
1 minute read
ADDYSGU Arobryn
Yma yng Ngrŵp Colegau NPTC, cewch eich dysgu gan arbenigwyr sydd â chyfoeth o wybodaeth sy'n benodol i'r diwydiant ynghyd â chysylltiadau cadarn â'r cyflogwyr gorau, gan roi'r ansawdd addysgu a dysgu uchaf i chi. Yn wir, gan fod ein haddysgu mor dda rydym wedi cael ein henwi'n un o golegau gorau Cymru ac wedi cael ein rhestru'n uchel yn y DU*
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn rhoi'r cymorth unigol sydd ei hangen ar bob myfyriwr i lwyddo, boed hynny'n symud ymlaen i'r prifysgolion gorau, prentisiaethau neu i yrfa ddelfrydol gyda'r cyflogwyr gorau.
Ar ba lefel bynnag y byddwch yn ymuno â ni, byddwn gyda chi bob cam o'r ffordd i gefnogi eich taith addysgol, ac yn addo, pryd bynnag y byddwch yn penderfynu ein gadael, byddwch yn gadael gyda'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen i ffynnu.
O fewn pob maes pwnc ceir rhaglen asesu a chymorth rheolaidd. Byddwch yn ymwneud â chynllunio eich dysgu unigol a gosod targedau ar gyfer gwella sy'n cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda'ch tiwtoriaid. Rydym yn darparu cymorth tiwtorial yn ogystal â gwersi wedi'u hamserlennu i gynorthwyo'r gwaith o baratoi arholiadau, ceisiadau UCAS a chymorth bugeiliol. Mae gan ein llyfrgell adnoddau da ac mae'n darparu mynediad i'r gwasanaethau a'r adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich astudiaethau. Yn ogystal â chasgliadau helaeth o lyfrau, papurau newydd, cylchgronau a DVDs, mae ein canolfannau hefyd yn cynnig mynediad i wybodaeth ar-lein, cyngor ar ddulliau ymchwil a gallant helpu gyda geirdaon.
Rydym yn meithrin myfyrwyr dawnus a thalentog gyda chymorth a mentora arbenigol gan gynnwys cyngor ac arweiniad cynhwysfawr ar y broses ymgeisio UCAS gymhleth i'r prifysgolion gorau a chyrsiau cystadleuol fel Meddygaeth, Deintyddiaeth, Gwyddor Filfeddygol, a'r Gyfraith. Mae gan y Coleg siaradwyr gwadd, gan gynnwys sgyrsiau blynyddol a gyflwynir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, Ysgol Feddygol Caerdydd a thiwtoriaid derbyn Rhydgrawnt. Bydd cyfleoedd eraill i wella eich cais trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi fel yr Her Fathemateg, yr Olympiad Bioleg, Med-link, a digwyddiadau STEM.


