
1 minute read
Gwneud cais am Safon U
Gwneud cais AR-LEIN yn:
Ewch i'r bar chwilio a theipio un o'r pynciau Safon Uwch yr ydych am wneud cais amdano e.e. Ffrangeg a chliciwch i chwilio. Yna gallwch ddewis eich cwrs o'r rhestr a fydd yn ymddangos. Ar ôl i chi agor y dudalen we gallwch glicio y botwm "Gwneud Cais Nawr" ar y dudalen i ddechrau eich cais.
Byddwch yn astudio tair neu bedair Safon Uwch, ond dim ond am un y mae angen i chi wneud cais. Gallwch naill ai glicio 'Gwneud Cais Nawr' o dudalen pwnc benodol neu gallwch wneud cais o'r dudalen Safon Uwch / Safon UG - Pob Cwrs. Bydd opsiwn i ychwanegu eich pynciau ychwanegol ar y ffurflen gais.
Os mai hwn yw'r tro cyntaf i chi wneud cais i’r Coleg, bydd angen i chi greu cyfrif Hyb Dysgu felly gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad e-bost gennych yn barod.
Defnyddir eich enw defnyddiwr i ffurfio rhan gyntaf eich cyfeiriad bost (cyn y @).
Rhaid i’r Cyfrinair gynnwys o leiaf 9 nod a chynnwys o leiaf un briflythyren, un llythyren fechan ac un rhif.
Unwaith eich bod wedi llenwi’r ffurflen ac wedi clicio cofrestru, bydd ffenestr naid yn ymddangos gyda’ch enw defnyddiwr arniond byddwch hefyd yn derbyn cadarnhad trwy e-bost. Unwaith y byddwch wedi clicio ar gofrestru gallwch barhau â’ch cais. Mae gofyn i chi lenwi bob cam un ar ôl y llall. Os ar unrhyw adeg mae angen unrhyw help arnoch mae staff y Coleg bob amser wrth law i helpu dros y ffôn, trwy e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol! E-bost: admissions@nptcgroup.ac.uk
Gallwch stopio ar unrhyw bryd a bydd y cais yn cael ei gadw. I fewngofnodi unwaith eto ewch i hafan y Coleg. Lleolir y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen.
Rydyn ni'n cynllunio ein cyfweliadau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ar hyn o bryd. Gweler y wefan am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mae cyfweliad yn gyfle i chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid ddod i siarad â ni, dysgu am y Coleg a chael rhagor o wybodaeth am y pynciau neu’r cyrsiau yr ydych wedi dewis eu hastudio.
1 2 3 4
Trefnu eich cyfweliad Cynnig Amodol
Wedi i chi drafod eich gofynion mynediad yn eich cyfweliad, a dewis y cwrs yr ydych am ei astudio byddwn yn rhoi eich cynnig amodol ar Yr Hyb Dysgu, y gallwch ei dderbyn ar unwaith.
Dod o hyd i’ch cais
Os oes angen i chi ail-fewngofnodi i’ch cyfrif rywbryd - fe welwch y botwm FY NGHAIS ar ben y dudalen hafan.
Bydd modd i chi weld pa gam yn y broses ymgeisio yr ydych wedi ei gyrraedd wrth edrych ar eich hafan!