3 minute read

Safon U

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Mae Academi'r Chweched Dosbarth yng

Ngholeg Castell-nedd yn lle bywiog a deinamig i astudio gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf gan gynnwys ein Canolfan Academi'r Chweched Dosbarth newydd. Mae Academi'r Chweched Dosbarth yn rhoi amgylchedd cefnogol, meithringar ac academaidd i'n myfyrwyr yn ogystal i sicrhau eich bod yn cael eich herio i gyflawni eich llawn botensial. Mae Academi'r Chweched Dosbarth wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau ochr yn ochr â'u prif gwrs astudio. Felly, bydd y mwyafrif o'n dysgwyr yn cwblhau'r Dystysgrif Her Sgiliau. Byddwn yn eich paratoi ar gyfer bywyd prifysgol drwy annog dysgu annibynnol mewn amgylchedd chweched dosbarth.

Un o'r nifer fawr o fanteision o ran astudio yn Academi'r Chweched Dosbarth yw'r ystod eang o ddewisiadau pwnc. Rydym yn cynnig dros 38 o bynciau Safon Uwch ynghyd â chyrsiau galwedigaethol, TGAU, Mynediad i Addysg Uwch a'r cymhwyster TAR. Cyflwynir ein cyrsiau Safon Uwch gan staff profiadol sy'n arbenigwyr pwnc ac sy'n sicrhau cyfraddau llwyddo sy'n gyson uchel flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r cymorth y maent yn ei gynnig i fyfyrwyr heb ei ail gyda safonau uchel yn cael eu cynnal yn barhaus. Mae'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudiaethau pellach ac i symud i Addysg Uwch ac mae llawer ohonynt yn mynychu rhai o'r prifysgolion gorau yn y DU gan gynnwys Grŵp Russell a Rhydgrawnt.

Gall gwneud y dewis cywir ar gyfer astudiaethau safon UG/U fod yn allweddol i'ch llwyddiant. Felly bydd staff Academi'r Chweched Dosbarth yn bresennol i roi cyngor ac arweiniad cynhwysfawr i chi ynghylch y cyfuniadau o bynciau safon UG. Byddwn yn eich helpu i ddewis pynciau yr ydych yn eu mwynhau ac y mae gennych y cymhelliad i'w dysgu, a bydd hynny'n eich galluogi i symud ymlaen ar hyd eich llwybr gyrfa dewisedig.

Rhaglen Ragoriaeth Galluog a Thalentog (GATE)

Fel aelod o Academi'r Chweched Dosbarth, gallech fod yn gymwys i wneud cais am ein Rhaglen Ragoriaeth Galluog a Thalentog (GATE). Dyma raglen arbenigol strwythuredig o gefnogaeth i'r dysgwyr hynny sydd â chanlyniadau TGAU eithriadol (isafswm o 3A* a'r gweddill yn raddau A ar TGAU). Bydd y rhai sy'n gwneud cais i brifysgolion cystadleuol, yn enwedig y rheini yn Grŵp Russell, Rhydychen a Chaergrawnt, yn derbyn cymorth personol drwy ein Rhaglen Ragoriaeth Galluog a Thalentog. Mae gwneud cais i brifysgolion cystadleuol yn golygu mwy na graddau rhagorol yn unig. Mae'n rhaid i chi wneud dewis gwybodus ynghylch y pynciau yr hoffech eu hastudio, deall y broses a'r systemau dethol cystadleuol a chyflwyno ffurflen gais gaboledig a rhagori yn y cyfweliad.

Pan fyddwch yn rhan o raglen GATE, byddwch yn cael eich rhoi mewn grŵp tiwtorial penodol a fydd yn ateb eich anghenion a'ch dyheadau. Y nod yw ehangu eich gorwelion y tu hwnt i'ch dewis bynciau a hyrwyddo rhesymu a thrafod dadansoddol. Mae hyn yn amhrisiadwy o ran paratoi ar gyfer cyfweliadau prifysgol. Bydd rhai o'r meysydd a gwmpesir yn ystod sesiynau tiwtorial, yn cynnwys: q Prosesau a nodau gwleidyddol q Credoau, gwerthoedd ac ymresymu moesol q Goblygiadau moesegol ac amgylcheddol datblygu gwyddonol. Mae'r materion hyn yn gysylltiedig â digwyddiadau cyfredol.

CyfARtaLEddau canlyniadau

Grŵp Colegau NPTC Gradd Cenedlaethol

Adroddodd Estyn fod athrawon mewn dosbarthiadau Safon Uwch yn cyflwyno sesiynau bywiog sy'n ennyn diddordeb dysgwyr yn dda. Maent yn helpu i strwythuro dealltwriaeth dysgwyr o gysyniadau, ac yn eu hannog i ddatblygu diddordebau pynciol ehangach.

Cyflwyniad i SafON U

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i'ch paratoi ar gyfer astudio Safon UG neu gyrsiau Lefel 3. Mae’n gwrs academaidd a fydd eich galluogi i adeiladu ar eich proffil TGAU os nad ydych wedi cwrdd â’r gofynion mynediad priodol ar gyfer rhaglen Safon UG / UG/U neu Lefel 3, neu fod angen i chi wella eich proffil TGAU ar gyfer eich dewis yrfa.

Y Cymhwyster Prosiect Estynedig

Cewch gyfle i gwblhau cymhwyster y prosiect estynedig sy'n eich galluogi i ymchwilio, dylunio a chyflawni prosiect annibynnol a allai fod yn gysylltiedig â phwnc academaidd yr ydych yn ei astudio. Byddwch yn cael cymorth drwy gydol eich prosiect a byddwch yn cael cymorth arbenigol y staff addysgu perthnasol.

Trwy gwblhau'r cymhwyster hwn, byddwch yn: q Dod yn fwy beirniadol, myfyriol ac annibynnol yn eich dysgu q Datblygu a chymhwyso sgiliau gwneud penderfyniadau a datrys problemau q Cynyddu eich sgiliau cynllunio, ymchwilio, dadansoddi, syntheseiddio, gwerthuso a chyflwyno q Dysgu sut i gymhwyso technolegau newydd yn hyderus q Dangos creadigrwydd, symbyliad a menter

Bydd y rhaglen GATE hefyd yn rhoi'r cyfle i chi wella eich sgiliau ymhellach drwy gymwysterau a chystadlaethau ychwanegol.

Mae Grŵp Colegau NPTC yn rhan o Rwydwaith Seren:

Cefnogi Myfyrwyr Disgleiriaf Cymru sy'n anelu at gefnogi myfyrwyr disgleiriaf Cymru i gyflawni eu potensial academaidd a chael mynediad i'r prifysgolion gorau. Fel rhan o'r hyb, bydd myfyrwyr yn cael mynediad i: q wybodaeth gywir q darpariaeth gweithgareddau allgyrsiol q grŵp cyfoedion o fyfyrwyr sy'n cyflawni'n uchel q cysylltiadau â myfyrwyr prifysgol a graddedigion diweddar o gefndiroedd tebyg.

Drwy'r hybiau Seren, gallwn gynnig cymorth ac arweiniad ymarferol ychwanegol i fyfyrwyr sydd ei angen drwy gydol y broses ymgeisio. Bydd hyn yn fanteisiol wrth wneud cais i'r prifysgolion gorau. Mae'n gyfle gwych i ddisgyblion fod yn rhan o rwydwaith o fyfyrwyr o'r un anian sy'n rhannu nodau tebyg.

Gofynion mynediad

O leiaf 1 gradd C a 3 gradd D TGAU yn cynnwys Mathemateg neu Saesneg a phwnc Gwyddonol. Fel arall, gwybodaeth ddiweddar am weithio o fewn y pynciau hyn.

Y Camau Nesaf

Dilyniant uniongyrchol i ddetholiad o gyrsiau Safon UG/U neu gwrs Lefel 3 sy'n canolbwyntio ar yrfa yng Ngrŵp Colegau NPTC.

This article is from: