2 minute read

BAGLORIAETH SGILIAU CYMRU UWCH?

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch (BSCU) yn gymhwyster Lefel 3 newydd cyffrous sy'n cefnogi myfyrwyr i fod yn ddinasyddion effeithiol, cyfrifol a gweithgar, gan gyfarparu nhw â'r sgiliau ar gyfer astudio yn y dyfodol neu gyrchu'r farchnad swyddi.

Dyluniwyd y cymhwyster yn bennaf ar gyfer Myfyrwyr 16-19 oed, a gellir ei wneud ochr yn ochr â cymwysterau Lefel 3 eraill, gan gynnwys Safon Uwch.

BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?

Mae ein cwrs dwy flynedd yn cynnwys tri phrosiect: Prosiect Cymunedol Byd-eang, Prosiect Cyrchfan y Dyfodol, a Phrosiect Unigol. Byddwch yn datblygu ac yn cymhwyso'r pedwar sgìl Integredig ac yn cael cyfleoedd i ddatblygu'r tri sgìl sydd wedi'u hymwreiddio.

Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a chyd-destunau cyffrous a fydd yn seiliedig ar agenda datblygu cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a Nodau Llesiant Cymru fel y'i diffinnir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

PA SGILIAU FYDDAF YN EU DATBLYGU?

Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau sy'n ddeniadol i gyflogwyr, colegau a phrifysgolion gan gynnwys:

Sgiliau integredig

> Cynllunio a Threfnu

> Meddwl yn Feirniadol

> Datrys Problemau

> Creadigrwydd ac Arloesi

Sgiliau wedi'u hymwreiddio

> Llythrennedd

> Rhifedd

> Cymhwysedd Digidol

SUT FYDDAF YN CAEL FY ASESU?

Prosiect Cymunedol Byd-eang (25%)

Byddwch yn dewis mater byd-eang i ymchwilio iddo, yn rhannu eich gwybodaeth ag eraill ac yn cymryd rhan mewn gweithredu cymunedol.

Prosiect Cyrchfan y Dyfodol (25%)

Byddwch yn magu dealltwriaeth o chi'ch hun, yn ymchwilio i nodau cyflogaeth a lles y dyfodol ac yn cynllunio sut y gallwch chi gyflawni hyn.

Prosiect Unigol (50%)

Byddwch yn cynllunio, rheoli, ac yn ymchwilio i bwnc sy'n gysylltiedig â'ch dyheadau addysg neu yrfa yn y dyfodol, ac yn creu traethawd hir ysgrifenedig neu arteffact.

Gellir gwneud yr asesiadau drwy gydol y cwrs dwy flynedd a bydd cymedroli allanol yn digwydd ym mis Ionawr a mis Mai. Mae'n debygol y byddwch chi'n cwblhau'r Prosiect Unigol yn yr ail flwyddyn.

GYRFAOEDD GYDA BSCU

Mae'r cymhwyster hwn yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau pwysig y gallwch chi symud ymlaen â nhw waeth p'un a ydych yn mynd i'r brifysgol, hyfforddiant neu gyflogaeth. Bydd datblygu'r sgiliau hyn yn eich helpu i fod yn ddinesydd effeithiol, cyfrifol ac egnïol a gall gael effaith ddofn ar eich llwyddiant a'ch lles yn y dyfodol.

"Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn datblygu sgiliau datrys problemau gwerthfawr, drwy ddarparu problemau y gellir uniaethu â nhw sy'n galluogi dysgwyr i weithio'n gynhyrchiol tuag at atebion arfaethedig. Mae'n galluogi dysgwyr i ddadansoddi gwybodaeth, ystyried sawl ymagwedd at ymdrin â phroblem, ac wrth weithio ar y cyd, argymell atebion creadigol."

Rebecca Davies Prif Weithredwr Engineering Education Scheme Wales Ltd

Career Coach - cyngor gyrfaol wedi'i deilwra gan ddefnyddio gwybodaeth

Leol Am Y Farchnad Swyddi

Pan fydd gan fyfyrwyr weledigaeth glir o'r dyfodol, maen nhw'n fwy tebygol o ragori yn eu hastudiaethau a mynd ymlaen i greu gyrfaoedd llwyddiannus. Mae Career Coach yn offeryn ar-lein am ddim sydd ar gael gan Grŵp Colegau NPTC a all helpu i lunio'r weledigaeth honno.

Gan ddefnyddio data cynhwysfawr am y farchnad swyddi, gall Career Coach eich helpu i ddod o hyd i'ch swydd berffaith a'r cyrsiau a fydd yn eich helpu i gyrraedd yno!

Mae asesiad ar-lein manwl Career Coach yn awgrymu gyrfaoedd sy'n seiliedig ar eich diddordebau a'ch sgiliau. Gyda gwybodaeth fanwl am y farchnad lafur, enillion disgwyliedig a nifer y swyddi yn yr ardal, mae Career Coach yn tynnu sylw at y cyrsiau gorau i'ch helpu i symud ymlaen i'r yrfa o'ch dewis.

Mae Career Coach hefyd yn cysylltu â menter Barod am Yrfa y Coleg sydd wedi'i dylunio'n benodol i'ch paratoi ar gyfer y byd gwaith. Mae Barod am Yrfa yn cynnig gweithdai ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau ac ymarfer, lleoliadau profiad gwaith a chymorth gyda phob agwedd ar y broses ymgeisio.

Sganiwch yma i ddechrau defnyddio

Career Coach neu ewch i'n gwefan: www.nptcgroup.ac.uk

This article is from: