2 minute read

Colegau NPTC?

Next Article
Cymraeg yn y CoLEg

Cymraeg yn y CoLEg

Mae fy narlithwyr wedi bod yn gefnogol yn enwedig gyda fy nghais UCAS, mae bod yn rhan o raglen GATE (Rhaglen Rhagoriaeth Galluog a Thalentog) ac ymgymryd â'r Cymhwyster Prosiect Estynedig wir wedi fy mharatoi'n academaidd ar gyfer y brifysgol.

Dwi'n drist i fod yn gadael y coleg gan ei fod yn amgylchedd mor braf, ond mae mynd i Rydychen yn beth mawr. Mae'n eithaf brawychus ond dwi hefyd yn edrych ymlaen yn fawr ato.’’

Mae Ellie Sanders, myfyriwr Safon Uwch, wedi cael cynnig ysgoloriaeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio

Cysylltiadau Rhyngwladol a Hanes.

Mae hi'n gobeithio dilyn olion troed gwleidyddion lleol, fel yr MS presennol

Jeremy Miles (Gweinidog Addysg a'r

Gymraeg) a'r AS Christina Rees, ar ôl cael canlyniadau anhygoel yn ei Harholiadau Safon Uwch: Almaeneg – A, Hanes - A*, Cymdeithaseg - A, Cymhwyster Prosiect Estynedig - A*.

“Rwy'n falch iawn o fy nghanlyniadau, ac rwy'n credu y gallaf siarad ar ran pob myfyriwr bod hyn wedi bod yn arhosiad poenus, ond gyda chefnogaeth ein darlithwyr a'r Coleg, mae'r canlyniadau rydym wedi'u cyflawni heddiw wir yn adlewyrchu ein gwaith caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae'r darlithwyr wedi bod yn gefnogol ac wedi sicrhau ein bod yn gyfforddus gyda chynnwys y cyrsiau; maen nhw wedi cynnal sesiynau adolygu ychwanegol i ni ac ni allwn fod yn fwy diolchgar.

Allwn i wir ddim fod wedi cyflawni'r canlyniadau hyn heb eu cymorth a'u cefnogaeth.’’

Mae Erin Mckay, myfyriwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Astudiaethau Iechyd), yn mynd i Brifysgol Bath Spa i ddarllen Astudiaethau Plentyndod Cynnar ar ôl cyflawni Sêr Rhagoriaeth Driphlyg (D*D*D*). Dywedodd

"Rydw i wedi bod yn astudio yng Ngholeg Castell-nedd ers tair blynedd ar ôl newid o Safon U i Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac roedd yr amgylchedd dysgu mor gefnogol.”

Mae Aled Morgan, myfyriwr Safon Uwch, wedi penderfynu dewis Prentisiaeth Gradd mewn Peirianneg Sifil ar ôl cyflawni graddau anhygoel, sef A* Ffiseg, A* Mathemateg, A* Cyfrifiadureg, A mewn Mathemateg Bellach a B yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig.

Fe gyflawnodd Katie Edwards, cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gelli-fedw, A, A, A mewn Safon Uwch Saesneg Llenyddiaeth/ Iaith; Seicoleg a Throseddeg. Mae hi'n mynd i Brifysgol Bryste i astudio Troseddeg.

A hithau wrth ei bodd â'i chanlyniadau, dywedodd Katie fod ei blwyddyn gyntaf o astudio ar-lein yn anodd, ond yr oedd yn llawer gwell ar ôl symud i wyneb yn wyneb.

"Roedd hi'n anodd yn y flwyddyn gyntaf ond roedd y staff addysgu yn wych ac fe wellodd pethau'n fawr pan ddaethon ni nôl i'r Coleg"

Derbyniodd Ffion Willis sêr

Rhagoriaeth Driphlyg (D*D*D*) yn ei chymhwyster galwedigaethol Gwyddoniaeth Gymhwysol (Gwyddor Biofeddygol) ac mae hi bellach yn mynd i Brifysgol Abertawe i astudio Awdioleg.

“Dewisais Awdioleg gan i mi fwynhau ochr Bioleg y cwrs yn fawr yn y Coleg. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth gwahanol mewn meddygaeth.’’

Derbyniodd yr egin gyfreithiwr Alex Thomas A* yn y Gyfraith, A mewn Busnes, A* mewn Saesneg Iaith a Llenyddiaeth ac A* ar gyfer y Cymhwyster Prosiect Estynedig. Mae wedi cael ei dderbyn i Brifysgol Caerwysg i astudio'r Gyfraith.

Enillodd y mabolgampwr Ethan Griffiths raddau uchaf o Sêr Rhagoriaeth Driphlyg (D*D*D*) yn ei gymhwyster Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon galwedigaethol ac mae bellach yn mynd i astudio i fod yn geiropractydd ym Mhrifysgol Bournemouth.

“Fe wnes i fwynhau'r Coleg yn fawr iawn. Dwi wedi dioddef rhai anafiadau o chwarae rygbi ac o ganlyniad i ymweliadau â'r ceiropractydd a'r dulliau a ddefnyddiwyd penderfynais mai dyna'r hyn o'n i eisiau gwneud.’’

Mae Zack Childs ar ben ei ddigon gyda'i ganlyniadau Safon Uwch ar ôl derbyn A* mewn Mathemateg, A* mewn Ffiseg, A* mewn Cemeg, A* mewn Bioleg ac A yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig. Mae wedi cael ei dderbyn i Goleg Imperial Llundain i astudio Biocemeg ac mae'n gobeithio ymgymryd â gwaith ymchwil.

Cyflawnodd y myfyriwr Safon Uwch Oliver Jones A mewn Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, A mewn Cymdeithaseg ac A* ysgubol mewn Almaeneg. Ac yntau'n gyn fyfyriwr Llangatwg, roedd yn mwynhau'r Coleg ac mae'n dweud y bydd yn ei fethu'n fawr. Mae'n cymryd blwyddyn bwlch, ond mae am fynd i'r brifysgol yn Yr Almaen i astudio yn Almaeneg.

This article is from: