
1 minute read
Sut gwnaeth eIN prentisiaid?
Prentis Lefel 3 Gofal Clinigol:
“Fe wnaeth cwblhau fy Lefel 3 roi'r cyfle i mi symud ymlaen i swydd newydd mewn gwaith ac ymrestru yn y brifysgol. Roedd y cwrs yn wych, yn hyblyg ac roeddwn i'n cael fy nghefnogi'n gyfan gwbl gan Kelly, a oedd yn anhygoel. Methu ei argymell digon!"
Prentis Cerbydau Modur Lefel 3:
"Roedd cwblhau fy Mhrentisiaeth Cerbydau Modur yn brofiad gwych a chefais gefnogaeth wych gan fy aseswr i gyflawni fy Nghymhwyster L3! Alla i ddim argymell y cwrs hwn ddigon!"
Prentis Lefel 4 Arweinyddiaeth a Rheoli

"Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cwblhau fy NVQ. Rwyf wedi mwynhau'r cwrs hwn yn fawr iawn, er gymaint yr oedd yn heriol ac yn ysgogi'r meddwl: Rwyf wedi ei gymhwyso a byddaf yn parhau i wneud drwy gydol fy ngyrfa yn y dyfodol."
Mae Scott wedi bod yn diwtor ardderchog sydd wedi fy nghefnogi'n llwyr trwy'r cwrs hwn ac wrth astudio o bell: cyfathrebu â mi drwy e-bost, galwadau a negeseuon testun. Addasodd ei sgiliau addysgu yn briodol er mwyn parhau i diwtora yn ystod y cyfnod anarferol hwn. Daeth ei arddull addysgu â'r gorau allan ohonof a byddwn yn bendant yn ei argymell ef a'r cwrs hwn i'm cydweithwyr."

A oes gennych ddiddordeb?
Cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio ni: pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk Neu ffoniwch ni ar: 0330 818 8002
