
2 minute read
CyfLEuSTERau Arobryn
Castell-nedd: Labordai gwyddoniaeth o ansawdd uchel

Pontardawe: Estyniad cerbydau modur newydd


Castell-nedd: Bwyty hyfforddi o safon uchel - Blasus

Castell-nedd: Offer peirianneg o'r radd flaenaf



Llandarcy: Cyfleusterau chwaraeon o'r radd flaenaf
Canolfan adeiladwaith newydd yng Nghastell-nedd: Adran adeiladwaith arobryn
Y CWTCH - Hyb y Coleg o Fewn y Gymuned
Mae ychwanegiad diweddaraf Coleg Bannau Brycheiniog, Hyb Y Coleg o fewn y Gymuned – 'Y CWTCH' – wedi agor ei ddrysau yn swyddogol.
Bydd y ganolfan groeso gynt yn creu gweledigaeth ar gyfer addysg bellach yn Aberhonddu a bydd yn rhan o'r gymuned gyda mynediad agored i bawb. Dadorchuddiwyd plac gan Aelod Senedd blaenorol Brycheiniog a Maesyfed a'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i nodi'r achlysur. Dywedodd Ms Williams: "Mae'r adeilad hwn wedi cael diben newydd a bydd yn ehangu gweithgarwch y coleg drwy fod mor hygyrch a chanolog. Bydd yn ganolbwynt ac yn dod â phobl ynghyd. Rwy'n gweld yr adeilad hwn a'r hyn sy'n digwydd yn ysbrydoledig.”


Mae'r CWTCH wedi cael ei adnewyddu ac mae'n cynnwys ardaloedd gweithio hyblyg, cyfleusterau cynadledda fideo, sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol a mynediad i ryngrwyd 1GB hynod gyflym, ynghyd â chyfleusterau cyfrifiadura o'r radd flaenaf at ddefnydd myfyrwyr a'r cyhoedd.
Mae cynlluniau pellach i adleoli Coleg Bannau Brycheiniog yn nhref Aberhonddu. Mae trafodaethau'n mynd rhagddo ar hyn o bryd ynghylch caffael dau adeilad yn y dref. Byddwn yn gallu rhoi mynediad uniongyrchol i'n myfyrwyr i'r dref ac i'r cyfleusterau a ddarperir gan fusnesau lleol ar sail bob dydd.

Buddsoddiad i wella profiad
myfyrwyr yn dod i'r brig i Goleg
Castell-nedd
Mae Canolfan Academi'r Chweched Dosbarth yng Ngholeg
Castell-nedd (rhan o Grŵp Colegau NPTC) wedi ennill prif wobr am wella profiad myfyrwyr yng Ngwobrau Adeiladau Addysg Cymru 2019.
Mae'r wobr yn cydnabod sefydliad dysgu sydd wedi buddsoddi mewn gwella adeiladau sy'n gwella profiad myfyrwyr yn sylweddol. Bellach mae man cyfarfod ac astudio newydd ar gyfer myfyrwyr, ardal Goffi Starbucks, pencadlys gwasanaethau myfyrwyr, ac amgylchedd gwaith cynllun agored. Defnyddir y gofod hefyd ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.
Roedd y gwaith yn cynnwys gosod estyniad gwydr cyfoes newydd a drawsnewidiodd yr adeilad, gan gynyddu golau dydd a chreu lle. Roedd y dyluniad hefyd yn cynnwys cladin allanol newydd a phod mynediad lliw bywiog sy'n dynodi prif fynedfa'r coleg ac yn cysylltu'r hen a'r newydd yn ddi-dor.
Dywedodd Mark Dacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC:
“Rydyn ni wrth ein bodd gyda’r wobr a’r cy fl euster newydd sy’n arddangos ymrwymiad Grwp NPTC i fuddsoddi mewn cy fl eusterau'r coleg a darparu’r pro fi ad gorau posib i’n myfyrwyr."
Port Talbot
Rhoddwyd cymeradwyaeth dros dro i Grŵp Colegau NPTC gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Campws y Coleg gwerth miliynau, a fydd yn dod â’r sefydliad addysgol cyntaf i Harbourside ym Mhort Talbot. Gyda chost amcangyfrifedig o £28m, bydd y Campws yn cynnig yr holl gyfleusterau technolegol a Chanolfan Chweched Dosbarth penodedig; bydd y safle newydd yn rhoi hwb a groesawir yn gynnes gan y ganolfan siopa yn y rhanbarth wrth ddenu mwy na 1,000 o fyfyrwyr bob dydd. Cynlluniwyd y datblygiad hwn i gyd-fynd â Strategaeth Datblygiad Harbourside yr awdurdod lleol.