1 minute read

Coleg Bannau Brycheiniog

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

yn symud i'r dref

Mae darpariaeth addysg bellach yn Aberhonddu yn cael ei thrawsnewid gyda bwriad Grŵp Colegau NPTC i adleoli i ganol y dref.

Trosglwyddwyd Watton Mount yn Aberhonddu a'r hen lyfrgell ar Stryd y Llong gan Gyngor Sir Powys wrth gael eu prynu i Grŵp Colegau NPTC. Bydd hyn yn galluogi Grŵp Colegau NPTC i adleoli Coleg Bannau Brycheiniog i ganol y dref ar gyfer campws ag 'ymdeimlad o brifysgol', gan olygu y caiff addysg sy'n addas i'r 21ain ganrif gydag adnoddau da ei darparu yn y dref.

Mae hyn yn dilyn cytundeb cynharach rhwng y cyngor a Grŵp Colegau NPTC a welodd y Ganolfan Groeso gynt yn hen faes parcio'r farchnad wartheg yn cael ei ailgyflunio'n fewnol a'i hailfrandio gan Grŵp Colegau NPTC fel "Y Cwtch", gan ddarparu cyfleoedd dysgu lluosog i drigolion, yn trawsnewid i ganolfan galw heibio, yn ogystal â lle i gael ei ddefnyddio gan grwpiau a chlybiau cymunedol, o dan les 25 mlynedd.

Bydd yr adeiladau'n cael eu hadnewyddu gan y Coleg i fod yn gartref i dechnolegau rhyngweithiol a gofodau tra chyfoes ar gyfer sawl maes astudio. Mae'r ddau sefydliad hefyd yn gweithio mewn partneriaeth yn y dref yn atyniad blaenllaw Aberhonddu, Y Gaer, a fydd yn arwain at lyfrgell newydd i'r Coleg, rhai mannau dysgu a rennir a chaffi, a bydd oriau agor y llyfrgell gymunedol yn cael eu hymestyn i saith diwrnod yr wythnos.

Meddai Nigel Brinn, Cyfarwyddwr Gweithredol Economi a'r Amgylchedd Cyngor Sir Powys: “Bydd trosglwyddo'r adeiladau nodedig hyn yng nghanol y dref yn dod â manteision adfywio sylweddol i Aberhonddu, gan roi hwb i fasnach siopau a busnesau a chan ddod â chwa o awyr iach i ganol y dref.

“Bydd y cyngor yn cydweithio'n agos â Grwp Colegau NPTC wrth iddynt gyflwyno eu cynlluniau datblygu ar gyfer Coleg Bannau Brycheiniog.”

Dywedodd Mark Dacey, Prif Weithredwr a Phennaeth Grŵp Colegau NPTC ei fod wrth ei fodd â'r cynnydd sy'n cael ei wneud. “Mae'r prosiect hwn wedi bod ar y gweill ers tro, ac rydym yn falch iawn ei fod bellach yn symud i'r cyfeiriad cywir wrth i gontractau ar gyfer Watton Mount a Llyfrgell Stryd y Llong gael eu cyfnewid.”

This article is from: