
2 minute read
MAE'N TALU I Ddysgu
Os nad yw astudio'n amser llawn yn mynd â'ch bryd, yna efallai mai dysgu seiliedig ar waith yw'r union beth i chi. Mae rhaglenni at ddant pawb! Mae dysgu seiliedig ar waith yn rhoi'r cyfle i chi ennill profiad mewn swydd go iawn, yn ogystal â chyflawni cymwysterau swyddbenodol ac ennill arian ar yr un pryd. Mae'r cyfleoedd yn amrywio yn dibynnu ar y rhaglen.
Dyma'r llwybrau: q Cyfrifeg q Amaethyddiaeth q Mecaneg Amaethyddol q Gofal q Gweinyddu Busnes q Gofal Plant a Gwaith q Adeiladwaith Chwarae q Gwasanaeth Cwsmeriaid q Peirianneg q Lletygarwch ac Arlwyo q Cerbydau Modur q Manwerthu q Arwain Tîm q Atgyweirio Cyrff Cerbydau q Rheoli.
Twf Swyddi Cymru+
Os ydych rhwng 16 a 18 oed, mae Twf Swyddi Cymru+ yn cynnig rhaglenni dysgu i'ch cefnogi i feithrin sgiliau cysylltiedig â gwaith a nodi dewisiadau gyrfa. Mae hon yn rhaglen hyblyg iawn sydd wedi'i dylunio o'ch cwmpas chi i ddatblygu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau cydnabyddedig i roi hwb i'ch opsiynau gyrfa nes i chi fentro ar eich taith brentisiaeth, coleg neu waith. I wneud cais, rhaid i chi fod:
M Rhwng 16 a 18 oed; ac yn
M Byw yng Nghymru; a
M Ddim mewn addysg llawn amser, cyflogaeth na hyfforddiant
Beth fydd yn ei gynnig i mi?
M Derbyn cymorth hyfforddiant parhaus gan gontractwr dynodedig
M Tystiolaeth i'w datgan ar geisiadau gysylltiedig â gyrfa a'ch CV
M Profiadau hyfforddi a gwaith am ddim
M Magu eich hyder wrth i chi dyfu eich sgiliau a phrofiad
M Cael troed yn y drws a mynediad i swyddi gyda chyflogwyr lleol.
Pa gymorth sydd ar gael trwy Twf Swyddi Cymru+?
Mae tri edefyn o gymorth gan Twf Swyddi Cymru+:
M Twf Swyddi Cymru Plws Ymgysylltu
M Twf Swyddi Cymru Plws Datblygu
M Twf Swyddi Cymru Plws Cyflogaeth
Pam dod yn Brentis?
M Ennill wrth ddysgu - derbyn cyflog
M Ennill sgiliau, gwybodaeth, profiad a wynebu heriau newydd
M Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
M Cyfleoedd ardderchog i wneud cynnydd.
Pa fathau o brentisiaethau sydd ar gael?
M Mae tri math o brentisiaethau y gallwch wneud cais amdanynt, yn dibynnu ar sgiliau a chymwysterau cyfredol:
M Prentisiaeth Sylfaen - Lefel 2
M Prentisiaeth - Lefel 3
M Prentisiaeth Uwch - Lefel 4+
Prentisiaethau
Byddwch yn mynychu lleoliad gyda chyflogwr ac o bosibl yn mynd i'r Coleg am un diwrnod yr wythnos. Byddwch yn cael eich asesu yn y gweithle a chewch eich helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich portffolio.
Mae prentisiaeth yn rhaglen seiliedig ar waith lle y gallwch ennill cyflog wrth ddysgu. Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn 16 oed neu’n hŷn a heb fod mewn addysg amser llawn, gallwch wneud cais am Brentisiaeth.
Prentisiaethau Gradd
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Grŵp Colegau NPTC wedi cael cyllid yn ddiweddar o dan y Rhaglen Beilot Prentisiaethau Gradd newydd ar gyfer Cymru. Gan adlewyrchu anghenion sgiliau Cymru, gofynnwyd i brifysgolion a sefydliadau dyfarnu graddau eraill ddylunio cyfres newydd o raglenni digidol i alluogi sefydliadau yng Nghymru i wella sgiliau eu gweithwyr presennol neu recriwtio talent newydd mewn meysydd megis peirianneg meddalwedd, seiberddiogelwch a gwyddor data ar gyfer y Fframwaith Prentisiaethau Gradd Digidol newydd.