheolau sydd eu hangen arnom i fesur neu nodi problemau hanfodol fel pellter, cyflymder, amser, gofod, newid, grym a meintiau. Mae astudio Mathemateg yn ein helpu i ddod o hyd i batrymau a strwythur yn ein bywydau. Yn ymarferol, mae Mathemateg yn ein helpu i roi pris ar bethau, creu graffeg, adeiladu gwefannau, adeiladu nendyrau a deall yn gyffredinol sut mae pethau'n gweithio neu'n rhagweld sut y gallent newid dros amser ac o dan amodau gwahanol.
Mae llawer o raddau yn syrthio i un o ddwy garfan: Gwyddorau Biolegol/Bywyd a Gwyddorau Ffisegol.
Mae Gwyddorau Biolegol/Bywyd yn raddau sy'n seiliedig ar Gemeg a Bioleg. Cyn belled â'ch bod yn dewis y ddau bwnc hyn ar Safon Uwch, bydd ystod eang o raddau ar agor i chi. Mae'r rhain yn cynnwys graddau sy'n arwain at lwybr gyrfa pendant, er enghraifft, Meddygaeth, Deintyddiaeth, Gwyddoniaeth Filfeddygol, Fferylliaeth, Dieteg; a graddau yn seiliedig ar ymchwil er enghraifft, Biocemeg, Gwyddor Deunyddiau Biofeddygol, Ffarmacoleg.
Mae Gwyddorau Ffisegol yn cynnwys cymhwyso
Mathemateg a Ffiseg yn ymarferol. Ar yr amod eich bod yn dewis y ddau bwnc hyn ar Safon Uwch, bydd ystod eang o raddau yn agored i chi, fel Peirianneg (Mecanyddol, Electronig/Trydanol a Sifil), Mathemateg, Ffiseg a Gwyddor Deunyddiau.
Os ydych chi'n wyddonydd/mathemategydd dawnus iawn, mae'n bwysig o'r pedair gwyddor sydd ar gael – Bioleg, Cemeg, Ffiseg a Mathemateg (sy'n cynnwys Mathemateg a Mathemateg Bellach) – eich bod chi'n dewis tri. Os ydych chi'n gwyro tuag at y Gwyddorau Bywyd, yna dylech ddewis Cemeg a Bioleg. Os ydych chi'n gwybod eich bod chi ar yr ochr Peirianneg, dylech ddewis Mathemateg (ac efallai Mathemateg Bellach) a Ffiseg.
Gyrfaoedd a Faint y Gallwn i ei Ennill?
Cyfrifydd £20k - £50k
Pensaer £25k - £90k
Graddedigion Bioleg £17k-£21k

Graddedigion Cemeg £18k-£25k
Archwiliwr Safleoedd Troseddau
£17k-£35k
Troseddegydd £25k-£28k
Ecolegydd £19k-£22k
Peiriannydd £20k - £60k
Meddyg Profiadol £30k

Ymchwilydd Tân £70k
Gwyddonydd Bwyd £20k-£25k
Gwyddonydd Fforensig £20k
Peiriannydd Deunyddiau
£20k-£26k
Ffisegydd Meddygol £25k
Meteorolegydd £20k
Graddedigion Ffiseg £17k-£28k
Meddyg Arbenigol £30k-£47k
Meddyg dan Hyfforddiant £22k
Milfeddyg £30k
Swolegydd £21k - £25k
Cyfuniadau pwnc nodweddiadol
Mae myfyriwr sy'n dda mewn gwyddoniaeth yn aml yn dewis Cemeg, Bioleg, Mathemateg a Ffiseg. Bydd hyn yn cadw'r holl opsiynau gwyddoniaeth/mathemateg yn agored yn y brifysgol.
Er mwyn cynnal agwedd ehangach ar fywyd, fodd bynnag, bydd llawer o fyfyrwyr yn y categori hwn yn disodli un o'r gwyddorau gyda phwnc sy'n ymwneud â'r celfyddydau/ dyniaethau neu wyddor gymdeithasol.